Deddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013

72DehongliLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Yn y Ddeddf hon, oni bai fod y cyd-destun yn gofyn yn wahanol—

  • mae “addasu” mewn perthynas â deddfiad yn cynnwys diwygio neu ddiddymu,

  • [F1ystyr “aelod o un o ddeddfwrfeydd y DU” yw—

    (a)

    Aelod o’r Senedd;

    (b)

    aelod o Dŷ’r Cyffredin;

    (c)

    aelod o Dŷ’r Arglwyddi;

    (d)

    aelod o Senedd yr Alban;

    (e)

    aelod o Gynulliad Gogledd Iwerddon,”;]

  • ystyr “ardal llywodraeth leol” yw cymuned neu brif ardal,

  • ystyr “awdurdod lleol” yw prif gyngor neu gyngor cymuned,

  • “cyfarfod cymunedol” yw cyfarfod o’r etholwyr llywodraeth leol ar gyfer cymuned a gynullwyd o dan adran 27(1) o Ddeddf 1972,

  • [F1“ystyr “cynghorydd arbennig‍” yw cynghorydd arbennig o fewn yr ystyr a roddir i “special adviser”—

  • ystyr “Deddf 1972” yw Deddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70),

  • [F2ystyr “deddfiad” yw unrhyw un o’r canlynol neu ddarpariaeth mewn unrhyw un o’r canlynol—

    (a)

    Deddf neu Fesur gan Senedd Cymru;

    (b)

    Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig;

    (c)

    unrhyw is-ddeddfwriaeth.]

  • ystyr “Mesur 2011” yw Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (mccc 4),

  • [F1“ystyr “plaid wleidyddol gofrestredig yw plaid sydd wedi ei chofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (p. 41),]

  • ystyr “prif ardal” yw sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru,

  • ystyr “prif gyngor” yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru.

(2)Mae Atodlen 3 (mynegai o ymadroddion wedi eu diffinio) yn cael effaith.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 72 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 75(1)(d)