Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about advanced features

Nodweddion Uwch

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 49

 Help about opening options

No versions valid at: 30/07/2013

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 30/07/2013. Nid yw'r fersiwn hon o'r ddarpariaeth hon yn ddilys ar gyfer y pwynt hwn mewn amser. Help about Status

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, Adran 49 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 14 Mawrth 2025. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

Yn ddilys o 30/09/2013

49Ymchwiliadau lleolLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Caiff y Comisiwn neu, yn ôl y digwydd, brif gyngor, beri i ymchwiliad lleol gael ei gynnal mewn cysylltiad ag unrhyw adolygiad a gynhelir ganddo o dan y Rhan hon.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru, y Comisiwn neu, yn ôl y digwydd, brif gyngor beri i ymchwiliad lleol gael ei gynnal mewn cysylltiad â gorchymyn drafft a lunnir o dan adran 43.

(3)Caiff person a benodir i gynnal ymchwiliad drwy wŷs ei gwneud yn ofynnol i berson fod yn bresennol ar adeg ac mewn man a bennir yn y wŷs—

(a)i roi tystiolaeth, neu

(b)i gyflwyno unrhyw wybodaeth yn ymwneud ag unrhyw fater dan sylw a ddelir gan y person neu sydd o dan reolaeth y person.

(4)Caiff person a benodir i gynnal ymchwiliad gymryd tystiolaeth ar lw ac at y diben hwnnw caiff weinyddu llwon.

(5)Rhaid talu unrhyw dreuliau yr eir iddynt yn rhesymol i berson y mae’n ofynnol iddo fod yn bresennol o dan is-adran (3).

(6)Er gwaethaf is-adran (3)(b), ni chaniateir ei gwneud yn ofynnol i berson gyflwyno teitl (neu unrhyw offeryn sy’n ymwneud â theitl) unrhyw dir nad yw’n perthyn i awdurdod lleol.

(7)Mae person yn cyflawni trosedd os bydd y person—

(a)yn gwrthod cydymffurfio â gofyniad gwŷs a gyflwynir i’r person o dan is-adran (3) neu’n methu’n fwriadol â chydymffurfio â gofyniad o’r fath,

(b)yn newid, atal, cuddio neu ddinistrio’n fwriadol unrhyw wybodaeth y mae’n ofynnol i’r person ei chyflwyno o dan yr adran hon.

(8)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (7) yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol neu’r carchar am dymor nad yw’n hwy na 6 mis, neu’r ddau.

(9)Caiff y person neu’r corff sy’n peri i ymchwiliad gael ei gynnal o dan yr adran hon wneud gorchmynion o ran—

(a)costau’r partïon yn yr ymchwiliad, a

(b)y partïon y mae’r costau i’w talu ganddynt.

(10)Caniateir i orchymyn o dan is-adran (9) gael ei wneud yn un o reolau’r Uchel Lys ar gais parti a enwir yn y gorchymyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 49 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(b)

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth