[F1Deddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013]
2013 dccc 4
Deddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud darpariaeth ynghylch cyfansoddiad a swyddogaethau Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru; i wneud darpariaethau amrywiol sy’n ymwneud â llywodraeth leol; ac at ddibenion cysylltiedig.
[30 Gorffennaf 2013]
Gan ei fod wedi ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a chael cydsyniad Ei Mawrhydi, deddfir fel a ganlyn:-
Diwygiadau Testunol
F1Title wedi ei amnewid (25.6.2024) gan Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), aau. 11(1), 25(1)(a)
RHAN 1LL+CCYFLWYNIAD
1TrosolwgLL+C
(1)Mae’r Rhan hon yn rhoi trosolwg o ddarpariaethau’r Ddeddf hon.
[F2(2)Mae Rhan 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfansoddiad a swyddogaethau Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru.]
(3)Mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch—
(a)dyletswyddau’r Comisiwn i fonitro’r trefniadau ar gyfer llywodraeth leol a, lle y bo’n briodol, i gynnal adolygiadau, a dyletswyddau prif gynghorau i fonitro’r trefniadau ar gyfer y cymunedau yn eu hardal a, lle y bo’n briodol, i gynnal adolygiadau (gweler adrannau 21 a 22),
(b)y mathau o adolygiadau y gellir eu cynnal, yr ystyriaethau i’r corff adolygu eu hystyried a’r newidiadau y gellir eu hargymell mewn perthynas â phob math o adolygiad (gweler adrannau 23 i 33),
(c)y weithdrefn ar gyfer cynnal adolygiadau (gweler adrannau 34 i 36),
(d)gweithredu argymhellion yn dilyn adolygiad a materion cysylltiedig (megis trosglwyddo staff neu eiddo rhwng prif gynghorau a chyrff cyhoeddus eraill) (gweler adrannau 37 i 44).
[F3(3A)Mae Rhan 3A yn gwneud darpariaeth ynghylch adolygiadau o ffiniau etholaethau’r Senedd a gynhelir gan y Comisiwn.]
(4)Mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch adolygu aelodaeth cyrff cyhoeddus penodol.
(5)Mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth—
(a)ynghylch penodi aelod llywyddol prif gyngor;
(b)sy’n ailddatgan ac yn ymestyn pwerau awdurdodau lleol mewn perthynas â hyrwyddo a gwrthwynebu Biliau preifat;
(c)sy’n ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth cynghorau cymuned fod ar gael ar ffurf electronig;
(d)ynghylch cyhoeddi cofrestrau o fuddiannau aelodau cyrff cyhoeddus penodol (gan gynnwys awdurdodau lleol) yn electronig;
(e)yn ymwneud â mynychu cyfarfodydd prif gynghorau o bell;
(f)yn ymwneud â rôl pwyllgorau gwasanaethau democrataidd;
(g)sy’n cymhwyso gofynion o ran cydbwysedd gwleidyddol i bwyllgorau archwilio prif bwyllgorau;
(h)yn ymwneud â swyddogaethau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol a sut y mae’n paratoi adroddiadau;
(i)ynghylch sefydlu cyd-bwyllgorau safonau;
(j)sy’n galluogi’r pwyllgor safonau neu swyddog monitro awdurdod perthnasol i gyfeirio achosion sy’n ymwneud ag ymddygiad at bwyllgor safonau neu swyddog monitro awdurdod perthnasol arall.
(6)Mae Rhan 6 yn gwneud darpariaeth gyffredinol ynghylch y Ddeddf hon.
Diwygiadau Testunol
F2A. 1(2) wedi ei amnewid (25.6.2024) gan Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), a. 25(1)(a), Atod. 1 para. 44(2)
F3A. 1(3A) wedi ei fewnosod (24.8.2024) gan Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), a. 25(2)(c), Atod. 3 para. 2(2)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 1 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 75(1)(a)
RHAN 2LL+C [F4Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru]
Diwygiadau Testunol
F4Pennawd Rhn. 2 wedi ei amnewid (25.6.2024) gan Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), a. 25(1)(a), Atod. 1 para. 44(3)
Parhad ac enwLL+C
2 [F5Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru] LL+C
(1)Mae’r corff corfforaethol a enwir yn Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru (a sefydlwyd o dan adran 53 o Ddeddf 1972) i barhau mewn bodolaeth.
F6(2). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
[F7(3)Mae’r corff corfforedig hwnnw (a ailenwyd gyntaf gan is-adran (2)) wedi ei ailenwi yn Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru (y cyfeirir ato yn y Ddeddf hon fel “y Comisiwn).]
Diwygiadau Testunol
F5Pennawd a. 2 wedi ei amnewid (25.6.2024) gan Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), aau. 12(1)(c), 25(1)(a)
F6A. 2(2) wedi ei hepgor (25.6.2024) yn rhinwedd Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), aau. 12(1)(a), 25(1)(a)
F7A. 2(3) wedi ei fewnosod (25.6.2024) gan Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), aau. 12(1)(b), 25(1)(a)
Gwybodaeth Cychwyn
I2A. 2 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)
StatwsLL+C
3StatwsLL+C
(1)Nid yw’r Comisiwn i’w ystyried yn was nac yn asiant i’r Goron nac yn un sy’n mwynhau unrhyw statws, imiwnedd neu fraint sydd gan y Goron.
(2)Nid yw eiddo’r Comisiwn i’w ystyried yn eiddo’r Goron nac yn eiddo sy’n cael ei ddal ar ran y Goron.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 3 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)
AelodauLL+C
4AelodaethLL+C
(1)Yr aelodau a ganlyn fydd aelodau’r Comisiwn—
(a)aelod i gadeirio’r Comisiwn (yr “aelod cadeirio”),
(b)aelod i weithredu fel dirprwy i’r aelod cadeirio, ac
[F8(c)o leiaf 1 aelod arall ond dim mwy na 7 o aelodau eraill.]
(2)Mae’r aelodau i’w penodi gan Weinidogion Cymru ar delerau ac amodau a benderfynir gan Weinidogion Cymru (gan gynnwys amodau o ran tâl, lwfansau a threuliau).
(3)[F9Ni chaiff aelod fod yn]—
[F10(a)aelod o un o ddeddfwrfeydd y DU;]
[F11(ba)person a gymerir ymlaen gan aelod o un o ddeddfwrfeydd y DU, o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau, mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau’r aelod;
(bb)person a gymerir ymlaen gan blaid wleidyddol gofrestredig o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau;
(bc)cynghorydd arbennig;]
(c)aelod o awdurdod lleol [F12neu’n aelod o staff awdurdod lleol] F13...;
F14(d). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(e)aelod o awdurdod Parc Cenedlaethol [F15, neu’n aelod o staff awdurdod Parc Cenedlaethol,] ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;
[F16(ea)aelod o gyd-bwyllgor corfforedig, neu’n aelod o staff cyd-bwyllgor corfforedig, a sefydlir gan reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1);
(eb)aelod o awdurdod tân ac achub, neu’n aelod o staff awdurdod tân ac achub, a gyfansoddir gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p. 21), neu gynllun y mae adran 4 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo;]
(f)comisiynydd heddlu a throsedd ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru; neu
(g)aelod o staff y Comisiwn.
Diwygiadau Testunol
F8A. 4(1)(c) wedi ei amnewid (25.6.2024) gan Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), aau. 13, 25(1)(a)
F9Geiriau yn a. 4(3) wedi eu hamnewid (25.6.2024) gan Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), aau. 14(1)(a), 25(1)(a)
F10A. 4(3)(a) wedi ei amnewid (25.6.2024) gan Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), aau. 14(1)(b), 25(1)(a)
F11A. 4(3)(ba)-(bc) wedi ei amnewid ar gyfer a. 4(3)(b) (25.6.2024) gan Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), aau. 14(1)(c), 25(1)(a)
F12Geiriau yn a. 4(3)(c) wedi eu mewnosod (10.9.2024) gan Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (asc 5), aau. 66(2)(a), 72(1)(c)
F13Geiriau yn a. 4(3)(c) wedi eu hepgor (1.4.2021) yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 163(6), 175(7); O.S. 2021/231, ergl. 3(a)
F14A. 4(3)(d) wedi ei hepgor (10.9.2024) yn rhinwedd Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (asc 5), aau. 66(2)(b), 72(1)(c)
F15Geiriau yn a. 4(3)(e) wedi eu mewnosod (10.9.2024) gan Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (asc 5), aau. 66(2)(c), 72(1)(c)
F16A. 4(3)(ea)(eb) wedi ei fewnosod (10.9.2024) gan Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (asc 5), aau. 66(2)(d), 72(1)(c)
Gwybodaeth Cychwyn
I4A. 4 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)
5DeiliadaethLL+C
Mae aelodau’r Comisiwn yn dal ac yn gadael swydd yn unol â thelerau ac amodau eu penodiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 5 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)
TrafodionLL+C
6TrafodionLL+C
(1)3 yw’r cworwm ar gyfer cyfarfodydd o’r Comisiwn.
[F17(1A)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio is-adran (1) i newid y cworwm, ond ni chânt newid y cworwm i rif sy’n is na 3.]
(2)Fel arall, caiff y Comisiwn reoleiddio ei weithdrefn ei hun.
(3)Nid yw unrhyw ddiffyg ym mhenodiad aelod yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wneir gan y Comisiwn.
Diwygiadau Testunol
F17A. 6(1A) wedi ei fewnosod (25.6.2024) gan Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), aau. 15, 25(1)(a)
Gwybodaeth Cychwyn
I6A. 6 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)
7Y sêl a dilysrwydd dogfennauLL+C
(1)Caniateir i’r Comisiwn gael sêl.
(2)Dilysir y weithred o osod y sêl drwy lofnod aelod o’r Comisiwn neu lofnod person arall sydd wedi ei awdurdodi gan y Comisiwn at y diben hwnnw.
(3)Mae dogfen yr honnir ei bod wedi ei chyflawni’n briodol o dan sêl y Comisiwn, neu ei bod wedi ei llofnodi ar ei ran gan y prif weithredwr neu aelod arall o staff sydd wedi ei awdurdodi i wneud hynny, i gael ei derbyn yn dystiolaeth a rhaid cymryd ei bod wedi ei chyflawni neu wedi ei llofnodi felly oni phrofir i’r gwrthwyneb.
Gwybodaeth Cychwyn
I7A. 7 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)
Staff, arbenigwyr a chomisiynwyr cynorthwyolLL+C
8Prif weithredwrLL+C
(1)Rhaid i’r Comisiwn gyflogi prif weithredwr.
(2)Mae’r prif weithredwr i’w benodi gan [F18y Comisiwn] ar delerau ac amodau a benderfynir [F19ganddo] (gan gynnwys amodau o ran tâl, pensiwn, lwfansau a threuliau).
[F20(2A)Ond os yw swydd prif weithredwr wedi bod yn wag am dros chwe mis, caiff Gweinidogion Cymru benodi prif weithredwr o dan unrhyw delerau ac amodau a bennir ganddynt (gan gynnwys amodau o ran cydnabyddiaeth ariannol, pensiwn, lwfansau a threuliau).]
(3)Cyn penodi prif weithredwr [F21o dan is-adran (2A),] rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Comisiwn.
(4)Ni chaiff y prif weithredwr fod—
[F22(a)aelod o un o ddeddfwrfeydd y DU;]
[F23(ba)person a gymerir ymlaen gan aelod o un o ddeddfwrfeydd y DU, o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau, mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau’r aelod;
(bb)person a gymerir ymlaen gan blaid wleidyddol gofrestredig o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau;
(bc)cynghorydd arbennig;]
(c)yn aelod o awdurdod lleol [F24neu’n aelod o staff awdurdod lleol];
F25(d). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(e)yn aelod o awdurdod Parc Cenedlaethol [F26, neu’n aelod o staff awdurdod Parc Cenedlaethol,] ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;
[F27(ea)yn aelod o gyd-bwyllgor corfforedig, neu’n aelod o staff cyd-bwyllgor corfforedig, a sefydlir gan reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1);
(eb)yn aelod o awdurdod tân ac achub, neu’n aelod o staff awdurdod tân ac achub, a gyfansoddir gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p. 21), neu gynllun y mae adran 4 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo;]
(f)yn gomisiynydd heddlu a throsedd ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru.
Diwygiadau Testunol
F18Gair yn a. 8(2) wedi ei amnewid (1.4.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 163(2)(a), 175(7); O.S. 2021/231, ergl. 3(a)
F19Gair yn a. 8(2) wedi ei amnewid (1.4.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 163(2)(b), 175(7); O.S. 2021/231, ergl. 3(a)
F20A. 8(2A) wedi ei fewnosod (1.4.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 163(3), 175(7); O.S. 2021/231, ergl. 3(a)
F21Geiriau yn a. 8(3) wedi eu mewnosod (1.4.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 163(4), 175(7); O.S. 2021/231, ergl. 3(a)
F22A. 8(4)(a) wedi ei amnewid (25.6.2024) gan Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), aau. 14(2)(a), 25(1)(a)
F23A. 8(4)(ba)-(bc) wedi ei amnewid ar gyfer a. 8(4)(b) (25.6.2024) gan Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), aau. 14(2)(b), 25(1)(a)
F24Geiriau yn a. 8(4)(c) wedi eu mewnosod (10.9.2024) gan Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (asc 5), aau. 66(3)(a), 72(1)(c)
F25A. 8(4)(d) wedi ei hepgor (10.9.2024) yn rhinwedd Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (asc 5), aau. 66(3)(b), 72(1)(c)
F26Geiriau yn a. 8(4)(e) wedi eu mewnosod (10.9.2024) gan Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (asc 5), aau. 66(3)(c), 72(1)(c)
F27A. 8(4)(ea)(eb) wedi ei fewnosod (10.9.2024) gan Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (asc 5), aau. 66(3)(d), 72(1)(c)
Gwybodaeth Cychwyn
I8A. 8 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)
9Staff eraillLL+C
(1)Caiff y Comisiwn gyflogi staff.
(2)Mae’r staff i’w cyflogi ar delerau ac amodau a benderfynir gan y Comisiwn (gan gynnwys amodau o ran tâl, pensiwn, lwfansau a threuliau).
(3)Rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn penderfynu ar y symiau sy’n daladwy i’w staff mewn cysylltiad â thâl, pensiynau, lwfansau a threuliau.
Gwybodaeth Cychwyn
I9A. 9 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)
10ArbenigwyrLL+C
(1)Caiff y Comisiwn benodi person (“arbenigwr”) i’w gynorthwyo i arfer ei swyddogaethau.
(2)Cyn penodi arbenigwr rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Gweinidogion Cymru.
(3)Ni chaniateir i benodiad o dan is-adran (1) gael ei wneud oni bai bod y Comisiwn wedi ei fodloni bod gan yr arbenigwr wybodaeth, profiad neu arbenigedd sy’n berthnasol i’r broses o arfer ei swyddogaethau.
(4)Caiff y Comisiwn dalu unrhyw dâl, lwfansau neu dreuliau a benderfynir ganddo i’r arbenigwr.
(5)Rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn penderfynu ar y tâl neu’r lwfansau sy’n daladwy i arbenigwr.
Gwybodaeth Cychwyn
I10A. 10 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)
11Comisiynwyr cynorthwyolLL+C
[F28(1)Caiff y Comisiwn benodi un neu ragor o bersonau (a elwir yn “comisiynydd cynorthwyol) y caiff y Comisiwn ddirprwyo swyddogaethau iddo neu iddynt yn unol ag adran 13(1).]
(2)[F29Ni chaiff comisiynydd cynorthwyol fod yn]—
[F30(a)aelod o un o ddeddfwrfeydd y DU;]
[F31(ba)person a gymerir ymlaen gan aelod o un o ddeddfwrfeydd y DU, o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau’r aelod;
(bb)person a gymerir ymlaen gan blaid wleidyddol gofrestredig o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau;
(bc)cynghorydd arbennig;]
(c)aelod o awdurdod lleol [F32neu’n aelod o staff awdurdod lleol] F33...;
F34(d). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(e)aelod o awdurdod Parc Cenedlaethol [F35, neu’n aelod o staff awdurdod Parc Cenedlaethol,] ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;
[F36(ea)aelod o gyd-bwyllgor corfforedig, neu’n aelod o staff cyd-bwyllgor corfforedig, a sefydlir gan reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1);
(eb)aelod o awdurdod tân ac achub, neu’n aelod o staff awdurdod tân ac achub, a gyfansoddir gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p. 21), neu gynllun y mae adran 4 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo;]
(f)comisiynydd heddlu a throsedd ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru; neu
(g)aelod o staff y Comisiwn.
(3)Cyn penodi comisiynydd cynorthwyol rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Gweinidogion Cymru.
(4)Caiff y Comisiwn dalu unrhyw dâl, lwfansau neu dreuliau a benderfynir ganddo i gomisiynydd cynorthwyol.
(5)Rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn penderfynu ar y tâl neu’r lwfansau sy’n daladwy i gomisiynydd cynorthwyol.
Diwygiadau Testunol
F28A. 11(1) wedi ei amnewid (25.6.2024) gan Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), aau. 16(1)(a), 25(1)(a)
F29Geiriau yn a. 11(2) wedi eu hamnewid (25.6.2024) gan Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), aau. 16(1)(b)(i), 25(1)(a)
F30A. 11(2)(a) wedi ei amnewid (25.6.2024) gan Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), aau. 16(1)(b)(ii), 25(1)(a)
F31A. 11(2)(ba)-(bc) wedi ei amnewid ar gyfer a. 11(2)(b) (25.6.2024) gan Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), aau. 16(1)(b)(iii), 25(1)(a)
F32Geiriau yn a. 11(2)(c) wedi eu mewnosod (10.9.2024) gan Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (asc 5), aau. 66(4)(a), 72(1)(c)
F33Geiriau yn a. 11(2)(c) wedi eu hepgor (1.4.2021) yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 163(6), 175(7); O.S. 2021/231, ergl. 3(a)
F34A. 11(2)(d) wedi ei hepgor (10.9.2024) yn rhinwedd Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (asc 5), aau. 66(4)(b), 72(1)(c)
F35Geiriau yn a. 11(2)(e) wedi eu mewnosod (10.9.2024) gan Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (asc 5), aau. 66(4)(c), 72(1)(c)
F36A. 11(2)(ea)(eb) wedi ei fewnosod (10.9.2024) gan Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (asc 5), aau. 66(4)(d), 72(1)(c)
Gwybodaeth Cychwyn
I11A. 11 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)
Pwerau cyffredinol a chyfarwyddiadauLL+C
12PwerauLL+C
(1)Caiff y Comisiwn wneud unrhyw beth y bwriedir iddo hwyluso’r arferiad o’i swyddogaethau neu sy’n ffafriol i’r arferiad o’i swyddogaethau neu’n gysylltiedig â hynny.
(2)Ond ni chaiff y Comisiwn—
(a)benthyca arian;
(b)caffael tir neu eiddo arall heb gydsyniad Gweinidogion Cymru; neu
(c)ffurfio a hyrwyddo cwmnïau.
Gwybodaeth Cychwyn
I12A. 12 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)
13DirprwyoLL+C
(1)Caiff y Comisiwn ddirprwyo i un neu fwy o’i aelodau neu [F37un neu fwy o’i gomisiynwyr cynorthwyol] y swyddogaethau hynny o dan [F38—
(a)Penodau 2 i 4, 6 neu 7 o Ran 3 (swyddogaethau sy’n ymwneud â chynnal adolygiadau o lywodraeth leol neu ymchwiliadau lleol);
(b)Rhan 3A (swyddogaethau sy’n ymwneud ag adolygiadau o ffiniau etholaethau’r Senedd);
(c)Atodlen 1 i Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (swyddogaethau sy’n ymwneud ag adolygiadau cychwynnol),
fel a benderfynir ganddo i’r graddau y mae wedi eu dirprwyo felly.]
(2)Nid yw is-adran (1) yn effeithio ar—
(a)cyfrifoldeb y Comisiwn dros arfer swyddogaethau dirprwyedig, na
(b)gallu’r Comisiwn i arfer swyddogaethau dirprwyedig.
Diwygiadau Testunol
F37Geiriau yn a. 13(1) wedi eu hamnewid (25.6.2024) gan Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), aau. 16(2), 25(1)(a)
F38Geiriau yn a. 13(1) wedi eu hamnewid (24.8.2024) gan Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), a. 25(2)(c), Atod. 3 para. 2(3)
Gwybodaeth Cychwyn
I13A. 13 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)
14CyfarwyddiadauLL+C
(1)Rhaid i’r Comisiwn gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd (boed yn gyffredinol neu’n benodol) a roddir iddo gan Weinidogion Cymru.
(2)Caniateir i gyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru o dan y Ddeddf hon gael ei amrywio neu ei ddirymu drwy gyfarwyddyd dilynol.
[F39(3)Nid yw’r adran hon yn caniatáu i Weinidogion Cymru roi cyfarwyddyd i’r Comisiwn yn ymwneud ag arfer ei swyddogaethau o dan Ran 3A (swyddogaethau sy’n ymwneud ag adolygiadau o ffiniau etholaethau’r Senedd).]
Diwygiadau Testunol
F39A. 14(3) wedi ei fewnosod (24.8.2024) gan Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), a. 25(2)(c), Atod. 3 para. 2(4)
Gwybodaeth Cychwyn
I14A. 14 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)
Materion ariannolLL+C
15CyllidoLL+C
(1)Caiff Gweinidogion Cymru dalu grantiau i’r Comisiwn o symiau a benderfynir ganddynt.
(2)Gwneir grant yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a bennir gan Weinidogion Cymru (gan gynnwys amodau ynghylch ad-dalu).
Gwybodaeth Cychwyn
I15A. 15 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)
16Swyddog cyfrifydduLL+C
(1)Rhaid i Weinidogion Cymru ddynodi person i weithredu’n swyddog cyfrifyddu i’r Comisiwn.
(2)Mae gan y swyddog cyfrifyddu, mewn perthynas â chyfrifon a chyllid y Comisiwn, y cyfrifoldebau a bennir mewn cyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru.
(3)Ymhlith y cyfrifoldebau y caniateir eu pennu mae—
(a)cyfrifoldebau mewn perthynas â llofnodi cyfrifon;
(b)cyfrifoldebau am briodoldeb a rheoleidd-dra cyllid y Comisiwn;
(c)cyfrifoldebau am ddarbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd wrth i’r Comisiwn ddefnyddio ei adnoddau;
(d)cyfrifoldebau sy’n ddyledus i Weinidogion Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol;
(e)cyfrifoldebau sy’n ddyledus i Dŷ’r Cyffredin neu Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Tŷ hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I16A. 16 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)
17Pwyllgor archwilioLL+C
(1)Rhaid i’r Comisiwn sefydlu pwyllgor (“pwyllgor archwilio”) i—
(a)adolygu materion ariannol y Comisiwn a chraffu arnynt,
(b)adolygu ac asesu trefniadau rheoli risg, rheolaeth fewnol a llywodraethu corfforaethol y Comisiwn,
(c)adolygu ac asesu darbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd defnydd y Comisiwn o’i adnoddau wrth gyflawni ei swyddogaethau, a
(d)llunio adroddiadau a gwneud argymhellion i’r Comisiwn mewn perthynas ag adolygiadau a gynhelir o dan baragraffau (a), (b) neu (c).
(2)Rhaid i’r pwyllgor archwilio anfon copïau o’i adroddiadau a’i argymhellion at Weinidogion Cymru.
(3)Y pwyllgor archwilio sydd i benderfynu sut i arfer ei swyddogaethau o dan yr adran hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I17A. 17 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)
18Pwyllgor archwilio: aelodaethLL+C
(1)Mae aelodau’r pwyllgor archwilio i fod fel a ganlyn—
(a)o leiaf ddau aelod o’r Comisiwn, a
(b)o leiaf un aelod lleyg.
(2)Ni chaiff aelod cadeirio’r Comisiwn fod yn aelod o’r pwyllgor archwilio.
(3)Caiff y Comisiwn dalu unrhyw dâl, lwfansau a threuliau a benderfynir ganddo i aelod lleyg.
(4)Rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn penderfynu ar y tâl neu’r lwfansau sy’n daladwy i aelod lleyg.
(5)Yn yr adran hon, ystyr “aelod lleyg” yw unrhyw berson ar wahân i—
(a)un o aelodau neu gyflogeion y Comisiwn, neu
(b)arbenigwr sydd wedi ei benodi o dan adran 10(1) neu gomisiynydd cynorthwyol sydd wedi ei benodi o dan adran 11(1).
Gwybodaeth Cychwyn
I18A. 18 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)
19Cyfrifon ac archwilio allanolLL+C
(1)Ar gyfer pob blwyddyn ariannol, rhaid i’r Comisiwn—
(a)cadw cyfrifon priodol a chofnodion priodol mewn perthynas â hwy, a
(b)llunio datganiad o gyfrifon.
(2)Rhaid i bob datganiad o gyfrifon gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan Weinidogion Cymru o ran—
(a)yr wybodaeth i’w chynnwys ynddo,
(b)y modd y mae’r wybodaeth i gael ei chyflwyno,
(c)y dulliau a’r egwyddorion y mae’r datganiad i’w lunio yn unol â hwy.
(3)Heb fod yn hwyrach nag 31 Awst ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i’r Comisiwn gyflwyno ei ddatganiad o gyfrifon i—
(a)Gweinidogion Cymru, a
(b)Archwilydd Cyffredinol Cymru.
(4)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru—
(a)archwilio ac ardystio’r datganiad o gyfrifon ac adrodd arno, a
(b)heb fod yn hwyrach na 4 mis ar ôl i’r datganiad gael ei gyflwyno, gosod copi o’r datganiad ardystiedig a’r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
(5)Yn yr adran hon, ystyr “blwyddyn ariannol” yw’r cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben ar 31 Mawrth.
Gwybodaeth Cychwyn
I19A. 19 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)
20Adroddiadau blynyddolLL+C
(1)Heb fod yn hwyrach na 30 Tachwedd ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i’r Comisiwn gyflwyno adroddiad i Weinidogion Cymru ar y broses o gyflawni ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn honno.
(2)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r adroddiad a gosod copi gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
(3)Yn yr adran hon, mae i “blwyddyn ariannol” yr un ystyr ag yn adran 19.
Gwybodaeth Cychwyn
I20A. 20 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)
RHAN 3LL+CTREFNIADAU AR GYFER LLYWODRAETH LEOL
PENNOD 1LL+CDYLETSWYDDAU I FONITRO TREFNIADAU LLYWODRAETH LEOL
Dyletswydd y ComisiwnLL+C
21Dyletswydd y Comisiwn i fonitro trefniadau ar gyfer llywodraeth leolLL+C
(1)Rhaid i’r Comisiwn, at ddibenion ystyried a yw’n briodol i wneud neu argymell newidiadau o dan y Rhan hon, fonitro’r ardaloedd a’r trefniadau etholiadol sy’n berthnasol i lywodraeth leol yng Nghymru.
(2)Yn unol â’r ddyletswydd honno, rhaid i’r Comisiwn gynnal y cyfryw adolygiadau o dan y Rhan hon ag a fo’n ofynnol o dan y deddfiad hwn neu unrhyw ddeddfiad arall, y caiff Gweinidogion Cymru eu cyfarwyddo, neu fel y mae fel arall yn ystyried sy’n briodol.
(3)Wrth iddo gyflawni ei ddyletswyddau o dan y Rhan hon (ac wrth gynnal unrhyw adolygiad), rhaid i’r Comisiwn geisio sicrhau llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.
Gwybodaeth Cychwyn
I21A. 21 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(b)
Dyletswyddau prif gyngorLL+C
22Dyletswyddau prif gynghorau mewn perthynas ag ardalLL+C
(1)Rhaid i brif gyngor, at ddibenion ystyried a yw’n briodol i wneud neu argymell newidiadau o dan y Rhan hon, fonitro—
(a)y cymunedau yn ei ardal, a
(b)trefniadau etholiadol y cymunedau hynny.
(2)Yn unol â’r ddyletswydd honno, rhaid i brif gyngor—
(a)rhoi sylw i amserlen y Comisiwn ar gyfer cynnal yr adolygiadau o drefniadau etholiadol prif ardaloedd sy’n ofynnol gan adran 29(1), a
(b)cynnal y cyfryw adolygiadau o dan y Rhan hon ag a fo’n ofynnol o dan y deddfiad hwn neu unrhyw ddeddfiad arall, y caiff Gweinidogion Cymru eu cyfarwyddo, neu fel y mae fel arall yn ystyried sy’n briodol.
(3)Wrth iddo gyflawni ei ddyletswyddau o dan y Rhan hon (ac wrth gynnal unrhyw adolygiad), rhaid i brif gyngor geisio sicrhau llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.
(4)Rhaid i brif gyngor ddarparu i’r Comisiwn yr wybodaeth y gallai yn rhesymol ofyn amdani mewn cysylltiad ag arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon.
[F40(5)Cyn 1 Gorffennaf ym mhob blwyddyn, rhaid i brif gyngor gyhoeddi adroddiad ar y modd y cyflawnodd ei swyddogaethau o dan y Rhan hon ac adran 76 o Ddeddf 1972 (newid enw cymuned) yn y flwyddyn flaenorol, i’r graddau y mae’r swyddogaethau yn ymwneud â’r canlynol—
(a)enwau cymunedau,
(b)newidiadau i ffiniau cymunedau,
(c)newidiadau i gynghorau cymuned, a
(d)trefniadau etholiadol cymunedau.
(6)Rhaid i brif gyngor anfon copi o bob adroddiad y mae’n ei gyhoeddi i’r Comisiwn ac at Weinidogion Cymru.
(7)Yn is-adran (5), ystyr “blwyddyn yw’r cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar 1 Ebrill.]
Diwygiadau Testunol
F40A. 22(5)-(7) wedi ei amnewid ar gyfer a. 22(5)(6) (9.11.2024) gan Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (asc 5), aau. 51(2), 72(2)(a) (ynghyd ag a. 55)
Gwybodaeth Cychwyn
I22A. 22 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(b)
PENNOD 2LL+CADOLYGIADAU ARDAL
Prif ardaloeddLL+C
23Adolygu ffiniau prif ardaloeddLL+C
(1)Caiff y Comisiwn, o’i wirfodd neu ar gais gan awdurdod lleol, gynnal adolygiad o un neu ragor o brif ardaloedd.
(2)Ond rhaid i’r Comisiwn beidio â chynnal adolygiad o dan is-adran (1) ar gais awdurdod lleol os yw o’r farn y byddai gwneud hynny’n ei rwystro rhag arfer ei swyddogaethau’n briodol.
(3)Y newidiadau y caiff y Comisiwn eu hargymell mewn perthynas ag adolygiad o dan yr adran hon yw—
(a)y newidiadau hynny i ffin prif ardal y mae o’r farn eu bod yn briodol, a
(b)o ganlyniad i unrhyw newidiadau i ffin prif ardal, y newidiadau hynny i ffin cymuned, newidiadau i sir wedi ei chadw, newidiadau i gyngor cymuned neu drefniadau etholiadol y mae o’r farn eu bod yn briodol.
(4)At ddibenion y Rhan hon—
(a)mae cyfeiriad at “newid i ffin cymuned” yn gyfeiriad at—
(i)newid y ffin i gymuned;
(ii)dileu cymuned;
(iii)cyfansoddi cymuned newydd;
(b)mae cyfeiriad at “newid i gyngor cymuned” yn gyfeiriad at—
(i)cyfansoddi cyngor ar gyfer cymuned neu gyngor cyffredin ar gyfer grŵp o gymunedau;
(ii)diddymu cyngor cymuned (un ar wahân neu un cyffredin);
(iii)gwahanu cymuned o grŵp o gymunedau sydd â chyngor cymuned cyffredin;
(iv)ychwanegu cymuned at grŵp o gymunedau sydd â chyngor cymuned cyffredin;
(c)mae cyfeiriad at “newid i drefniadau etholiadol” yn gyfeiriad at newid i’r trefniadau etholiadol ar gyfer unrhyw ardal llywodraeth leol;
(d)mae cyfeiriad at “newid i sir wedi ei chadw” yn gyfeiriad at newid i ardal sir wedi ei chadw;
(e)mae cyfeiriad at “newid i ffin prif ardal” yn gyfeiriad at—
(i)newid y ffin i brif ardal;
F41(ii). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F42(iii). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F41A. 23(4)(e)(ii) wedi ei hepgor (21.1.2021) yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 150(2)(a), 175(1)(f)(2)
F42A. 23(4)(e)(iii) wedi ei hepgor (21.1.2021) yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 150(2)(a), 175(1)(f)(2)
Gwybodaeth Cychwyn
I23A. 23 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(b)
24Adolygu prif ardaloedd yn dilyn gorchymyn tref newyddLL+C
(1)Mae’r adran hon yn gymwys—
(a)pan fo Gweinidogion Cymru wedi gwneud gorchymyn o dan adran 1 o Ddeddf Trefi Newydd 1981 (p. 64) (dynodi ardaloedd o dir ar gyfer trefi newydd) sy’n dynodi unrhyw ardal o dir yn safle i dref newydd, a
(b)pan na fo’r ardal a ddynodwyd felly ar gyfer y dref newydd yn cael ei chynnwys yn ei chyfanrwydd o fewn prif ardal.
(2)Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y mae’n rhesymol ymarferol ar ôl dyddiad gweithredu’r gorchymyn, hysbysu’r Comisiwn gan bennu’r prif ardaloedd y mae’r gorchymyn yn effeithio arnynt.
(3)Rhaid i’r Comisiwn, pan ddaw hysbysiad i law o dan is-adran (2), gynnal adolygiad o dan adran 23 o unrhyw brif ardaloedd a bennir yn yr hysbysiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I24A. 24 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(b)
CymunedauLL+C
25Adolygu ffiniau cymuned gan brif gyngorLL+C
(1)Caiff prif gyngor gynnal adolygiad o un neu ragor o’r cymunedau yn ei ardal—
(a)o’i wirfodd, neu
(b)ar gais—
(i)cyngor cymuned yn ei ardal, neu
(ii)cyfarfod cymunedol yn ei ardal.
(2)Ond rhaid i brif gyngor beidio â chynnal adolygiad o dan is-adran (1) ar gais cyngor cymuned neu gyfarfod cymunedol os yw o’r farn y byddai gwneud hynny’n ei rwystro rhag arfer ei swyddogaethau’n briodol.
(3)Y newidiadau y caiff prif gyngor eu hargymell mewn perthynas ag adolygiad o dan yr adran hon yw—
(a)y newidiadau hynny i ffiniau cymuned y mae o’r farn eu bod yn briodol, a
(b)o ganlyniad i unrhyw newidiadau i ffiniau cymuned, y newidiadau hynny i gyngor cymuned a newidiadau cysylltiedig i drefniadau etholiadol—
(i)y gymuned neu’r cymunedau sydd o dan adolygiad,
(ii)y brif ardal,
y mae o’r farn eu bod yn briodol.
(4)At ddibenion is-adran (3)(b)(ii), mae adran 30 yn gymwys i brif gyngor fel y mae’n gymwys i’r Comisiwn.
(5)Caiff prif gyngor ymrwymo mewn cytundeb gyda’r Comisiwn er mwyn i’r Comisiwn (o dan adran 26) arfer swyddogaethau’r cyngor o dan yr adran hon.
(6)Caiff y cytundeb fod ar y telerau a’r amodau hynny y mae’r prif gyngor a’r Comisiwn o’r farn eu bod yn briodol.
Gwybodaeth Cychwyn
I25A. 25 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(b)
26Adolygu ffiniau cymuned gan y ComisiwnLL+C
(1)Caiff y Comisiwn, yn unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau a ddisgrifir yn is-adran (2), gynnal adolygiad o un neu ragor o gymunedau mewn prif ardal.
(2)Yr amgylchiadau yw—
(a)pan fo’r Comisiwn wedi cytuno i arfer swyddogaethau prif gyngor o dan adran 25(5),
(b)pan fo prif gyngor wedi cyflwyno argymhellion i’r Comisiwn o dan adran 36(5) ac —
(i)argymhelliad y cyngor yw na ddylid gwneud unrhyw newidiadau i ffiniau cymuned,
(ii)nad yw’r cyngor a’r Comisiwn yn gallu cytuno ar yr addasiadau hynny i’r argymhellion y mae’r Comisiwn o’r farn eu bod yn angenrheidiol iddo eu gweithredu,
(iii)nad yw’r Comisiwn o’r farn ei bod yn briodol i weithredu unrhyw un neu ragor o argymhellion y cyngor, neu
(iv)bod y Comisiwn o’r farn na chafodd yr adolygiad ei gynnal gan y cyngor yn unol â’r Rhan hon neu fel arall ei fod yn ddiffygiol mewn modd sylweddol,
(c)pan na fo prif gyngor wedi cydymffurfio â chyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru i gynnal adolygiad o un neu ragor o’i gymunedau.
(3)Y newidiadau y caiff Comisiwn eu hargymell mewn perthynas ag adolygiad o dan yr adran hon yw—
(a)y newidiadau hynny i ffiniau cymuned y mae o’r farn eu bod yn briodol, a
(b)o ganlyniad i unrhyw newidiadau i ffiniau cymuned, y newidiadau hynny i gyngor cymuned a newidiadau cysylltiedig i drefniadau etholiadol—
(i)y gymuned neu’r cymunedau sydd dan adolygiad,
(ii)y brif ardal,
y mae o’r farn eu bod yn briodol.
(4)Pan fo’r Comisiwn yn cynnal adolygiad yn yr amgylchiadau a ddisgrifir yn is-adran (2)(b)(iv) neu (c), caiff adennill y gost o wneud hynny oddi wrth y prif gyngor.
(5)Os bydd anghytundeb rhwng y Comisiwn a’r prif gyngor ynghylch y swm sy’n daladwy i’r Comisiwn o dan is-adran (4), caiff Gweinidogion Cymru benderfynu’r swm hwnnw.
(6)O ran unrhyw swm sy’n daladwy i’r Comisiwn o dan yr adran hon, mae modd ei adennill fel dyled sy’n ddyledus i’r Comisiwn.
Gwybodaeth Cychwyn
I26A. 26 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(b)
Siroedd wedi eu cadwLL+C
27Adolygu siroedd wedi eu cadwLL+C
(1)Caiff y Comisiwn gynnal adolygiad o un neu ragor o siroedd wedi eu cadw.
(2)Caiff y Comisiwn argymell y newidiadau hynny i ardal sir wedi ei chadw y mae o’r farn eu bod yn briodol.
(3)Wrth ystyried a yw newidiadau i ardal y sir sydd wedi ei chadw yn rhai priodol (p’un ai mewn perthynas ag adolygiad o dan yr adran hon neu fel rhan o unrhyw adolygiad arall) rhaid i’r Comisiwn roi sylw, yn benodol, i’r dibenion dros gadw’r siroedd sydd wedi eu cadw.
(4)At ddibenion y Rhan hon, ystyr “sir wedi ei chadw” yw unrhyw sir a grëwyd gan Ddeddf 1972 yn sir yng Nghymru fel yr oedd hi yn union cyn pasio Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 ond yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf honno neu unrhyw ddarpariaeth a wnaed o dan Ddeddf 1972 neu’r Ddeddf hon a bod y ddarpariaeth honno’n ail-lunio ei ffiniau.
Gwybodaeth Cychwyn
I27A. 27 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(b)
Ffiniau tua’r môrLL+C
28Adolygu ffiniau tua’r môrLL+C
(1)Caiff y Comisiwn gynnal adolygiad o gymaint o ffin ardal llywodraeth leol (sy’n cynnwys, at ddibenion yr adran hon, sir wedi ei chadw)—
(a)sy’n gorwedd o dan farc penllanw pan fo’r llanw’n ganolig, a
(b)nad yw’n ffurfio ffin gyffredin ag ardal llywodraeth leol arall.
(2)Y newidiadau y caiff y Comisiwn eu hargymell mewn perthynas ag adolygiad o dan yr adran hon yw—
(a)cynnwys o fewn yr ardal llywodraeth leol unrhyw ardal o’r môr nad yw, ar adeg yr adolygiad, yn ffurfio rhan o ardal llywodraeth leol arall, a
(b)allgáu unrhyw ardal o’r môr sydd, ar adeg yr adolygiad, yn ffurfio rhan o’r ardal llywodraeth leol.
[F43(3)Caiff adolygiad o dan yr adran hon adolygu ffin mwy nag un ardal llywodraeth leol.]
Diwygiadau Testunol
F43A. 28(3) wedi ei fewnosod (9.11.2024) gan Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (asc 5), aau. 42, 72(2)(a) (ynghyd ag a. 55)
Gwybodaeth Cychwyn
I28A. 28 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(b)
PENNOD 3LL+CADOLYGIADAU O DREFNIADAU ETHOLIADOL
Prif ardaloeddLL+C
29Adolygu trefniadau etholiadol ar gyfer prif ardalLL+C
(1)Rhaid i’r Comisiwn gynnal adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer pob prif ardal o leiaf unwaith ym mhob cyfnod adolygu.
(2)Rhaid i’r Comisiwn, mewn perthynas â phob cyfnod adolygu—
(a)paratoi a chyhoeddi rhaglen sy’n nodi ei amserlen arfaethedig ar gyfer cynnal yr holl adolygiadau sy’n ofynnol o dan is-adran (1) yn ystod y cyfnod, a
(b)anfon copi o’r rhaglen at Weinidogion Cymru.
(3)At ddibenion is-adrannau (1) a (2) ystyr “cyfnod adolygu” yw—
[F44(a)y cyfnod o 12 mlynedd sy’n dechrau ar 30 Medi 2023, a]
(b)pob cyfnod dilynol o [F4512] mlynedd.
[F46(3A)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio is-adran (3).]
(4)Rhaid i’r Comisiwn gydymffurfio â’i ddyletswyddau yn is-adran (2)—
(a)mewn perthynas â’r cyfnod adolygu cyntaf, cyn gynted ag y bo modd wedi iddo ddechrau, a
(b)mewn perthynas â phob cyfnod adolygu dilynol, cyn i’r cyfnod ddechrau.
(5)Caiff y Comisiwn hefyd, o’i wirfodd neu ar gais prif gyngor, gynnal adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer prif ardal.
(6)Ond rhaid i’r Comisiwn beidio â chynnal adolygiad o dan is-adran (5) ar gais prif gyngor os yw o’r farn y byddai gwneud hynny’n ei rwystro rhag arfer ei swyddogaethau’n briodol.
(7)Y newidiadau y caiff y Comisiwn eu hargymell mewn perthynas ag adolygiad o dan yr adran hon yw—
(a)y newidiadau hynny i’r trefniadau etholiadol ar gyfer y brif ardal sydd dan adolygiad y mae o’r farn eu bod yn briodol, a
(b)o ganlyniad i newid o’r fath—
(i)y newidiadau hynny i ffiniau cymuned y mae o’r farn eu bod yn briodol mewn perthynas ag unrhyw gymuned yn y brif ardal,
(ii)y newidiadau hynny i gyngor cymuned a newidiadau i’r trefniadau etholiadol ar gyfer cymuned o’r fath y mae o’r farn eu bod yn briodol,
(iii)y newidiadau hynny i sir wedi ei chadw y mae o’r farn eu bod yn briodol.
(8)Rhaid i’r Comisiwn beidio â gwneud neu gyhoeddi, yn unrhyw gyfnod o [F4712] mis cyn diwrnod etholiad arferol cyngor o dan adran 26 o Ddeddf 1972 (ethol cynghorwyr), unrhyw argymhellion sy’n ymwneud â threfniadau etholiadol prif ardal.
(9)Yn y Rhan hon, mae cyfeiriad at drefniadau etholiadol prif ardal yn gyfeiriad at y canlynol—
(a)nifer aelodau’r cyngor ar gyfer y brif ardal,
(b)nifer, math a ffiniau’r wardiau etholiadol y rhennir y brif ardal iddynt am y tro at ddibenion ethol aelodau,
(c)nifer yr aelodau sydd i’w hethol ar gyfer unrhyw ward etholiadol yn y brif ardal honno, a
(d)enw unrhyw ward etholiadol.
(10)At ddibenion is-adran (9)(b), mae cyfeiriad at y math o ward etholiadol yn gyfeiriad at a yw’r ward yn ward un aelod neu’n ward amlaelod.
(11)Yn y Rhan hon—
ystyr “ward amlaelod” yw unrhyw ward etholiadol y mae nifer penodedig (mwy nag un) o aelodau i’w hethol ar gyfer y ward honno,
ystyr “ward etholiadol” yw unrhyw ardal yr etholir aelodau i awdurdod lleol ar ei chyfer, ac
ystyr “ward un aelod” yw ward etholiadol y mae un aelod yn unig i’w ethol ar ei chyfer.
Diwygiadau Testunol
F44A. 29(3)(a) wedi ei amnewid (9.11.2024) gan Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (asc 5), aau. 41(2)(a)(i), 72(2)(a) (ynghyd ag a. 55)
F45Gair yn a. 29(3)(b) wedi ei amnewid (9.11.2024) gan Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (asc 5), aau. 41(2)(a)(ii), 72(2)(a) (ynghyd ag a. 55)
F46A. 29(3A) wedi ei fewnosod (9.11.2024) gan Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (asc 5), aau. 41(2)(b), 72(2)(a) (ynghyd ag a. 55)
F47Gair yn a. 29(8) wedi ei amnewid (9.11.2024) gan Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (asc 5), aau. 47(2), 72(2)(a) (ynghyd ag a. 55)
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1A. 29(2) excluded (26.11.2015) by Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015 (anaw 6), aau. 21(5), 46(2)
C2A. 29(3) power to amend (26.11.2015) by Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015 (anaw 6), aau. 24, 46(2)
C3A. 29(3): power to amend conferred (21.1.2021) by Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 138(6), 175(1)(f)(2)
C4A. 29(8) excluded (21.1.2021) by Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(1)(f)(2), Atod. 1 para. 8(5)
Gwybodaeth Cychwyn
I29A. 29 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(b)
30Ystyriaethau ar gyfer adolygiad o drefniadau etholiadol prif ardalLL+C
[F48(1)Wrth ystyried a fydd yn gwneud argymhellion ynghylch newidiadau i drefniadau etholiadol prif ardal, rhaid i’r Comisiwn roi sylw i’r ffactorau a ganlyn—
(a)dymunoldeb cael cymhareb o etholwyr llywodraeth leol i nifer aelodau’r cyngor sydd i’w hethol sydd yr un fath, neu bron yr un fath, ym mhob ward etholiadol o’r brif ardal;
(b)ystyriaethau daearyddol arbennig, gan gynnwys yn benodol maint, siâp a hygyrchedd ward etholiadol;
(c)unrhyw gwlwm lleol (gan gynnwys cwlwm lleol sy’n gysylltiedig â defnyddio’r Gymraeg) a fyddai’n cael ei dorri gan newidiadau o’r fath.]
(2)At ddibenion is-adran (1)(a), rhaid rhoi sylw i’r canlynol—
(a)unrhyw anghysondeb rhwng nifer etholwyr llywodraeth leol a nifer y personau sydd yn gymwys i fod yn etholwyr llywodraeth leol (fel a welir mewn ystadegau swyddogol perthnasol), a
(b)unrhyw newid yn nifer neu yn nosbarthiad etholwyr llywodraeth leol yn y brif ardal sy’n debygol o ddigwydd yn y cyfnod o bum mlynedd yn union ar ôl gwneud unrhyw argymhelliad.
(3)Yn yr adran hon, ystyr “ystadegau swyddogol perthnasol” yw’r ystadegau swyddogol hynny o fewn yr ystyr a roddir i “official statistics” yn adran 6 o Ddeddf y Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007 (p. 18) y mae’r Comisiwn o’r farn eu bod yn briodol.
(4)Yn y Rhan hon, ystyr “etholwr llywodraeth leol” yw person sydd wedi ei gofrestru’n etholwr llywodraeth leol yn y gofrestr etholwyr yn unol â darpariaethau Deddfau Cynrychiolaeth y Bobl.
Diwygiadau Testunol
F48A. 30(1) wedi ei amnewid (9.11.2024) gan Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (asc 5), aau. 40(2), 72(2)(a) (ynghyd ag a. 55)
Gwybodaeth Cychwyn
I30A. 30 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(b)
CymunedauLL+C
31Adolygu trefniadau etholiadol i gymuned gan brif gyngorLL+C
[F49(A1)Rhaid i brif gyngor gynnal adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer pob cymuned yn ei ardal o leiaf unwaith ym mhob cyfnod adolygu.
(A2)Yn is-adran (A1), ystyr “cyfnod adolygu” yw—
(a)y cyfnod o 12 mlynedd sy’n dechrau gyda’r diwrnod y daw adran 51 o Ddeddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 i rym, a
(b)pob cyfnod dilynol o 12 mlynedd.
(A3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio is-adran (A2).]
(1)Caiff prif gyngor [F50hefyd] gynnal adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer cymuned yn ei ardal —
(a)o’i wirfodd, neu
(b)ar gais—
(i)y cyngor cymuned ar gyfer y gymuned, neu
(ii)dim llai na 30 o etholwyr llywodraeth leol sydd wedi eu cofrestru yn y gymuned.
(2)Ond rhaid i brif gyngor beidio â chynnal adolygiad o dan is-adran (1) ar gais y cyngor cymuned neu etholwyr llywodraeth leol os yw o’r farn y byddai gwneud hynny’n ei rwystro rhag arfer ei swyddogaethau’n briodol.
(3)Y newidiadau y caiff prif gyngor eu cynnig a’u gwneud mewn perthynas ag adolygiad o dan yr adran hon—
(a)yw’r newidiadau hynny i’r trefniadau etholiadol ar gyfer y gymuned y mae’r prif gyngor o’r farn eu bod yn briodol, a
(b)o ganlyniad i unrhyw newid i’r trefniadau etholiadol ar gyfer y gymuned, y newidiadau hynny i drefniadau etholiadol y brif ardal y mae o’r farn eu bod yn briodol.
(4)At ddibenion is-adran (3)(b), mae adran 30 yn gymwys i brif gyngor fel y mae’n gymwys i’r Comisiwn.
(5)Caiff prif gyngor ymrwymo mewn cytundeb gyda’r Comisiwn er mwyn i’r Comisiwn (o dan adran 32) arfer swyddogaeth y cyngor o gynnal adolygiadau o dan yr adran hon.
(6)Caiff y cytundeb fod ar y telerau a’r amodau hynny y mae’r prif gyngor a’r Comisiwn o’r farn eu bod yn briodol.
(7)Yn y Rhan hon, mae cyfeiriad at drefniadau etholiadol cymuned yn gyfeiriad at y canlynol—
(a)nifer aelodau’r cyngor ar gyfer y gymuned;
(b)ei rhaniad yn wardiau (os yw’n briodol) at ddibenion ethol cynghorwyr;
(c)nifer a ffiniau unrhyw wardiau;
(d)nifer yr aelodau sydd i’w hethol ar gyfer unrhyw ward;
(e)enw unrhyw ward.
Diwygiadau Testunol
F49Aau. 31(A1)-(A3) wedi eu mewnosod (9.11.2024) gan Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (asc 5), aau. 51(3)(a), 72(2)(a) (ynghyd ag a. 55)
F50Gair yn a. 31(1) wedi ei fewnosod (9.11.2024) gan Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (asc 5), aau. 51(3)(b), 72(2)(a) (ynghyd ag a. 55)
Gwybodaeth Cychwyn
I31A. 31 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(b)
32Adolygu trefniadau etholiadol cymuned gan y ComisiwnLL+C
(1)Caiff y Comisiwn, yn unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau a ddisgrifir yn is-adran (2), gynnal adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer cymuned.
(2)Yr amgylchiadau yw—
(a)pan fo’r Comisiwn wedi cytuno i arfer swyddogaeth prif gyngor o gynnal adolygiadau o dan adran 31(5);
(b)pan ofynnwyd i’r Comisiwn gynnal adolygiad o gymuned gan—
(i)y cyngor cymuned, neu
(ii)dim llai na 30 o etholwyr llywodraeth leol o’r gymuned;
(c)pan na fo prif gyngor wedi cydymffurfio â chyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru i gynnal adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer un neu ragor o’i gymunedau.
(3)Ond rhaid i’r Comisiwn beidio â chynnal adolygiad o dan is-adran (1) yn dilyn cais gan gyngor cymuned neu etholwyr llywodraeth leol os yw o’r farn y byddai gwneud hynny’n ei rwystro rhag arfer ei swyddogaethau’n briodol.
(4)Y newidiadau y caiff y Comisiwn eu hargymell mewn perthynas ag unrhyw adolygiad o dan yr adran hon—
(a)yw’r newidiadau hynny i’r trefniadau etholiadol ar gyfer y gymuned y mae’r Comisiwn o’r farn eu bod yn briodol, a
(b)o ganlyniad i unrhyw newid i’r trefniadau etholiadol ar gyfer y gymuned, y newidiadau hynny i drefniadau etholiadol y brif ardal y mae o’r farn eu bod yn briodol.
(5)Pan fo’r Comisiwn yn cynnal adolygiad yn yr amgylchiadau a ddisgrifir yn is-adran (2)(c), caiff adennill y gost am wneud hynny oddi wrth y prif gyngor.
(6)Os bydd anghytundeb rhwng y Comisiwn a’r prif gyngor ynghylch y swm sy’n daladwy i’r Comisiwn o dan is-adran (5), caiff Gweinidogion Cymru benderfynu’r swm hwnnw.
(7)O ran unrhyw swm sy’n daladwy i’r Comisiwn o dan yr adran hon, mae modd ei adennill fel dyled sy’n ddyledus i’r Comisiwn.
Gwybodaeth Cychwyn
I32A. 32 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(b)
33Ystyriaethau ar gyfer adolygiad o drefniadau etholiadol cymunedLL+C
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo prif gyngor yn ystyried gwneud neu, yn ôl y digwydd, pan fo’r Comisiwn yn ystyried argymell, newidiadau i’r trefniadau etholiadol ar gyfer cymuned.
(2)Wrth ystyried a ddylid rhannu cymuned yn wardiau cymuned, rhaid rhoi sylw i’r canlynol—
(a)a yw nifer neu ddosbarthiad yr etholwyr llywodraeth leol ar gyfer y gymuned yn y fath fodd sy’n gwneud un etholiad o gynghorwyr cyngor cymuned yn anymarferol neu’n anghyfleus, a
(b)a yw’n ddymunol y dylai unrhyw ardal o’r gymuned gael cynrychiolaeth ar wahân ar y cyngor cymuned.
(3)Pan benderfynir rhannu cymuned yn wardiau cymuned, wrth ystyried maint a ffiniau’r wardiau ac wrth bennu nifer y cynghorwyr cymuned sydd i’w hethol ar gyfer pob ward, dylid rhoi sylw i’r canlynol—
(a)unrhyw newid yn nifer neu yn nosbarthiad etholwyr llywodraeth leol yn y gymuned sy’n debygol o ddigwydd yn y cyfnod o bum mlynedd yn union ar ôl unrhyw argymhelliad,
[F51(b)ystyriaethau daearyddol arbennig, gan gynnwys yn benodol faint, siâp a hygyrchedd ward gymunedol, ac]
(c)unrhyw gwlwm lleol [F52(gan gynnwys cwlwm lleol sy’n gysylltiedig â defnyddio’r Gymraeg)] a fydd yn cael ei dorri wrth bennu ffiniau penodol.
(4)Pan benderfynir peidio â rhannu cymuned yn wardiau cymuned, wrth bennu nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer pob cymuned, dylid rhoi sylw i’r canlynol—
(a)nifer a dosbarthiad yr etholwyr llywodraeth leol yn y gymuned, a
(b)unrhyw newid yn y nifer neu’r dosbarthiad hwnnw sy’n debygol o ddigwydd yn y cyfnod o bum mlynedd yn union ar ôl pennu nifer y cynghorwyr cymuned.
(5)At ddibenion yr adran hon, rhaid rhoi sylw i unrhyw anghysondeb rhwng nifer etholwyr llywodraeth leol a nifer y personau sydd yn gymwys i fod yn etholwyr llywodraeth leol (fel a welir mewn ystadegau swyddogol perthnasol).
(6)Yn yr adran hon, ystyr “ystadegau swyddogol perthnasol” yw’r ystadegau swyddogol hynny (o fewn yr ystyr a roddir i “official statistics” yn adran 6 o Ddeddf y Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007 (p. 18)) y mae’r Comisiwn, neu yn ôl y digwydd, y prif gyngor o’r farn eu bod yn briodol.
Diwygiadau Testunol
F51A. 33(3)(b) wedi ei amnewid (9.11.2024) gan Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (asc 5), aau. 51(4)(a), 72(2)(a) (ynghyd ag a. 55)
F52Geiriau yn a. 33(3)(c) wedi eu mewnosod (9.11.2024) gan Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (asc 5), aau. 51(4)(b), 72(2)(a) (ynghyd ag a. 55)
Gwybodaeth Cychwyn
I33A. 33 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(b)
PENNOD 4LL+CY WEITHDREFN AR GYFER ADOLYGIADAU LLYWODRAETH LEOL
Y weithdrefn ar gyfer adolygiadauLL+C
34Y weithdrefn ragadolyguLL+C
(1)Cyn cynnal adolygiad o dan y Rhan hon, rhaid i’r Comisiwn neu, yn ôl y digwydd, brif gyngor gymryd y camau hynny y mae o’r farn eu bod yn briodol er mwyn—
(a)dod â’r adolygiad i sylw [F53aelodau o’r cyhoedd yr effeithir arnynt gan yr adolygiad,] ymgyngoreion gorfodol ac unrhyw berson arall y mae o’r farn ei bod yn debygol y bydd ganddynt fuddiant yn yr adolygiad, a
(b)gwneud yr ymgyngoreion gorfodol a’r personau eraill hynny y mae ganddynt fuddiant yn ymwybodol o unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan Weinidogion Cymru sy’n berthnasol i’r adolygiad.
(2)O ran adolygiad sydd i’w gynnal o dan adran 29, cyn cynnal yr adolygiad, rhaid i’r Comisiwn hefyd ymgynghori â’r ymgyngoreion gorfodol ynghylch y weithdrefn a’r fethodoleg a fwriedir ar gyfer yr adolygiad ac, yn benodol, sut y mae’n bwriadu penderfynu nifer priodol yr aelodau ar gyfer unrhyw brif gyngor yn y brif ardal neu’r ardaloedd sydd dan adolygiad.
(3)At ddibenion y Rhan hon, yr “ymgyngoreion gorfodol” yw—
(a)unrhyw awdurdod lleol y mae’r adolygiad yn effeithio arno,
(b)ac eithrio mewn perthynas ag adolygiad o dan adran 28 (adolygu ffiniau tua’r môr), comisiynydd heddlu a throsedd ar gyfer unrhyw ardal heddlu y gall yr adolygiad effeithio arni,
[F54(ba)unrhyw awdurdod tân ac achub (a gyfansoddwyd gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p. 21), neu gynllun y mae adran 4 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo) ar gyfer ardal yng Nghymru y gallai’r adolygiad effeithio arni,]
(c)ac eithrio pan fo’r adolygiad yn cael ei gynnal (neu i’w gynnal) ganddo ef, y Comisiwn,
[F55(ca)yr awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol mewn ardal yr effeithir arni gan yr adolygiad,
(cb)yr awdurdod Iechyd Porthladd a gyfansoddir o dan adran 2 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 (p. 22) ar gyfer rhanbarth iechyd porthladd mewn ardal yr effeithir arni gan yr adolygiad,
(cc)Comisiynydd y Gymraeg,]
(d)unrhyw gorff sy’n cynrychioli’r staff a gyflogir gan awdurdodau lleol sydd wedi gofyn am ymgynghoriad â hwy, a
(e)unrhyw bersonau eraill a bennir drwy orchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru.
(4)Nid yw is-adran (1) yn gymwys i adolygiad a gynhelir gan y Comisiwn yn yr amgylchiadau a ddisgrifir yn adran 26(2)(b)(ii) neu (iii).
Diwygiadau Testunol
F53Geiriau yn a. 34(1)(a) wedi eu mewnosod (9.11.2024) gan Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (asc 5), aau. 45(2), 72(2)(a) (ynghyd ag a. 55)
F54A. 34(3)(ba) wedi ei fewnosod (20.3.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 166(4), 175(3)(r)
F55A. 34(3)(ca)-(cc) wedi ei fewnosod (9.11.2024) gan Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (asc 5), aau. 46(2), 72(2)(a) (ynghyd ag a. 55)
Gwybodaeth Cychwyn
I34A. 34 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(b)
35Ymgynghori ac ymchwilioLL+C
(1)Wrth gynnal adolygiad o dan y Rhan hon, rhaid i’r Comisiwn neu, yn ôl y digwydd, brif gyngor (“y corff adolygu”)—
[F56(za)ymgynghori ag aelodau o’r cyhoedd yn yr ardal yr effeithir arni gan yr adolygiad,]
(a)ymgynghori â’r ymgyngoreion gorfodol a’r personau eraill hynny y mae o’r farn eu bod yn briodol, a
(b)cynnal yr ymchwiliadau hynny y mae o’r farn eu bod yn briodol.
(2)Ar ôl cynnal yr ymgynghoriad a’r ymchwiliadau o dan is-adran (1), rhaid i’r corff adolygu lunio adroddiad sy’n cynnwys—
(a)unrhyw gynigion ar gyfer newid y mae o’r farn eu bod yn briodol neu, os yw o’r farn nad oes unrhyw newid yn briodol, cynnig i’r diben hwnnw,
(b)manylion o’r adolygiad y mae wedi ei gynnal.
(3)Rhaid i’r corff adolygu—
(a)cyhoeddi’r adroddiad yn electronig,
[F57(aa)rhoi cyhoeddusrwydd i’r ffaith y caniateir cyflwyno sylwadau sy’n ymwneud â’r adolygiad i’r corff adolygu yn ystod y cyfnod ymgynghori cyhoeddus,
(ab)nodi yn y deunydd cyhoeddusrwydd pryd y mae’r cyfnod ymgynghori cyhoeddus yn dechrau ac yn dod i ben,]
(b)sicrhau bod yr adroddiad ar gael i edrych arno (yn ddi-dâl) yn swyddfeydd unrhyw brif gyngor sydd â buddiant yn yr adolygiad ar hyd y [F58cyfnod ymgynghori cyhoeddus],
(c)anfon copïau o’r adroddiad at Weinidogion Cymru a’r ymgyngoreion gorfodol,
(d)hysbysu unrhyw berson arall a gyflwynodd dystiolaeth i’r corff adolygu sut i gael copi o’r adroddiadF59...
F60(e). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
[F61(4)Yn is-adran (3), ystyr “cyfnod ymgynghori cyhoeddus yw cyfnod o 6 wythnos o leiaf a dim mwy na 12 wythnos a benderfynir gan y corff adolygu, na chaniateir iddo ddechrau cyn diwedd cyfnod o 7 niwrnod sy’n dechrau gyda’r diwrnod y cyhoeddir yr adroddiad.]
(5)At ddibenion yr adran hon, mae gan brif gyngor fuddiant mewn adolygiad—
(a)os ef yw’r corff adolygu,
(b)os yw ei ardal dan adolygiad,
(c)os yw cymuned yn ei ardal (neu os yw’r trefniadau etholiadol ar gyfer y gymuned honno) dan adolygiad.
(6)Yn yr adran hon ac yn adran 36 mae cyfeiriad at gynnig newid yn gyfeiriad at unrhyw newid y caiff y corff adolygu ei argymell neu ei wneud (gan gynnwys newid canlyniadol) mewn perthynas â’r math o adolygiad sy’n cael ei gynnal.
Diwygiadau Testunol
F56A. 35(1)(za) wedi ei fewnosod (9.11.2024) gan Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (asc 5), aau. 45(3)(a), 72(2)(a) (ynghyd ag a. 55)
F57A. 35(3)(aa)(ab) wedi ei fewnosod (9.11.2024) gan Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (asc 5), aau. 45(3)(b)(i), 72(2)(a) (ynghyd ag a. 55)
F58Geiriau yn a. 35(3)(b) wedi eu hamnewid (9.11.2024) gan Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (asc 5), aau. 45(3)(b)(ii), 72(2)(a) (ynghyd ag a. 55)
F59Gair yn a. 35(3)(d) wedi ei hepgor (9.11.2024) yn rhinwedd Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (asc 5), aau. 45(3)(b)(iii), 72(2)(a) (ynghyd ag a. 55)
F60A. 35(3)(e) wedi ei hepgor (9.11.2024) yn rhinwedd Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (asc 5), aau. 45(3)(b)(iv), 72(2)(a) (ynghyd ag a. 55)
F61A. 35(4) wedi ei amnewid (9.11.2024) gan Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (asc 5), aau. 45(3)(b)(v), 72(2)(a) (ynghyd ag a. 55)
Gwybodaeth Cychwyn
I35A. 35 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(b)
36Adrodd ar yr adolygiadLL+C
(1)Rhaid i’r Comisiwn neu, yn ôl y digwydd, brif gyngor (“y corff adolygu”), ar ôl i’r [F62cyfnod ymgynghori cyhoeddus] o dan adran 35(3) ddod i ben, ystyried ei gynigion i newid gan roi sylw i unrhyw sylwadau a gafwyd ganddo yn ystod y cyfnod.
(2)Yna rhaid i’r corff adolygu lunio adroddiad pellach.
(3)Ac eithrio mewn perthynas ag adolygiad o dan adran 31, rhaid i’r adroddiad gynnwys—
(a)unrhyw argymhelliad i newid y mae’r corff adolygu o’r farn ei fod yn briodol, neu os yw o’r farn nad oes unrhyw newid yn briodol, argymhelliad i’r diben hwnnw,
(b)manylion yr adolygiad a’r ymgynghoriad a gynhaliwyd mewn cysylltiad â’r cynigion, ac
(c)manylion unrhyw newidiadau i’r cynigion a wnaed yng ngoleuni’r sylwadau a gafwyd ac esboniad paham y gwnaed y newidiadau hynny.
(4)Pan fo adolygiad o dan adran 31, rhaid i’r adroddiad gynnwys—
(a)y newidiadau y mae’r corff adolygu yn bwriadu eu gwneud i’r trefniadau etholiadol ar gyfer y gymuned dan adolygiad, neu os yw o’r farn nad yw newid o’r fath yn briodol, ddatganiad i’r diben hwnnw,
(b)manylion yr adolygiad a’r ymgynghoriad a gynhaliwyd mewn cysylltiad â’r cynigion, ac
(c)manylion unrhyw newidiadau i’r cynigion a wnaed yng ngoleuni’r sylwadau a gafodd ac esboniad paham y gwnaed y newidiadau hynny.
(5)Rhaid i’r corff adolygu—
(a)cyflwyno’r adroddiad a’i argymhellion i’r awdurdod gweithredu priodol (ac eithrio pan ef yw’r awdurdod gweithredu),
(b)cyhoeddi’r adroddiad yn electronig a sicrhau ei fod ar gael i edrych arno (yn ddi-dâl) yn swyddfeydd unrhyw brif gyngor sydd â buddiant am gyfnod sydd o leiaf yn 6 wythnos yn dechrau ar ddyddiad y cyhoeddi,
(c)anfon copi o’r adroddiad at yr ymgyngoreion gorfodol, yr Arolwg Ordnans ac (onid hwy yw’r awdurdod gweithredu) at Weinidogion Cymru,
(d)hysbysu unrhyw berson arall a gyflwynodd dystiolaeth neu a wnaeth sylwadau mewn perthynas â’r adroddiad a gyhoeddwyd o dan adran 35 sut i gael copi o’r adroddiad.
(6)At ddibenion is-adran (5), yr “awdurdod gweithredu priodol” yw—
(a)mewn perthynas ag adolygiad o dan adran 23, Gweinidogion Cymru ac, mewn achos pan fo’r Comisiwn yn argymell newid i ardal heddlu, yr Ysgrifennydd Gwladol (i’r graddau y mae’n ymwneud â’r newid hwnnw);
(b)mewn perthynas ag adolygiad o dan adran 25, y Comisiwn;
(c)mewn perthynas ag adolygiad o dan adran 26, 27, 28 neu 29, Gweinidogion Cymru;
(d)mewn perthynas ag adolygiad o dan adran 32, prif gyngor y gymuned a fu’n destun yr adolygiad.
(7)Pan fo prif gyngor yn cyflwyno adroddiad i’r Comisiwn mewn perthynas ag adolygiad o dan adran 25, nid yw’r Comisiwn i gael ei drin fel ymgynghorai gorfodol at ddibenion is-adran (5)(c).
(8)At ddibenion yr adran hon mae gan brif gyngor fuddiant mewn adolygiad—
(a)os ef yw’r corff adolygu;
(b)os yw ei ardal dan adolygiad;
(c)os yw cymuned yn ei ardal (neu os yw’r trefniadau etholiadol ar gyfer y gymuned honno) dan adolygiad.
(9)Yn yr adran hon mae cyfeiriad at argymhelliad i newid yn gyfeiriad at unrhyw newid y caiff y corff adolygu ei argymell neu ei wneud (gan gynnwys newid canlyniadol) mewn perthynas â’r math o adolygiad sy’n cael ei gynnal.
Diwygiadau Testunol
F62Geiriau yn a. 36(1) wedi eu hamnewid (9.11.2024) gan Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (asc 5), aau. 45(4), 72(2)(a) (ynghyd ag a. 55)
Gwybodaeth Cychwyn
I36A. 36 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(b)
[F6336AEnwau wardiau etholiadolLL+C
(1)Mae is-adran (2) yn gymwys i adroddiad adolygu o dan y Rhan hon i’r graddau y mae’n ymwneud ag–
(a)ward etholiadol sydd ag enwau gwahanol (mewn unrhyw gyswllt) at ddibenion nodi’r ward wrth gyfathrebu drwy’r Gymraeg a’r Saesneg;
(b)cynnig i ward etholiadol gael enwau gwahanol mewn unrhyw gyswllt at ddibenion nodi’r ward wrth gyfathrebu drwy’r Gymraeg a’r Saesneg.
(2)Rhaid i’r Comisiwn neu’r prif gyngor (yn ôl y digwydd) bennu’r ddau enw neu’r ddau enw arfaethedig ar gyfer y ward etholiadol yn nwy fersiwn ieithyddol adroddiad o dan adran 35(2), 36(3) neu 36(4).
(3)Cyn llunio adroddiad o dan adran 35(2), 36(3) neu 36(4), rhaid i’r Comisiwn neu brif gyngor (yn ôl y digwydd) roi sylw, yn benodol, i unrhyw sylwadau a gafwyd oddi wrth Gomisiynydd y Gymraeg ynghylch orgraff enw ward etholiadol, neu orgraff enw arfaethedig ward etholiadol, y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi.
(4)Yn yr adran hon ystyr “dwy fersiwn ieithyddol yw’r fersiwn Gymraeg a’r fersiwn Saesneg.]
Diwygiadau Testunol
F63A. 36A wedi ei fewnosod (9.11.2024) gan Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (asc 5), aau. 44(2), 72(2)(a) (ynghyd ag a. 55)
[F6436BY dyddiad cau ar gyfer cwblhau adolygiadauLL+C
(1)Cyn cynnal adolygiad o dan y Rhan hon, rhaid i’r Comisiwn neu, yn ôl y digwydd, brif gyngor gyhoeddi datganiad sy’n pennu’r diwrnod y mae’r adolygiad yn dechrau.
(2)Rhaid i’r Comisiwn, mewn perthynas ag adolygiad y mae’n ei gynnal o dan adran 23, 27 neu 29, wneud pob ymdrech i gyhoeddi ei adroddiad pellach ar yr adolygiad yn unol ag adran 36(5)(b) cyn diwedd cyfnod o 12 mis sy’n dechrau gyda’r diwrnod a bennir o dan is-adran (1).
(3)Rhaid i’r Comisiwn, mewn perthynas ag adolygiad y mae’n ei gynnal o dan adran 28, wneud pob ymdrech i gyhoeddi ei adroddiad pellach ar yr adolygiad yn unol ag adran 36(5)(b) cyn diwedd cyfnod o 18 mis sy’n dechrau gyda’r diwrnod a bennir o dan is-adran (1).
(4)Rhaid i’r Comisiwn, mewn perthynas ag adolygiad y mae’n ei gynnal o dan adran 26 neu 32, wneud pob ymdrech i gyhoeddi ei adroddiad pellach ar yr adolygiad yn unol ag adran 36(5)(b) cyn diwedd cyfnod o 24 mis sy’n dechrau gyda’r diwrnod a bennir o dan is-adran (1).
(5)Rhaid i brif gyngor, mewn perthynas ag adolygiad y mae’n ei gynnal o dan adran 25 neu 31, wneud pob ymdrech i gyhoeddi ei adroddiad pellach ar yr adolygiad yn unol ag adran 36(5)(b) cyn diwedd cyfnod o 24 mis sy’n dechrau gyda’r diwrnod a bennir o dan is-adran (1).
(6)Os bydd corff adolygu yn methu â chydymffurfio â dyletswydd a osodir gan yr adran hon mewn perthynas ag adolygiad, nid yw methiant y corff i gydymffurfio yn effeithio ar ddilysrwydd yr adolygiad at ddibenion y Ddeddf hon.]
Diwygiadau Testunol
F64A. 36B wedi ei fewnosod (9.11.2024) gan Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (asc 5), aau. 48(2), 72(2)(a) (ynghyd ag a. 55)
PENNOD 5LL+CGWEITHREDU YN DILYN ADOLYGIAD
Gweithredu gan Weinidogion CymruLL+C
37Gweithredu gan Weinidogion CymruLL+C
(1)Caiff Gweinidogion Cymru, ar ôl iddynt gael adroddiad sy’n cynnwys argymhellion oddi wrth y Comisiwn mewn perthynas ag adolygiad a gynhaliwyd o dan adran 23, 26, 27, 28 neu 29, neu gais am weithredu ei argymhellion o dan adran 39(7)—
(a)drwy orchymyn weithredu unrhyw argymhelliad, gydag addasiadau neu hebddynt, neu
(b)penderfynu peidio â gweithredu [F65ar unrhyw argymhelliad].
(2)Er hynny, ni chaiff Gweinidogion Cymru weithredu argymhelliad gydag addasiadau oni bai ei fod—
(a)mewn achos sy’n ymwneud ag argymhellion i newid trefniadau etholiadol ar gyfer prif ardal, os ydynt wedi ystyried y materion a ddisgrifir yn adran 30 ac wedi eu bodloni ei bod yn briodol i wneud yr addasiad,
(b)mewn achos sy’n ymwneud ag argymhellion i newid trefniadau etholiadol ar gyfer cymuned, os ydynt wedi ystyried y materion a ddisgrifir yn adran 33 ac wedi eu bodloni ei bod yn briodol i wneud yr addasiad, ac
(c)mewn unrhyw achos, os ydynt wedi eu bodloni bod yr addasiad er lles llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.
[F66(2A)Rhaid i Weinidogion Cymru beidio ag arfer eu swyddogaethau o dan is-adran (1) mewn unrhyw gyfnod o 6 mis cyn diwrnod etholiad cyffredin cyngor o dan adran 26 o Ddeddf 1972 (ethol cynghorwyr).]
[F67(3A)Rhaid i Weinidogion Cymru beidio ag arfer eu swyddogaethau o dan is-adran (1) cyn diwedd y cyfnod o 6 wythnos sy’n dechrau ar y diwrnod y daw’r argymhellion i law Gweinidogion Cymru.
(3B)Wrth arfer eu swyddogaethau o dan is-adran (1), rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i unrhyw sylwadau a gyflwynir gan unrhyw berson ar yr argymhellion ac a ddaw i law Gweinidogion Cymru yn ystod y cyfnod o 6 wythnos sy’n dechrau ar y diwrnod y daw’r argymhellion i law Gweinidogion Cymru.]
(4)Rhaid i’r Comisiwn roi’r wybodaeth bellach honno i Weinidogion Cymru mewn perthynas â’i argymhellion fel y bo Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn rhesymol ofynnol.
[F68(5)Rhaid i Weinidogion Cymru wneud pob ymdrech i wneud penderfyniad ar bob argymhelliad a gânt, o’r math a ddisgrifir yn is-adran (1), cyn diwedd cyfnod o 3 mis sy’n dechrau ar ddiwedd y cyfnod a bennir gan is-adran (3A).
(6)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi datganiad sy’n nodi eu penderfyniad mewn cysylltiad â phob argymhelliad; ac mae’r dyddiad y cyhoeddir y datganiad i’w drin fel dyddiad y penderfyniad at ddibenion is-adran (5).
(7)Os bydd Gweinidogion Cymru yn methu â chydymffurfio â’r ddyletswydd yn is-adran (5), nid yw’r methiant i gydymffurfio yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw orchymyn o dan is-adran (1)(a) nac unrhyw benderfyniad i beidio â gweithredu o dan is-adran (1)(b).]
Diwygiadau Testunol
F65Geiriau yn a. 37(1)(b) wedi eu mewnosod (9.11.2024) gan Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (asc 5), aau. 49(2)(a), 72(2)(a) (ynghyd ag a. 55)
F66A. 37(2A) wedi ei fewnosod (9.11.2024) gan Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (asc 5), aau. 47(3), 72(2)(a) (ynghyd ag a. 55)
F67A. 37(3A)(3B) wedi ei amnewid ar gyfer (9.11.2024) gan Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (asc 5), aau. 43(2), 72(2)(a) (ynghyd ag a. 55)
F68A. 37(5)-(7) wedi ei fewnosod (9.11.2024) gan Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (asc 5), aau. 49(2)(b), 72(2)(a) (ynghyd ag a. 55)
Gwybodaeth Cychwyn
I37A. 37 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(b)
Gweithredu anweinidogolLL+C
38Gweithredu newid i ffin cymunedLL+C
(1)Caiff y Comisiwn, ar ôl iddo gael adroddiad yn cynnwys argymhellion i newid oddi wrth brif gyngor mewn perthynas ag adolygiad a gynhaliwyd o dan adran 25—
(a)drwy orchymyn weithredu’r argymhellion heb addasiadau,
(b)drwy orchymyn weithredu’r argymhellion gyda’r addasiadau hynny y mae’r prif gyngor yn cytuno arnynt, neu
(c)yn yr amgylchiadau a ddisgrifir yn adran 26(2)(b)(ii) neu (iii), gynnal ei adolygiad ei hun.
[F69(2A)Rhaid i’r Comisiwn beidio ag arfer ei swyddogaethau o dan is-adran (1) cyn diwedd y cyfnod o 6 wythnos sy’n dechrau ar y diwrnod y daw’r argymhellion i law’r Comisiwn.
(2B)Wrth arfer ei swyddogaethau o dan is-adran (1), rhaid i’r Comisiwn roi sylw i unrhyw sylwadau a gyflwynir gan unrhyw berson ar yr argymhellion ac a ddaw i law’r Comisiwn yn ystod y cyfnod o 6 wythnos sy’n dechrau ar y diwrnod y daw’r argymhellion i law’r Comisiwn.]
(3)Dim ond gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru y caniateir gwneud gorchymyn o dan is-adran (1) sy’n cynnwys newidiadau i drefniadau etholiadol prif ardal.
(4)Rhaid i’r prif gyngor a wnaeth yr argymhellion roi i’r Comisiwn yr wybodaeth bellach honno mewn perthynas â’r argymhellion neu’r weithdrefn a ddilynwyd fel y bo Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn rhesymol ofynnol.
[F70(5)Rhaid i’r Comisiwn wneud pob ymdrech i wneud penderfyniad ar bob argymhelliad a gaiff, o’r math a ddisgrifir yn is-adran (1), cyn diwedd cyfnod o 3 mis sy’n dechrau ar ddiwedd y cyfnod a bennir gan is-adran (2A).
(6)Rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi datganiad sy’n nodi ei benderfyniad mewn cysylltiad â phob argymhelliad; ac mae’r dyddiad y cyhoeddir y datganiad i’w drin fel dyddiad y penderfyniad.
(7)Os bydd y Comisiwn yn methu â chydymffurfio â’r ddyletswydd yn is-adran (5), nid yw’r methiant i gydymffurfio yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw orchymyn o dan is-adran (1)(a) neu (b) nac unrhyw adolygiad o dan is-adran (1)(c).]
Diwygiadau Testunol
F69A. 38(2A)(2B) wedi ei amnewid ar gyfer (9.11.2024) gan Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (asc 5), aau. 43(3), 72(2)(a) (ynghyd ag a. 55)
F70A. 38(5)-(7) wedi ei fewnosod (9.11.2024) gan Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (asc 5), aau. 49(3), 72(2)(a) (ynghyd ag a. 55)
Gwybodaeth Cychwyn
I38A. 38 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(b)
39Gweithredu newid i drefniadau etholiadol cymunedLL+C
(1)Caiff prif gyngor, drwy orchymyn, weithredu’r newidiadau a ddisgrifir mewn adroddiad a luniwyd gan y cyngor o dan adran 36(4).
(2)Ni chaniateir gwneud gorchymyn o dan is-adran (1) tan ddiwedd cyfnod o 6 wythnos sy’n dechrau ar y dyddiad y cyhoeddodd y prif gyngor ei adroddiad.
(3)Caiff prif gyngor, ar ôl cael adroddiad sy’n cynnwys yr argymhellion ar gyfer newid oddi wrth y Comisiwn mewn perthynas ag adolygiad o dan adran 32—
(a)drwy orchymyn weithredu’r argymhellion heb addasiadau,
(b)drwy orchymyn weithredu’r argymhellion gyda’r addasiadau hynny y cytunir arnynt â’r Comisiwn,
(c)penderfynu peidio â gweithredu a hysbysu’r Comisiwn yn unol â hynny.
[F71(4A)Rhaid i’r Cyngor beidio ag arfer ei swyddogaethau o dan is-adran (3) cyn diwedd y cyfnod o 6 wythnos sy’n dechrau ar y diwrnod y daw’r argymhellion i law’r Cyngor.
(4B)Wrth arfer ei swyddogaethau o dan is-adran (1) neu (3), rhaid i’r Cyngor roi sylw i unrhyw sylwadau a gyflwynir gan unrhyw berson ar yr argymhellion ac a ddaw i law’r Cyngor yn ystod y cyfnod o 6 wythnos sy’n dechrau ar y dyddiad y cyhoeddir yr adroddiad gan y Cyngor (ar gyfer swyddogaethau yn is-adran (1)) neu’r dyddiad y daw’r argymhellion i law’r Cyngor (ar gyfer swyddogaethau o dan is-adran (3)).]
[F72(4C)Rhaid i’r prif gyngor wneud pob ymdrech i wneud penderfyniad ar bob argymhelliad a gaiff, o’r math a ddisgrifir yn is-adran (3), cyn diwedd cyfnod o 3 mis sy’n dechrau ar ddiwedd y cyfnod a bennir gan is-adran (4A).
(4D)Rhaid i’r prif gyngor gyhoeddi datganiad sy’n nodi ei benderfyniad mewn cysylltiad â phob argymhelliad; ac mae’r dyddiad y cyhoeddir y datganiad i’w drin fel dyddiad y penderfyniad.
(4E)Os bydd prif gyngor yn methu â chydymffurfio â’r ddyletswydd yn is-adran (4C), nid yw’r methiant i gydymffurfio yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw orchymyn o dan is-adran (3)(a) neu (b) nac unrhyw benderfyniad neu hysbysiad o dan is-adran (3)(c).]
(5)Dim ond gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru y caniateir gwneud gorchymyn o dan is-adran (1) neu (3) sy’n cynnwys newidiadau i drefniadau etholiadol prif ardal.
(6)Mae is-adran (7) yn gymwys—
(a)pan fo’r prif gyngor wedi hysbysu’r Comisiwn nad yw’n bwriadu gweithredu mewn cysylltiad â’r argymhellion, neu
(b)pan na fo’r prif gyngor wedi gwneud gorchymyn (gydag addasiadau neu hebddynt) o fewn y cyfnod o [F733 mis sy’n dechrau gyda diwedd y cyfnod a bennir gan is-adran (4C)].
(7)Caiff y Comisiwn ofyn i Weinidogion Cymru weithredu’r argymhellion o dan adran 37.
Diwygiadau Testunol
F71A. 39(4A)(4B) wedi ei amnewid ar gyfer (9.11.2024) gan Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (asc 5), aau. 43(4), 72(2)(a) (ynghyd ag a. 55)
F72A. 39(4C)-(4E) wedi ei fewnosod (9.11.2024) gan Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (asc 5), aau. 49(4)(a), 72(2)(a) (ynghyd ag a. 55)
F73Geiriau yn a. 39(6)(b) wedi eu hamnewid (9.11.2024) gan Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (asc 5), aau. 49(4)(b), 72(2)(a) (ynghyd ag a. 55)
Gwybodaeth Cychwyn
I39A. 39 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(b)
Darpariaeth bellach ynghylch gweithredu a gorchmynion gweithreduLL+C
40Gorchmynion gweithredu: darpariaeth ganlyniadolLL+C
(1)Caniateir i orchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru, y Comisiwn neu brif gyngor o dan adran 37, 38, 39 neu 43 wneud unrhyw ddarpariaeth gysylltiedig, ganlyniadol, atodol neu drosiannol sy’n angenrheidiol neu’n hwylus yn eu barn hwy neu ei farn ef.
(2)Caniateir i’r gorchmynion hynny, yn benodol, wneud darpariaeth ynghylch—
(a)enw unrhyw ardal neu ward etholiadol sydd wedi ei newid;
(b)cyfanswm nifer y cynghorwyr, dosraniad cynghorwyr ymhlith wardiau etholiadol, neilltuo cynghorwyr presennol i wardiau etholiadol newydd neu wardiau etholiadol sydd wedi eu newid ac etholiad cyntaf cynghorwyr i unrhyw ward etholiadol newydd neu unrhyw ward etholiadol sydd wedi ei newid;
(c)cynnal etholiad newydd i gynghorwyr ar gyfer pob ward etholiadol yn yr ardal llywodraeth leol dan sylw;
(d)y drefn ar gyfer ymddeoliad cynghorwyr ar gyfer ward etholiadol;
(e)cyfansoddiad unrhyw gorff cyhoeddus mewn unrhyw ardal neu ward etholiadol y mae’r gorchymyn yn effeithio arni, etholiad iddo ac aelodaeth ohono;
(f)unrhyw un neu ragor o’r materion a ddisgrifir yn adran 41(2).
(3)Dim ond o ganlyniad i newid i’r trefniadau etholiadol ar gyfer ardal a wnaed yn dilyn adolygiad o dan Bennod 3 y caniateir gwneud darpariaeth o’r math a ddisgrifir yn is-adran (2)(c).
(4)Caiff gorchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 37 neu 43 gymhwyso neu addasu unrhyw ddeddfiad neu siarter.
(5)Nid oes dim yn yr adran hon yn rhagfarnu cyffredinolrwydd adran 71 (gorchmynion a rheoliadau).
(6)Yn yr adran hon—
mae “corff cyhoeddus”yn cynnwys—
(a)awdurdod lleol,
(b)unrhyw ymddiriedolwyr, comisiynwyr neu bersonau eraill sydd, at ddibenion cyhoeddus ac nid er eu budd eu hunain, yn gweithredu o dan unrhyw ddeddfiad neu offeryn er mwyn gwella unrhyw fan, cyflenwi dŵr i unrhyw fan, neu ddarparu neu gynnal mynwent neu farchnad mewn unrhyw fan, ac
(c)unrhyw awdurdod arall a chanddo bwerau i godi neu ddyroddi praesept ar gyfer unrhyw ardreth at ddibenion cyhoeddus,
ystyr “cynghorydd” yw aelod etholedig awdurdod lleol.
Gwybodaeth Cychwyn
I40A. 40 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(b)
41Darpariaeth ganlyniadol a throsiannol gyffredinolLL+C
(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud unrhyw ddarpariaeth gysylltiedig, ganlyniadol, atodol neu drosiannol sy’n angenrheidiol neu’n hwylus yn eu barn hwy at ddibenion rhoi effaith lawn i orchmynion a wneir o dan adran 37, 38, 39 neu 43 neu mewn cysylltiad â hynny.
(2)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon, yn benodol, wneud darpariaeth ynghylch—
(a)swyddogaethau, ardal neu awdurdodaeth mewn neu dros ardal (neu ran o ardal) unrhyw gorff cyhoeddus neu swydd gyhoeddus o fewn ardal (neu ward etholiadol) y mae gorchymyn a wneir o dan y Rhan hon yn effeithio arni;
(b)costau a threuliau corff cyhoeddus neu swydd gyhoeddus y mae’r cyfryw orchymyn yn effeithio arnynt;
(c)trosglwyddo staff cyrff cyhoeddus neu swyddi cyhoeddus yr effeithir arnynt;
(d)trosglwyddo, rheoli neu warchod eiddo (boed yn eiddo tirol neu’n eiddo personol) a throsglwyddo hawliau a rhwymedigaethau;
(e)trosglwyddo achosion cyfreithiol.
(3)Caniateir i’r rheoliadau o dan yr adran hon gymhwyso neu addasu unrhyw ddeddfiad neu siarter.
(4)Nid oes dim yn yr adran hon yn rhagfarnu cyffredinolrwydd adran 71 (gorchmynion a rheoliadau).
(5)Yn yr adran hon, mae i “corff cyhoeddus” yr un ystyr ag yn adran 40(6).
Gwybodaeth Cychwyn
I41A. 41 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(b)
42Trosglwyddo staffLL+C
Rhaid i orchymyn o dan adran 37, 38, 39 neu 43 neu, yn ôl y digwydd, reoliadau o dan adran 41 sy’n gwneud darpariaeth ynghylch trosglwyddo staff gynnwys darpariaeth i sicrhau—
(a)bod person a drosglwyddir i gyflogwr newydd yn aros ar delerau ac amodau nad ydynt yn llai ffafriol na’r rhai yr oedd y person yn ddarostyngedig iddynt cyn iddo drosglwyddo hyd nes bod y person—
(i)yn gadael cyflogaeth y cyflogwr newydd, neu
(ii)yn cael datganiad ysgrifenedig sy’n cyfeirio at y gorchymyn neu’r rheoliadau ac sy’n pennu telerau ac amodau cyflogaeth newydd, a
(b)ar yr amod bod y person yn cyflawni dyletswyddau sy’n rhesymol debyg i’r rhai yr oedd yn eu cyflawni yn union cyn y trosglwyddo, nad yw unrhyw delerau ac amodau newydd a bennir mewn hysbysiad o dan baragraff (a)(ii) yn llai ffafriol na’r rhai a oedd gan y person cyn y trosglwyddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I42A. 42 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(b)
43Amrywio a dirymu gorchmynionLL+C
(1)Ac eithrio fel y mae’r adran hon yn darparu ar ei gyfer, ni chaniateir amrywio na dirymu gorchmynion a wneir o dan yr adran hon neu adran 37, 38 neu 39 [F74gan Weinidogion Cymru, y Comisiwn na, yn ôl y digwydd, y prif gyngor].
(2)Caiff Gweinidogion Cymru, y Comisiwn neu, yn ôl y digwydd, brif gyngor drwy orchymyn amrywio neu ddirymu—
(a)unrhyw ddarpariaeth mewn gorchymyn a wneir o dan yr adran hon neu adran 37, 38 neu 39 y disgrifir ei math yn adran 40(2);
(b)unrhyw ddarpariaeth debyg mewn gorchymyn a wneir o dan adran 67 (trefniadau canlyniadol a throsiannol) neu a wneir yn rhinwedd adran 255 (trosglwyddo swyddogion) yn Neddf 1972.
(3)Ac eithrio fel y darperir yn is-adrannau (4) a (5), dim ond y personau neu’r corff a wnaeth y gorchymyn sy’n cynnwys y ddarpariaeth sydd i’w hamrywio neu i’w dirymu (“y gorchymyn gwreiddiol”) a gaiff wneud gorchymyn i amrywio neu ddirymu darpariaeth o’r math a ddisgrifir yn is-adran (2).
(4)Caiff Gweinidogion Cymru wneud gorchymyn o dan yr adran hon pan fo’r gorchymyn gwreiddiol—
(a)wedi ei wneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol ac y bo’n ymwneud â Chymru, neu
(b)wedi ei wneud gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (fel y’i cyfansoddwyd o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998).
(5)Caiff prif gyngor wneud gorchymyn o dan yr adran hon pan fo’r gorchymyn gwreiddiol wedi ei wneud gan gyngor a’i rhagflaenodd ac nad yw’n bodoli mwyach.
(6)Ond dim ond i’r graddau y mae’n ymwneud ag ardal y prif gyngor y caiff gorchymyn a wneir yn unol ag is-adran (5) amrywio neu ddirymu darpariaeth yn y gorchymyn gwreiddiol.
(7)Cyn gwneud gorchymyn o dan is-adran (2), rhaid i Weinidogion Cymru, y Comisiwn neu, yn ôl y digwydd, y prif gyngor gydymffurfio ag is-adrannau (8) a (9).
(8)Rhaid i Weinidogion Cymru, y Comisiwn neu, yn ôl y digwydd, y prif gyngor—
(a)anfon copi o’r drafft o’r gorchymyn i unrhyw awdurdod lleol neu gorff cyhoeddus y mae’r gorchymyn yn debygol o effeithio arno yn eu barn hwy neu yn ei farn ef,
(b)cyhoeddi’r gorchymyn drafft mewn modd sy’n debygol, yn eu barn hwy neu yn ei farn ef, o’i ddwyn i sylw personau a chanddynt fuddiant yn y gorchymyn o bosibl,
(c)sicrhau bod copi o’r gorchymyn drafft ar gael i bersonau a chanddynt fuddiant edrych arno yn y mannau hynny sy’n briodol yn eu barn hwy neu yn ei farn ef, a
(d)gwahodd sylwadau mewn perthynas â’r gorchymyn drafft o fewn y cyfnod o 2 fis sy’n dechrau ar y dyddiad cyhoeddi o dan baragraff (b).
(9)Rhaid i Weinidogion Cymru, y Comisiwn neu, yn ôl y digwydd, y prif gyngor ystyried unrhyw sylwadau sy’n dod i law o fewn y cyfnod o 2 fis a chânt addasu’r gorchymyn yng ngoleuni’r sylwadau hynny.
(10)Pan fo Gweinidogion Cymru, y Comisiwn neu, yn ôl y digwydd, brif gyngor yn fodlon bod camgymeriad wedi digwydd wrth lunio gorchymyn o dan yr adran hon neu adran 37, 38 neu 39 caiff Gweinidogion Cymru, y Comisiwn neu’r prif gyngor, drwy orchymyn, wneud unrhyw ddarpariaeth y maent hwy neu y mae ef o’r farn ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus er mwyn cywiro’r camgymeriad hwnnw.
(11)Yn is-adran (10) mae “camgymeriad”, mewn perthynas â gorchymyn, yn cynnwys darpariaeth a gynhwysir yn y gorchymyn neu a hepgorir ohono gan ddibynnu ar wybodaeth anghywir neu anghyflawn a roddir gan unrhyw gorff cyhoeddus.
(12)Ni chaiff Gweinidogion Cymru, y Comisiwn neu, yn ôl y digwydd, brif gyngor arfer y pŵer yn is-adran (10) mewn perthynas â gorchymyn a wneir gan rywun arall.
[F75(12A)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, amrywio neu ddirymu gorchymyn o dan yr adran hon neu adran 37, 38 neu 39 (ni waeth pa un a wnaethant hwy y gorchymyn ai peidio) o ganlyniad i reoliadau o dan baragraff 9 neu 10 o Atodlen 1 i Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.]
(13)Yn yr adran hon, mae i “corff cyhoeddus” yr un ystyr ag yn adran 40(6).
Diwygiadau Testunol
F74Geiriau yn a. 43(1) wedi eu mewnosod (25.6.2024) gan Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), a. 25(1)(a), Atod. 1 para. 5(2)
F75A. 43(12A) wedi ei fewnosod (21.1.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(1)(f)(2), Atod. 1 para. 14
Gwybodaeth Cychwyn
I43A. 43 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(b)
Cytundebau rhwng cyrff cyhoeddus i ymdrin â newidLL+C
44Cytundebau trosiannol o ran eiddo a chyllidLL+C
(1)Caniateir i unrhyw gorff cyhoeddus y mae newid ardal, diddymu neu gyfansoddi ardal neu ward etholiadol drwy orchymyn o dan adran 37, 38, 39 neu 43 F76... yn effeithio arno, ymrwymo mewn cytundeb â chorff cyhoeddus arall yr effeithir arno ynghylch—
(a)unrhyw eiddo, incwm, hawliau neu rwymedigaethau y mae’r newid yn effeithio arnynt;
(b)unrhyw berthynas ariannol rhwng y partïon i’r cytundeb;
(c)unrhyw dreuliau y mae’r partïon yn mynd iddynt sy’n codi o ganlyniad i’r newid.
(2)Caiff cytundeb o dan yr adran hon ddarparu—
(a)ar gyfer trosglwyddo neu gadw unrhyw eiddo, hawliau a rhwymedigaethau, gydag amodau neu hebddynt, ac ar gyfer defnyddio unrhyw eiddo ar y cyd;
(b)ar gyfer gwneud taliadau mewn cysylltiad ag unrhyw eiddo, hawliau neu rwymedigaethau a drosglwyddir neu a gedwir, neu ar gyfer y defnydd hwnnw ar y cyd, ac mewn cysylltiad â’r tâl neu’r digollediad sy’n daladwy i unrhyw berson;
(c)ar gyfer gwneud unrhyw daliad o’r fath drwy swm cyfalaf neu flwydd-dal terfynadwy.
(3)Pan na fo partïon yn gallu dod i gytundeb ar unrhyw fater, rhaid cyfeirio’r mater i gael ei gymrodeddu gan un cymrodeddwr y cytunir arno gan y partïon neu, os na cheir y cyfryw gytundeb, a benodir gan Weinidogion Cymru.
(4)Caiff dyfarniad y cymrodeddwr ddarparu ar gyfer unrhyw fater y caiff cytundeb o dan yr adran hon ddarparu ar ei gyfer.
(5)Caniateir i unrhyw swm y mae’n ofynnol i gorff cyhoeddus ei dalu gael ei dalu—
(a)o’r gronfa neu’r ardreth y telir treuliau cyffredinol y corff cyhoeddus ohoni, neu
(b)o unrhyw gronfa neu ardreth arall y caiff y corff cyhoeddus benderfynu arni.
(6)Yn yr adran hon, mae i “corff cyhoeddus” yr un ystyr ag yn adran 40(6).
Diwygiadau Testunol
F76Geiriau yn a. 44(1) wedi eu hepgor (1.4.2021) yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 150(2)(b), 175(7); O.S. 2021/297, ergl. 2(d)
Gwybodaeth Cychwyn
I44A. 44 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(b)
PENNOD 6LL+CDARPARIAETH ARALL SY’N BERTHNASOL I FFINIAU AWDURDODAU LLEOL
45Newid ardal heddluLL+C
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo’r Comisiwn yn cynnal adolygiad o un neu ragor o brif ardaloedd o dan adran 23.
(2)Yn ogystal â’r newidiadau y caniateir eu hargymell o dan adran 23(3) caiff y Comisiwn, mewn cysylltiad ag unrhyw newid i ffin prif ardal, argymell unrhyw newidiadau i ardal neu ardaloedd heddlu (gan gynnwys newidiadau sy’n arwain at leihad neu gynnydd yn nifer ardaloedd heddlu) sy’n briodol yn ei farn ef.
(3)Caiff yr Ysgrifennydd Gwladol, ar ôl cael adroddiad sy’n cynnwys argymhellion gan y Comisiwn mewn perthynas ag adolygiad a gynhelir o dan adran 23—
(a)drwy orchymyn a wneir drwy offeryn statudol, weithredu unrhyw argymhellion i newid ardal heddlu, gydag addasiadau neu hebddynt,
(b)os yw’n bwriadu gweithredu’r argymhellion gydag addasiadau, gyfarwyddo’r Comisiwn i gynnal adolygiad pellach o dan adran 23 o’r prif ardaloedd hynny y mae’r argymhellion yn effeithio arnynt a bennir yn y cyfarwyddyd, neu
(c)penderfynu peidio â gweithredu mewn cysylltiad â’r argymhellion.
(4)Rhaid i’r Comisiwn gydymffurfio â chyfarwyddyd o dan is-adran (3)(b).
(5)Caniateir i orchymyn a wneir o dan yr adran hon gynnwys—
(a)darpariaeth i gomisiynydd heddlu a throsedd ar gyfer ardal heddlu y mae’r gorchymyn yn effeithio arni ddod yn gomisiynydd heddlu a throsedd ar gyfer ardal heddlu sy’n deillio o’r gorchymyn,
(b)darpariaeth i gynnal etholiad am gomisiynydd heddlu a throsedd ar gyfer unrhyw ardal heddlu sy’n deillio o’r gorchymyn,
(c)unrhyw ddarpariaeth gysylltiedig, ganlyniadol, atodol neu drosiannol sy’n angenrheidiol neu’n hwylus ym marn yr Ysgrifennydd Gwladol.
(6)Caiff gorchymyn sy’n cynnwys darpariaeth o’r math a grybwyllir yn is-adran (5)(b) ei gwneud yn ofynnol i’r etholiad dan sylw gael ei gynnal cyn i’r newid i ardaloedd heddlu gael effaith.
(7)Caiff gorchymyn o dan yr adran hon gymhwyso neu addasu unrhyw ddeddfiad neu siarter.
(8)Ni chaiff gorchymyn a wneir o dan yr adran hon ddarparu i brif ardal gael ei rhannu rhwng 2 neu ragor o ardaloedd heddlu.
(9)Ni chaniateir gwneud gorchymyn o dan y adran hon nes bod y cyfnod o 6 wythnos sy’n dechrau ar y dyddiad y cafodd yr Ysgrifennydd Gwladol yr argymhellion wedi dod i ben.
Gwybodaeth Cychwyn
I45A. 45 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(b)
46Rhychwant ffiniau tua’r môrLL+C
(1)Mae unrhyw ran o lannau’r môr i farc y distyll yn ffurfio rhan o’r gymuned neu’r cymunedau y mae’n cydffinio â hi neu â hwy gan gyfateb i gyfran rhychwant y ffin gyffredin.
(2)Mae pob croniant o’r môr (boed yn naturiol neu’n artiffisial) yn ffurfio rhan o’r gymuned neu’r cymunedau y mae’n cydffinio â hi neu â hwy gan gyfateb i gyfran rhychwant y ffin gyffredin.
(3)Mae pob croniant neu ran o lannau’r môr sy’n ffurfio rhan o gymuned o dan yr adran hon hefyd yn ffurfio rhan o’r brif ardal a’r sir wedi ei chadw lle y mae’r gymuned.
Gwybodaeth Cychwyn
I46A. 46 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(b)
47Newid ffin yn dilyn newid cwrs dŵrLL+C
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo cwrs dŵr yn ffurfio llinell ffin rhwng dwy neu ragor o ardaloedd llywodraeth leol.
(2)Os newidir y cwrs dŵr, drwy arfer unrhyw bŵer a roddwyd gan Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991 (p. 57), Deddf Draenio Tir 1991 (p. 59) neu unrhyw ddeddfiad arall, mewn unrhyw ffordd sy’n effeithio ar ei gymeriad fel llinell ffin, rhaid i’r person y gwneir y newid o dan ei awdurdod hysbysu Gweinidogion Cymru am y newid cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
(3)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, amrywio llinell ffin y mae hysbysiad a roddir o dan is-adran (2) yn ymwneud â hi drwy roi llinell ffin newydd (boed a yw’n cynnwys yn gyfan gwbl neu’n rhannol linell y cwrs dŵr fel y’i newidiwyd) yn lle cymaint o linell y ffin honno ag a oedd ar linell y cwrs dŵr cyn y newid.
(4)Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Comisiwn cyn gwneud gorchymyn o dan is-adran (3).
(5)Rhaid i Weinidogion Cymru, yn y modd sy’n briodol yn eu barn hwy, gyhoeddi hysbysiad o unrhyw orchymyn a wneir o dan yr adran hon.
(6)At ddibenion yr adran hon, mae cyfeiriad at ardal lywodraeth leol yn cynnwys cyfeiriad at sir wedi ei chadw.
Gwybodaeth Cychwyn
I47A. 47 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(b)
PENNOD 7LL+CDARPARIAETH AMRYWIOL
48Cyfarwyddiadau a chanllawiau ynghylch Rhan 3LL+C
(1)Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddiadau i’r Comisiwn sy’n ymwneud ag arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon.
(2)Yn benodol, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo’r Comisiwn—
(a)i gynnal adolygiad o dan y Rhan hon [F77(ni waeth a fyddai gan y Comisiwn y pŵer, neu y byddai’n ddarostyngedig i ddyletswydd, o dan yr amgylchiadau, i gynnal yr adolygiad ai peidio)] ,
[F78(aa)pan fo’r Comisiwn wedi gwneud argymhellion neu gynigion i Weinidogion Cymru, i gynnal adolygiad pellach o dan y Rhan hon,
(ab)i roi’r gorau i gynnal adolygiad o dan y Rhan hon,]
(b)i beidio â chynnal adolygiad o dan [F79y Rhan hon] yn ystod cyfnod a bennir yn y cyfarwyddyd,
F80(c). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(d)i gynnal yr adolygiadau sy’n ofynnol o dan adran 29(1) mewn trefn wahanol i’r hyn a gynigir gan y Comisiwn mewn unrhyw raglen gyfredol ar gyfer adolygiadau o drefniadau etholiadol a lunnir yn unol â’r adran honno,
(e)i roi sylw i unrhyw faterion penodol a bennir yn y cyfarwyddyd wrth gynnal adolygiad.
[F81(f)i oedi adolygiad y mae’n ei gynnal o dan y Rhan hon am gyfnod a bennir yn y cyfarwyddyd neu hyd oni roddir cyfarwyddyd pellach.]
(3)Nid yw is-adran (1) yn cyfyngu ar y pŵer cyfarwyddo cyffredinol o dan adran 14.
(4)Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddiadau i brif gyngor sy’n ymwneud ag arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon.
(5)Yn benodol, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo prif gyngor—
(a)i gynnal adolygiad o dan adran 25 neu 31,
[F82(aa)i roi’r gorau i gynnal adolygiad o dan adran 25 neu 31,
(ab)i beidio â chynnal adolygiad o dan adran 25 neu 31 yn ystod cyfnod a bennir yn y cyfarwyddyd,]
(b)i roi sylw i unrhyw faterion penodol a bennir yn y cyfarwyddyd wrth gynnal adolygiad.
[F83(c)i oedi adolygiad y mae’n ei gynnal o dan y Rhan hon am gyfnod a bennir yn y cyfarwyddyd neu hyd oni roddir cyfarwyddyd pellach.]
(6)Rhaid i brif gyngor gydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru o dan is-adran (4).
(7)Caniateir i gyfarwyddiadau o dan yr adran hon ymwneud ag adolygiad penodol, math o adolygiad neu bob adolygiad.
(8)Ond cyn rhoi cyfarwyddyd o dan yr adran hon mewn perthynas ag adolygiad o brif ardal neu ei threfniadau etholiadol (neu adolygiadau o brif ardaloedd neu eu trefniadau etholiadol yn gyffredinol), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Comisiwn ac unrhyw gymdeithas yr ymddengys iddynt eu bod yn cynrychioli awdurdodau lleol.
(9)Wrth arfer unrhyw swyddogaeth o dan y Rhan hon, rhaid i’r Comisiwn neu brif gyngor roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.
[F84(10)Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â defnyddio’r pwerau cyfarwyddo o dan y Ddeddf hon i oedi adolygiad am fwy na 9 mis, pa un a yw’r oedi am un cyfnod o 9 mis neu am fwy nag un cyfnod sy’n dod i gyfanswm o 9 mis.
(11)Nid yw unrhyw gyfnod pan gyfarwyddir y Comisiwn neu brif gyngor o dan y Ddeddf hon i oedi adolygiad i gael ei ystyried at ddiben cyfrifo hyd y cyfnodau a grybwyllir yn is-adrannau (2) i (5) o adran 36B.]
Diwygiadau Testunol
F77Geiriau yn a. 48(2)(a) wedi eu hamnewid (1.4.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 164(2)(a), 175(7); O.S. 2021/231, ergl. 3(b)
F78A. 48(2)(aa)(ab) wedi ei fewnosod (1.4.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 164(2)(b), 175(7); O.S. 2021/231, ergl. 3(b)
F79Geiriau yn a. 48(2)(b) wedi eu hamnewid (1.4.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 164(2)(c), 175(7); O.S. 2021/231, ergl. 3(b)
F80A. 48(2)(c) wedi ei hepgor (1.4.2021) yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 150(2)(c), 175(7); O.S. 2021/297, ergl. 2(d)
F81A. 48(2)(f) wedi ei fewnosod (9.11.2024) gan Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (asc 5), aau. 50(2)(a), 72(2)(a) (ynghyd ag a. 55)
F82A. 48(5)(aa)(ab) wedi ei fewnosod (1.4.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 164(3)(c), 175(7); O.S. 2021/231, ergl. 3(b)
F83A. 48(5)(c) wedi ei fewnosod (9.11.2024) gan Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (asc 5), aau. 50(2)(b), 72(2)(a) (ynghyd ag a. 55)
F84A. 48(10)(11) wedi ei fewnosod (9.11.2024) gan Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (asc 5), aau. 50(2)(c), 72(2)(a) (ynghyd ag a. 55)
Gwybodaeth Cychwyn
I48A. 48 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(b)
49Ymchwiliadau lleolLL+C
(1)Caiff y Comisiwn neu, yn ôl y digwydd, brif gyngor, beri i ymchwiliad lleol gael ei gynnal mewn cysylltiad ag unrhyw adolygiad a gynhelir ganddo o dan y Rhan hon.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru, y Comisiwn neu, yn ôl y digwydd, brif gyngor beri i ymchwiliad lleol gael ei gynnal mewn cysylltiad â gorchymyn drafft a lunnir o dan adran 43.
(3)Caiff person a benodir i gynnal ymchwiliad drwy wŷs ei gwneud yn ofynnol i berson fod yn bresennol ar adeg ac mewn man a bennir yn y wŷs—
(a)i roi tystiolaeth, neu
(b)i gyflwyno unrhyw wybodaeth yn ymwneud ag unrhyw fater dan sylw a ddelir gan y person neu sydd o dan reolaeth y person.
(4)Caiff person a benodir i gynnal ymchwiliad gymryd tystiolaeth ar lw ac at y diben hwnnw caiff weinyddu llwon.
(5)Rhaid talu unrhyw dreuliau yr eir iddynt yn rhesymol i berson y mae’n ofynnol iddo fod yn bresennol o dan is-adran (3).
(6)Er gwaethaf is-adran (3)(b), ni chaniateir ei gwneud yn ofynnol i berson gyflwyno teitl (neu unrhyw offeryn sy’n ymwneud â theitl) unrhyw dir nad yw’n perthyn i awdurdod lleol.
(7)Mae person yn cyflawni trosedd os bydd y person—
(a)yn gwrthod cydymffurfio â gofyniad gwŷs a gyflwynir i’r person o dan is-adran (3) neu’n methu’n fwriadol â chydymffurfio â gofyniad o’r fath,
(b)yn newid, atal, cuddio neu ddinistrio’n fwriadol unrhyw wybodaeth y mae’n ofynnol i’r person ei chyflwyno o dan yr adran hon.
(8)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (7) yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol neu’r carchar am dymor nad yw’n hwy na 6 mis, neu’r ddau.
(9)Caiff y person neu’r corff sy’n peri i ymchwiliad gael ei gynnal o dan yr adran hon wneud gorchmynion o ran—
(a)costau’r partïon yn yr ymchwiliad, a
(b)y partïon y mae’r costau i’w talu ganddynt.
(10)Caniateir i orchymyn o dan is-adran (9) gael ei wneud yn un o reolau’r Uchel Lys ar gais parti a enwir yn y gorchymyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I49A. 49 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(b)
[F8549ZACyhoeddi gorchmynion o dan Ran 3LL+C
(1)Rhaid i brif gyngor gyhoeddi a chynnal ar ei wefan—
(a)copi o bob gorchymyn y mae’n ei wneud o dan y Rhan hon;
(b)copi o bob gorchymyn sy’n ymwneud â’i ardal a wneir gan y Comisiwn o dan y Rhan hon;
(c)copi o bob offeryn statudol sy’n cynnwys gorchymyn sy’n ymwneud â’i ardal a wneir gan Weinidogion Cymru o dan y Rhan hon, neu ddolen at bob offeryn statudol o’r fath.
(2)Rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi a chynnal ar ei wefan—
(a)copi o bob gorchymyn a wneir gan brif gyngor o dan y Rhan hon;
(b)copi o bob gorchymyn y mae’r Comisiwn yn ei wneud o dan y Rhan hon;
(c)copi o bob offeryn statudol sy’n cynnwys gorchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan y Rhan hon, neu ddolen at bob offeryn statudol o’r fath;
(d)copi o bob offeryn statudol sy’n cynnwys gorchymyn a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan y Rhan hon, neu ddolen at bob offeryn statudol o’r fath.
(3)Rhaid i brif gyngor anfon copi o bob gorchymyn y mae’n ei wneud o dan y Rhan hon i’r Comisiwn.
(4)Rhaid i’r Comisiwn anfon i brif gyngor gopi o bob gorchymyn y mae’n ei wneud o dan y Rhan hon sy’n effeithio ar ardal y prif gyngor.
(5)Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)hysbysu prif gyngor am bob gorchymyn y maent yn ei wneud o dan y Rhan hon sy’n effeithio ar ardal y prif gyngor;
(b)hysbysu’r Comisiwn am bob gorchymyn y maent yn ei wneud o dan y Rhan hon.
(6)Mae’r dyletswyddau yn is-adrannau (1) a (2) yn gymwys i orchmynion a wneir ar ôl i’r adran hon ddod i rym.]
Diwygiadau Testunol
F85A. 49ZA wedi ei fewnosod (9.11.2024) gan Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (asc 5), aau. 53(2), 72(2)(a) (ynghyd ag a. 55)
[F8649ZBCyhoeddi rhestrau cyfredol o gymunedau a chynghorau cymunedLL+C
(1)Rhaid i brif gyngor gyhoeddi a chynnal ar ei wefan restr gyfredol o’r holl gymunedau a chynghorau cymuned yn ei ardal, gyda’u henwau presennol.
(2)Rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi a chynnal ar ei wefan restr gyfredol o’r holl gymunedau a chynghorau cymuned yng Nghymru, gyda’u henwau presennol.
(3)Os oes gan gymuned neu gyngor cymuned enwau gwahanol at ddiben cyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg, rhaid cynnwys y ddau enw mewn rhestr y mae’n ofynnol ei chyhoeddi o dan yr adran hon.]
Diwygiadau Testunol
F86A. 49ZB wedi ei fewnosod (9.11.2024) gan Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (asc 5), aau. 54(2), 72(2)(a) (ynghyd ag a. 55)
[F87RHAN 3ALL+CADOLYGIADAU O FFINIAU ETHOLAETHAU’R SENEDD
Diwygiadau Testunol
F87Rhn. 3A wedi ei fewnosod (24.8.2024) gan Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), a. 25(2)(c), Atod. 3 para. 1 (ynghyd ag Atod. 3 para. 3)
49AAdolygiadau o ffiniau etholaethau’r SeneddLL+C
(1)Rhaid i’r Comisiwn gynnal adolygiad o ffiniau etholaethau’r Senedd unwaith ym mhob cyfnod adolygu.
(2)Adolygiad o ffiniau etholaethau’r Senedd yw adolygiad o etholaethau’r Senedd at ddiben penderfynu a ddylai’r ffiniau hynny newid er mwyn rhoi effaith i’r rheolau a nodir yn adran 49C.
(3)Os yw’r Comisiwn yn penderfynu yn ystod adolygiad y dylai ffiniau etholaeth Senedd newid, rhaid i’r Comisiwn hefyd benderfynu—
(a)yr hyn ddylai fod yr enwau ar yr etholaethau yr effeithir arnynt;
(b)pa un a yw pob etholaeth yr effeithir arni yn etholaeth sirol neu’n etholaeth fwrdeistrefol.
(4)Ond os yw’r Comisiwn yn penderfynu yn ystod adolygiad, er na ddylai ffiniau etholaeth Senedd newid, y dylai enw’r etholaeth newid neu y dylai ei dynodiad yn etholaeth sirol neu’n etholaeth fwrdeistrefol newid, caiff y Comisiwn benderfynu—
(a)yr hyn ddylai fod yr enw ar yr etholaeth;
(b)pa un a ddylai fod yn etholaeth sirol neu’n etholaeth fwrdeistrefol.
(5)At ddiben is-adran (1), ystyr “cyfnod adolygu” yw—
(a)y cyfnod sy’n dechrau ag 1 Ebrill 2025 ac sy’n dod i ben â 30 Tachwedd 2028,
(b)y cyfnod o 8 mlynedd sy’n dechrau ag 1 Rhagfyr 2028, ac
(c)pob cyfnod dilynol o 8 mlynedd.
49BHysbysiad cychwyn adolygiad ffiniau etholaethau’r SeneddLL+C
(1)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cychwyn adolygiad o ffiniau etholaethau’r Senedd, rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi hysbysiad—
(a)yn datgan bod y Comisiwn wedi cychwyn adolygiad, a
(b)yn pennu’r dyddiad y cychwynnodd yr adolygiad arno.
(2)Yn y Rhan hon, ystyr “dyddiad yr adolygiad” yw’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad o dan is-adran (1)(b).
49CRheolau ynghylch etholaethauLL+C
(1)Rhaid i’r etholyddiaeth ar gyfer pob etholaeth Senedd fod yn—
(a)dim llai na 90% o’r cwota etholiadol, a
(b)dim mwy na 110% o’r cwota etholiadol.
(2)Wrth ystyried, yn ystod adolygiad o ffiniau etholaethau’r Senedd, pa un a ddylid gwneud newidiadau i etholaethau’r Senedd, a pha newidiadau y dylid eu gwneud—
(a)caiff y Comisiwn roi sylw i—
(i)ffiniau llywodraeth leol sy’n bodoli neu sy’n ddarpar ffiniau ar ddyddiad yr adolygiad;
(ii)ystyriaethau daearyddol arbennig, gan gynnwys yn benodol faint, siâp a hygyrchedd etholaeth Senedd arfaethedig neu etholaeth Senedd bresennol;
(iii)unrhyw gwlwm lleol (gan gynnwys cwlwm lleol sy’n gysylltiedig â’r defnydd o’r Gymraeg) a fyddai’n cael ei dorri gan y newidiadau hynny; ond
(b)sut bynnag, rhaid i’r Comisiwn—
(i)ceisio sicrhau y gwneir cyn lleied o newidiadau â phosibl i etholaethau’r Senedd sy’n bodoli ar ddyddiad yr adolygiad, a
(ii)rhoi sylw i’r anghyfleustra a achosir drwy wneud newidiadau i etholaethau’r Senedd.
(3)At ddibenion is-adran (1)—
(a)yr etholyddiaeth yw cyfanswm nifer yr etholwyr llywodraeth leol, a
(b)y cwota etholiadol yw etholyddiaeth Cymru wedi ei rannu ag 16 (sef nifer etholaethau’r Senedd), ac
at ddibenion paragraff (a), etholwr llywodraeth leol yw person sydd wedi ei gofrestru yn y fersiwn berthnasol o’r gofrestr o etholwyr llywodraeth leol mewn cyfeiriad o fewn etholaeth Senedd.
(4)Y fersiwn berthnasol o’r gofrestr o etholwyr llywodraeth leol, ar ddyddiad yr adolygiad, yw’r fersiwn ddiweddaraf a gyhoeddwyd o dan adran 13(1)(a) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (p. 2).
(5)Yn achos ffin llywodraeth leol sy’n ddarpar ffin ar ddyddiad yr adolygiad, y ffin honno (yn hytrach nag unrhyw ffin sy’n bodoli eisoes a ddisodlir ganddi) yw’r ffin y mae rhaid ei hystyried o dan is-adran (2)(a)(i).
(6)Mae ffin llywodraeth leol yn “ddarpar ffin” ar ddyddiad yr adolygiad—
(a)os yw’r ffin, ar y dyddiad hwnnw, wedi ei phennu mewn darpariaeth mewn—
(i)deddfwriaeth sylfaenol, neu
(ii)offeryn a wneir o dan ddeddfwriaeth sylfaenol, a
(b)os nad yw’r ddarpariaeth sy’n pennu’r ffin mewn grym hyd hynny at bob diben ar y dyddiad hwnnw.
(7)Yn is-adran (6), ystyr “deddfwriaeth sylfaenol” yw—
(a)Deddf a ddeddfir o dan Ran 4 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32);
(b)Mesur a ddeddfwyd o dan Ran 3 o’r Ddeddf honno;
(c)Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig.
49DPenderfynu ar enwau etholaethau’r SeneddLL+C
(1)Rhaid i bob etholaeth Senedd gael enw unigol at ddibenion adnabod yr etholaeth mewn cyfathrebiad drwy’r Gymraeg a’r Saesneg, oni bai bod y Comisiwn yn ystyried y byddai hyn yn annerbyniol (os felly caniateir i’r etholaeth gael enwau gwahanol at ddibenion ei hadnabod mewn cyfathrebiad drwy’r Gymraeg a’r Saesneg).
(2)Cyn gwneud ei adroddiad cychwynnol (gweler adran 49E) rhaid i’r Comisiwn, os yw’n bwriadu gwneud cynnig yn ymwneud ag enw etholaeth Senedd—
(a)ymgynghori â Chomisiynydd y Gymraeg ar orgraff yr enw arfaethedig, a
(b)ystyried ei gynnig gan roi sylw i unrhyw sylwadau gan y Comisiynydd ar orgraff yr enw arfaethedig.
(3)Mae gofyniad o dan y Rhan hon i nodi enw neu enw arfaethedig etholaeth Senedd mewn adroddiad, pan fo’r Comisiwn yn ystyried y dylai’r etholaeth gael enwau gwahanol at ddibenion ei hadnabod mewn cyfathrebiad drwy’r Gymraeg a’r Saesneg, yn ofyniad i nodi’r ddau enw—
(a)yn fersiwn Gymraeg yr adroddiad, a
(b)yn fersiwn Saesneg yr adroddiad.
49EAdroddiad cychwynnol ar yr adolygiad ffiniau a’r cyfnod cyntaf ar gyfer sylwadauLL+C
(1)Ar ôl cymryd y camau yn adrannau 49B(1) a 49D(2), rhaid i’r Comisiwn wneud adroddiad cychwynnol yn nodi—
(a)cynigion y Comisiwn ar gyfer newid i—
(i)ffiniau etholaethau’r Senedd;
(ii)enwau etholaethau’r Senedd, neu
(b)os nad yw’n ystyried bod unrhyw newid yn briodol, datganiad i’r perwyl hwnnw.
(2)Rhaid i’r Comisiwn—
(a)cyhoeddi’r adroddiad cychwynnol,
(b)hysbysu unrhyw berson y mae’r Comisiwn yn ystyried ei fod yn briodol ynghylch sut i gyrchu’r adroddiad,
(c)gwahodd sylwadau ar yr adroddiad, a
(d)hysbysu unrhyw berson y mae’r Comisiwn yn ystyried ei fod yn briodol ynghylch y cyfnod cyntaf ar gyfer sylwadau.
(3)Yn ystod y cyfnod cyntaf ar gyfer sylwadau rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Chomisiynydd y Gymraeg.
(4)Mae’r cyfnod cyntaf ar gyfer sylwadau yn gyfnod o wyth wythnos, gan ddechrau â’r dyddiad y cyhoeddir yr adroddiad cychwynnol.
49FCyhoeddi sylwadau ac ymgynghori arnyntLL+C
(1)Ar ddiwedd y cyfnod cyntaf ar gyfer sylwadau, rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi dogfen yn nodi unrhyw sylwadau a gafwyd yn ystod y cyfnod hwnnw (gan gynnwys unrhyw sylwadau ar yr adroddiad cychwynnol a wnaed gan Gomisiynydd y Gymraeg pan ymgynghorwyd â’r Comisiynydd o dan adran 49E(3)).
(2)Rhaid i’r Comisiwn hefyd—
(a)hysbysu unrhyw berson y mae’r Comisiwn yn ystyried ei fod yn briodol ynghylch sut i gyrchu’r ddogfen a gyhoeddir o dan is-adran (1),
(b)gwahodd sylwadau mewn cysylltiad â’r sylwadau a nodir yn y ddogfen a gyhoeddir o dan is-adran (1),
(c)hysbysu unrhyw berson y mae’r Comisiwn yn ystyried ei fod yn briodol ynghylch yr ail gyfnod ar gyfer sylwadau, a
(d)cyhoeddi gwybodaeth ynghylch yr amseroedd a’r lleoedd y cynhelir gwrandawiadau cyhoeddus o dan adran 49G a, phan fo gwrandawiadau i’w cynnal yn rhannol wyneb yn wyneb ac yn rhannol drwy ddefnyddio cyfleusterau o bell, bennu cyfarwyddiadau ynghylch sut i wneud sylwadau drwy ddefnyddio cyfleusterau o bell.
(3)Mae’r ail gyfnod ar gyfer sylwadau yn gyfnod o chwe wythnos, gan ddechrau â’r dyddiad y cyhoeddir y ddogfen o dan is-adran (1).
(4)Yn is-adran (2)(d), ystyr “cyfleusterau o bell” yw unrhyw gyfarpar neu gyfleuster arall sy’n galluogi pobl nad ydynt yn y man lle y cynhelir y gwrandawiad i wneud sylwadau yn y gwrandawiad.
49GGwrandawiadau cyhoeddusLL+C
(1)Yn ystod yr ail gyfnod ar gyfer sylwadau, rhaid i’r Comisiwn gynnal o leiaf ddau o wrandawiadau cyhoeddus, ond nid mwy na phump o’r gwrandawiadau cyhoeddus hynny, i alluogi gwneud sylwadau ynghylch ei gynigion.
(2)Rhaid i’r gwrandawiadau cyhoeddus rhyngddynt gwmpasu Cymru gyfan.
(3)Rhaid i wrandawiad cyhoeddus gael ei gwblhau o fewn dau ddiwrnod.
(4)Os yw gwrandawiad i’w gynnal yn rhannol drwy ddefnyddio cyfleusterau o bell (o fewn yr ystyr a roddir yn adran 49F(4)), rhaid i’r cyfleusterau o bell alluogi’r bobl sy’n gwneud sylwadau yn y gwrandawiad ond nad ydynt yn y man lle y cynhelir y gwrandawiad i siarad ac i gael eu clywed gan (pa un a yw’n galluogi’r bobl hynny i weld ac i gael eu gweld ai peidio gan)—
(a)ei gilydd, a
(b)pobl yn y man lle y cynhelir y gwrandawiad.
(5)Rhaid i’r Comisiwn benodi person i fod yn gadeirydd ar bob gwrandawiad (“y cadeirydd”).
(6)Rhaid i’r cadeirydd bennu’r weithdrefn sydd i lywodraethu’r gwrandawiad hwnnw.
(7)Rhaid i’r cadeirydd wneud trefniadau i wrandawiad cyhoeddus ddechrau gydag esboniad o—
(a)y cynigion y mae’r gwrandawiad yn ymwneud â hwy;
(b)sut y caniateir gwneud sylwadau ynghylch y cynigion.
(8)Rhaid i’r cadeirydd ganiatáu i sylwadau gael eu gwneud—
(a)gan bob plaid wleidyddol sydd wedi ei chofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (p. 41) ac sydd naill ai—
(i)ag o leiaf un Aelod o’r Senedd, neu
(ii)wedi cael o leiaf 10% o’r pleidleisiau a fwriwyd yn yr etholiad cyffredinol mwyaf diweddar;
(b)gan unrhyw berson arall y mae’r cadeirydd yn ystyried bod ganddo fuddiant yn unrhyw un neu ragor o’r cynigion y mae’r gwrandawiad yn ymwneud â hwy (yn ddarostyngedig i is-adran (9)(c)).
(9)Caiff y cadeirydd—
(a)pennu ym mha drefn y gwneir sylwadau;
(b)cyfyngu ar faint o amser a ganiateir ar gyfer sylwadau, ac nid oes angen iddo ganiatáu’r un faint o amser i bob person;
(c)os yw’n angenrheidiol oherwydd prinder amser, benderfynu pa rai o’r personau a grybwyllir yn is-adran (8)(b) nas caniateir iddynt wneud sylwadau.
(10)Caiff y cadeirydd holi cwestiynau i berson sy’n gwneud sylwadau yn y gwrandawiad, neu ganiatáu i gwestiynau cael eu holi i’r person hwnnw.
(11)Os caniateir holi cwestiynau, caiff y cadeirydd reoleiddio modd y cwestiynu neu gyfyngu ar nifer y cwestiynau y caiff person eu gofyn.
49HAil adroddiad ar yr adolygiad ffiniau a’r cyfnod terfynol ar gyfer sylwadauLL+C
(1)Ar ddiwedd yr ail gyfnod ar gyfer sylwadau—
(a)rhaid i’r Comisiwn ystyried ei gynigion gan roi sylw i’r sylwadau a wnaed yn ystod y cyfnod cyntaf ar gyfer sylwadau a’r ail gyfnod ar gyfer sylwadau, a
(b)os yw’r Comisiwn, ar ôl ystyried ei gynigion, yn bwriadu gwneud cynnig nas nodwyd yn yr adroddiad cychwynnol yn ymwneud ag enw etholaeth Senedd, rhaid iddo—
(i)ymgynghori â Chomisiynydd y Gymraeg ar orgraff yr enw arfaethedig, a
(ii)rhoi sylw i unrhyw sylwadau a wnaed gan y Comisiynydd ar orgraff yr enw arfaethedig.
(2)Ar ôl cymryd y camau yn is-adran (1), rhaid i’r Comisiwn wneud ail adroddiad—
(a)yn nodi—
(i)cynigion y Comisiwn ar gyfer newid ffiniau ac enwau etholaethau’r Senedd, neu
(ii)os nad yw’r Comisiwn yn ystyried bod unrhyw newid yn briodol, ddatganiad i’r perwyl hwnnw;
(b)yn pennu manylion unrhyw newidiadau y mae’r Comisiwn wedi eu gwneud i’r cynigion a nodwyd yn yr adroddiad cychwynnol, ac esboniad ynghylch pam y gwnaed y newidiadau hynny.
(3)Rhaid i’r Comisiwn—
(a)cyhoeddi’r ail adroddiad,
(b)cyhoeddi dogfen—
(i)yn cynnwys cofnodion o’r gwrandawiadau cyhoeddus a gynhaliwyd o dan adran 49G, a
(ii)yn nodi unrhyw sylwadau (o’r math a ddisgrifir yn adran 49F(2)(b)) a gafwyd yn ystod yr ail gyfnod ar gyfer sylwadau,
(c)hysbysu unrhyw berson y mae’r Comisiwn yn ystyried ei fod yn briodol ynghylch sut i gyrchu’r adroddiad a’r ddogfen a gyhoeddwyd o dan baragraff (b),
(d)gwahodd sylwadau—
(i)ar yr adroddiad,
(ii)mewn cysylltiad ag unrhyw sylwadau a wnaed yn ystod y gwrandawiadau cyhoeddus, a
(iii)mewn cysylltiad ag unrhyw sylwadau (o’r math a ddisgrifir yn adran 49F(2)(b)) a gafwyd yn ystod yr ail gyfnod ar gyfer sylwadau, a
(e)hysbysu unrhyw berson y mae’r Comisiwn yn ystyried ei fod yn briodol ynghylch y cyfnod terfynol ar gyfer sylwadau.
(4)Yn ystod y cyfnod terfynol ar gyfer sylwadau rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â Chomisiynydd y Gymraeg.
(5)Mae’r cyfnod terfynol ar gyfer sylwadau yn gyfnod o bedair wythnos, gan ddechrau â’r dyddiad y cyhoeddir yr ail adroddiad.
(6)Ar ddiwedd y cyfnod terfynol ar gyfer sylwadau rhaid i’r Comisiwn—
(a)cyhoeddi dogfen sy’n nodi unrhyw sylwadau a gafwyd yn ystod y cyfnod hwnnw (gan gynnws unrhyw sylwadau wnaed gan Gomisiynydd y Gymraeg, pan ymgynghorwyd â’r Comisiynydd o dan is-adran (4), ar yr ail adroddiad ac ar y sylwadau a grybwyllir yn is-adran (3)(d)(ii) a (iii)),
(b)ystyried ei gynigion gan roi sylw i’r sylwadau hynny, ac
(c)os yw’r Comisiwn, ar ôl ystyried ei gynigion, yn bwriadu gwneud cynnig nas nodwyd yn yr ail adroddiad yn ymwneud ag enw etholaeth Senedd, rhaid iddo—
(i)ymgynghori â Chomisiynydd y Gymraeg ar orgraff yr enw arfaethedig, a
(ii)rhoi sylw i unrhyw sylwadau a wnaed gan y Comisiynydd ar orgraff yr enw arfaethedig.
49IAdroddiad terfynol ar adolygiad ffiniauLL+C
(1)Cyn 1 Rhagfyr 2028, a chyn 1 Rhagfyr bob wythfed flynedd ar ôl hynny, rhaid i’r Comisiwn—
(a)wneud adroddiad terfynol a’i gyhoeddi, a
(b)anfon yr adroddiad at Weinidogion Cymru.
(2)Rhaid i’r adroddiad terfynol—
(a)naill ai—
(i)nodi manylion unrhyw newidiadau y mae’n ofynnol i’w gwneud i etholaethau’r Senedd, neu
(ii)datgan nad yw’n ofynnol gwneud unrhyw newid i etholaethau’r Senedd, a
(b)pennu manylion unrhyw newidiadau y mae’r Comisiwn wedi eu gwneud i’r cynigion a nodir yn yr ail adroddiad, ac esbonio pam y gwnaed y newidiadau hynny.
(3)Os yw’n ofynnol gwneud newidiadau i ffiniau etholaethau’r Senedd, rhaid i’r adroddiad terfynol nodi—
(a)ffiniau yr holl etholaethau y dychwelir Aelodau o’r Senedd ar eu cyfer,
(b)enwau’r holl etholaethau hynny, ac
(c)a yw pob etholaeth yn etholaeth sirol neu’n etholaeth fwrdeistrefol.
(4)Os nad oes newid i’w wneud i ffiniau un o etholaethau’r Senedd ond bod angen newid y naill neu’r llall neu’r ddau o’r pethau a ganlyn—
(a)enw’r etholaeth;
(b)ei dynodiad yn etholaeth sirol neu’n etholaeth fwrdeistrefol,
rhaid i’r adroddiad terfynol nodi’r newid.
(5)Nid yw methiant gan y Comisiwn i gydymffurfio â therfyn amser yn is-adran (1) yn annilysu adroddiad terfynol.
(6)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i Weinidogion Cymru gael adroddiad terfynol, rhaid iddynt ei osod gerbron Senedd Cymru.
49JGweithredu adroddiad terfynol gan Weinidogion CymruLL+C
(1)Pan fo adroddiad terfynol yn nodi newidiadau y mae’n ofynnol i’w gwneud i etholaethau’r Senedd, rhaid i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau yn rhoi effaith i’r penderfyniadau yn adroddiad terfynol y Comisiwn—
(a)cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl gosod yr adroddiad gerbron Senedd Cymru, a
(b)sut bynnag, oni bai bod amgylchiadau eithriadol, cyn diwedd y cyfnod o bedwar mis sy’n dechrau â’r dyddiad y gosodir yr adroddiad gerbron y Senedd.
(2)Pan na fo rheoliadau wedi eu gwneud cyn diwedd y cyfnod a grybwyllir yn is-adran (1)(b), rhaid i Weinidogion Cymru osod datganiad gerbron Senedd Cymru yn nodi’r amgylchiadau eithriadol.
(3)Rhaid i ddatganiad o dan is-adran (2) gael ei osod cyn diwedd y cyfnod o bedwar mis sy’n dechrau â’r dyddiad y gosodir yr adroddiad terfynol gerbron Senedd Cymru.
(4)Rhaid i ddatganiadau pellach sy’n nodi’r amgylchiadau eithriadol gael eu gosod gerbron Senedd Cymru cyn diwedd pob cyfnod dilynol o bedair wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y gosodwyd y datganiad blaenorol, hyd nes bo’r rheoliadau wedi eu gwneud.
(5)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon wneud darpariaeth ar gyfer unrhyw faterion y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn ddeilliadol i’r penderfyniadau yn yr adroddiad terfynol, neu’n ganlyniadol arnynt.
(6)Rhaid i reoliadau o dan yr adran hon gael eu gwneud drwy offeryn statudol.
(7)Rhaid i offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan yr adran hon gael ei osod gerbron Senedd Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r rheoliadau gael eu gwneud.
(8)Nid yw dod i rym y rheoliadau hyn yn effeithio ar ddychwelyd Aelod o’r Senedd i Senedd Cymru, na chyfansoddiad Senedd Cymru, hyd nes y diddymir y Senedd mewn cysylltiad ag—
(a)yr etholiad cyffredinol cyffredin nesaf, neu
(b)etholiad cyffredinol eithriadol, y cynhelir y bleidlais ar ei gyfer—
(i)yn ystod y cyfnod o fis sy’n gorffen â’r diwrnod cyn y diwrnod y byddai’r bleidlais ar gyfer yr etholiad cyffredinol cyffredin nesaf wedi ei chynnal o dan adran 3(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), gan ddiystyru paragraffau (a) a (b) o’r is-adran honno, neu
(ii)ar y diwrnod y byddai’r bleidlais ar gyfer yr etholiad cyffredinol cyffredin nesaf wedi ei chynnal o dan adran 3(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, gan ddiystyru paragraffau (a) a (b) o’r is-adran honno.
49KAddasu adroddiad terfynol gan y ComisiwnLL+C
(1)Mae’r adran hon yn gymwys—
(a)pan fo Gweinidogion Cymru wedi gosod adroddiad terfynol gerbron Senedd Cymru o dan adran 49I(6),
(b)pan fo’r adroddiad yn nodi newidiadau y mae’n ofynnol i’w gwneud i etholaethau’r Senedd,
(c)pan fo’r Comisiwn yn ystyried bod angen addasu’r adroddiad i gywiro gwall neu wallau mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor o’r materion a grybwyllir yn adran 49I(3) neu (4), a
(d)pan na fo’r rheoliadau wedi eu gwneud hyd hynny o dan adran 49J.
(2)Caiff y Comisiwn anfon datganiad at Weinidogion Cymru yn pennu—
(a)yr addasiadau i’r adroddiad, a
(b)y rhesymau dros yr addasiadau hynny.
(3)Rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi datganiad a anfonir at Weinidogion Cymru o dan is-adran (2).
(4)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i Weinidogion Cymru gael datganiad, rhaid iddynt ei osod gerbron Senedd Cymru.
(5)Pan fo datganiad wedi ei anfon at Weinidogion Cymru, rhaid i’r rheoliadau a wneir o dan adran 49J roi effaith i’r adroddiad terfynol gyda’r addasiadau a bennir yn y datganiad.
49LDehongli’r RhanLL+C
(1)Yn y Rhan hon—
mae i “cyfleusterau o bell” (“remote facilities”) yr ystyr a roddir gan adran 49F(4);
mae i “dyddiad yr adolygiad” (“review date”) yr ystyr a roddir gan adran 49B(2);
ystyr “etholaeth Senedd” (“Senedd constituency”) yw etholaeth y darperir ar ei chyfer mewn rheoliadau a wneir o dan adran 49J;
ystyr “etholiad cyffredinol” (“general election”) yw etholiad cyffredinol cyffredin neu etholiad cyffredinol eithriadol a gynhelir o dan Ran 1 o Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32);
ystyr “ffiniau llywodraeth leol” (“local government boundaries”) yw ffiniau siroedd, ffiniau bwrdeistrefi sirol, ffiniau wardiau etholiadol, ffiniau cymunedau a ffiniau wardiau cymunedol yng Nghymru.
(2)Pan fo’r Rhan hon yn gosod dyletswydd ar y Comisiwn i gyhoeddi hysbysiad, adroddiad neu ddogfen arall, rhaid i’r hysbysiad, yr adroddiad neu ddogfen arall gael ei gyhoeddi neu ei chyhoeddi—
(a)ar wefan y Comisiwn, a
(b)mewn unrhyw fodd arall y mae’r Comisiwn yn ystyried ei fod yn briodol.]
RHAN 4LL+CADOLYGIADAU O AELODAETH CYRFF CYHOEDDUS
50Adolygiadau o gyrff cyhoeddus cymwysLL+C
(1)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo’r Comisiwn i gynnal adolygiad o aelodaeth un neu ragor o gyrff cyhoeddus cymwys penodedig.
(2)Pan fo’r Comisiwn wedi cynnal adolygiad o dan yr adran hon rhaid iddo gyflwyno adroddiad i Weinidogion Cymru sy’n nodi a yw’n argymell y dylid newid aelodaeth y corff cyhoeddus.
(3)Caniateir, yn benodol, i gyfarwyddyd o dan yr adran hon ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn—
(a)ystyried nifer aelodau’r corff (neu’r cyrff),
(b)ystyried unrhyw gategorïau aelodaeth (gan gynnwys aelodaeth leyg) a nifer yr aelodau ym mhob categori,
(c)ystyried y priodoleddau, y profiadau, y sgiliau neu’r cymwysterau y dylai’r aelodau feddu arnynt,
(d)ystyried unrhyw faterion eraill a bennir sy’n berthnasol i’r aelodaeth,
(e)dilyn unrhyw brosesau a bennir wrth gynnal adolygiad,
(f)llunio ei adroddiad ar ffurf ac mewn modd a bennir,
(g)rhoi sylw i unrhyw ffactorau neu faterion a bennir.
(4)Cyn rhoi cyfarwyddyd o dan yr adran hon rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy.
(5)At ddibenion yr adran hon mae corff yn “corff cyhoeddus cymwys”—
(a)os nad yw’n awdurdod lleol,
(b)os yw’n ofynnol o dan unrhyw ddeddfiad i’w aelodaeth gynnwys—
(i)aelod o awdurdod lleol, neu
(ii)person a benodir gan awdurdod lleol, ac
(c)os yw’n arfer swyddogaethau—
(i)sydd wedi eu rhoi gan Ddeddf neu Fesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru, neu
(ii)a allai gael eu rhoi gan Ddeddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
(6)Nid yw’r adran hon yn cyfyngu ar y pŵer cyfarwyddo cyffredinol o dan adran 14.
Gwybodaeth Cychwyn
I50A. 50 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(c)
RHAN 5LL+CNEWIDIADAU ERAILL I LYWODRAETH LEOL
Aelodau llywyddolLL+C
51Aelod llywyddol prif gyngorLL+C
(1)Mae Deddf 1972 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Ar ôl adran 24 (is-gadeirydd) mewnosoder—
“24APresiding member
(1)A principal council may determine to have a presiding member.
(2)A presiding member is elected by the principal council from among the councillors.
(3)The principal council may determine—
(a)the functions of the presiding member, and
(b)the term of office of the member (subject to the limits in subsection (6)).
(4)The functions of the presiding member may, in particular, include any function of the chairman of the principal council in relation to its meetings and proceedings.
(5)A member of the executive of a principal council may not be elected as its presiding member.
(6)A presiding member is to continue in office until the occurrence of—
(a)the presiding member’s resignation or disqualification,
(b)a successor becoming entitled to act as presiding member,
(c)the principal council determining not to have an office of presiding member, or
(d)an ordinary council election under section 26.
24BDeputy presiding member
(1)The section applies where a principal council have determined to have a presiding member.
(2)The principal council must a appoint a member of the council to act as deputy to the presiding member (“the deputy presiding member”).
(3)A member of the executive of a principal council may not be appointed as the deputy presiding member.
(4)A deputy presiding member is to continue in office until the occurrence of—
(a)the deputy presiding member’s resignation or disqualification,
(b)a successor becoming entitled to act as deputy presiding member,
(c)the council determining not to have an office of presiding member, or
(d)an ordinary council election under section 26.
(5)A deputy presiding member may do anything authorised or required to be done by the presiding member.”.
(3)Ar ôl adran 25A mewnosoder—
“25BTitle of civic chair
(1)This section applies where—
(a)a principal council have determined to have a presiding member under section 24A, and
(b)the chairman of the council is not entitled to the style of “mayor” or “maer”.
(2)The chairman of the council is entitled to the style of “civic chair” or “cadeirydd dinesig”.
(3)The vice-chairman of the council is entitled to the style of “civic vice-chair” or “dirprwy gadeirydd dinesig”.”.
(4)Yn adran 80(1) (anghymhwyso rhag etholiad a dal swydd fel aelod o awdurdod lleol), ym mharagraff (a), yn lle “or deputy chairman” rhodder “, deputy chairman, presiding member or deputy presiding member”.
(5)Yn adran 83(1) (datgan derbyn swydd) ar ôl “vice-chairman,” mewnosoder “presiding member, deputy presiding member,”.
Gwybodaeth Cychwyn
I51A. 51 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(d)
Biliau preifatLL+C
52Hyrwyddo Biliau preifatLL+C
(1)Caiff prif gyngor, yn unol â’r adran hon, hyrwyddo Bil preifat—
(a)yn Senedd y Deyrnas Unedig;
(b)yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.
(2)Dim ond os yw wedi ei fodloni ei bod yn hwylus gwneud hynny y caiff prif gyngor hyrwyddo Bil.
(3)Ond ni chaiff prif gyngor hyrwyddo Bil (p’un ai o dan yr adran hon neu fel arall) ar gyfer —
(a)ffurfio, newid neu ddileu unrhyw ardal llywodraeth leol,
(b)newid statws unrhyw ardal llywodraeth leol,
(c)newid y trefniadau etholiadol ar gyfer unrhyw ardal llywodraeth leol,
(d)ffurfio, newid neu ddileu trefniadau gweithrediaeth, neu
(e)newid y trefniadau ar gyfer ethol maer etholedig.
(4)Rhaid i benderfyniad prif gyngor i hyrwyddo Bil o dan yr adran hon—
(a)cael ei basio mewn cyfarfod o’r prif gyngor gan fwyafrif o gyfanswm ei aelodau, a
(b)cael ei gadarnhau gan fwyafrif cyffelyb mewn cyfarfod pellach o’r fath a gynhelir cyn gynted ag y bo ar ôl 14 diwrnod wedi i’r Bil gael ei adneuo yn Senedd y Deyrnas Unedig neu, yn ôl y digwydd, ei gyflwyno yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.
(5)Rhaid i brif gyngor beidio â chynnal cyfarfod o dan is-adran (4) oni bai fod yr amodau yn is-adran (6) wedi eu bodloni mewn perthynas â’r cyfarfod hwnnw.
(6)Yr amodau yw—
(a)bod y prif gyngor wedi rhoi hysbysiad ynghylch y cyfarfod a’i ddiben mewn un papur newydd o leiaf sy’n cylchredeg yn ei ardal, a
(b)bod cyfnod o 30 o ddiwrnodau, sy’n dechrau gyda’r diwrnod wedi i’r hysbysiad gael ei roi, wedi dod i ben.
(7)Mae’r amod a grybwyllir yn is-adran (6)(a) yn ychwanegol at y gofynion o ran hysbysiadau sydd fel arfer yn gymwys i gyfarfodydd prif gyngor.
(8)Pan na fo penderfyniad wedi ei gadarnhau o dan is-adran (4)(b), rhaid i’r prif gyngor gymryd pob cam angenrheidiol i dynnu’r Bil yn ôl.
(9)Yn yr adran hon, mae i “trefniadau gweithrediaeth” yr un ystyr ag “executive arrangements” yn Rhan 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p. 22).
Gwybodaeth Cychwyn
I52A. 52 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(d)
53Gwrthwynebu Biliau preifatLL+C
(1)Caiff awdurdod lleol, yn unol â’r adran hon, wrthwynebu Bil preifat—
(a)yn Senedd y Deyrnas Unedig;
(b)yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.
(2)Ond dim ond os yw’n hwylus gwneud hynny y caiff awdurdod lleol wrthwynebu Bil.
(3)Rhaid i benderfyniad awdurdod lleol i wrthwynebu Bil o dan yr adran hon gael ei basio mewn cyfarfod o’r awdurdod gan fwyafrif o gyfanswm aelodau’r awdurdod.
(4)Rhaid i awdurdod lleol beidio â chynnal cyfarfod o dan is-adran (3) oni bai fod yr amodau yn is-adran (5) wedi eu bodloni mewn cysylltiad â’r cyfarfod hwnnw.
(5)Yr amodau yw—
(a)bod yr awdurdod lleol wedi rhoi hysbysiad ynghylch y cyfarfod a’i ddiben mewn un papur newydd o leiaf sy’n cylchredeg yn ei ardal, a
(b)bod cyfnod o 10 niwrnod, sy’n dechrau gyda’r diwrnod wedi i’r hysbysiad gael ei roi, wedi dod i ben.
(6)Mae’r amod a grybwyllir yn is-adran (5)(a) yn ychwanegol at y gofynion o ran hysbysiadau sydd fel arfer yn gymwys i gyfarfodydd awdurdod lleol.
Gwybodaeth Cychwyn
I53A. 53 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(d)
54Cyfyngu ar daliadau mewn perthynas â hyrwyddo neu wrthwynebu BiliauLL+C
Ni chaiff awdurdod lleol wneud taliad i unrhyw un neu ragor o’i aelodau am weithredu fel cwnsler neu asiant i hyrwyddo neu wrthwynebu Bil o dan adran 52 neu 53.
Gwybodaeth Cychwyn
I54A. 54 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(d)
Mynediad i wybodaethLL+C
55Gwefannau cynghorau cymunedLL+C
(1)Rhaid i gyngor cymuned sicrhau bod y canlynol ar gael yn electronig—
(a)gwybodaeth ynglŷn â sut i gysylltu ag ef ac, os yw hynny’n wahanol, ei glerc, gan gynnwys—
(i)rhif ffôn;
(ii)cyfeiriad post;
(iii)cyfeiriad e-bost;
(b)gwybodaeth ynglŷn â phob un o’i aelodau, gan gynnwys—
(i)enw’r aelod;
(ii)sut y gellir cysylltu â’r aelod;
(iii)ymlyniad gwleidyddol yr aelod (os oes un);
(iv)y ward y mae’r aelod yn ei chynrychioli (pan fo hynny’n berthnasol);
(v)unrhyw swydd y mae’r aelod yn ei dal gyda’r cyngor;
(vi)unrhyw bwyllgor o’r cyngor y mae’r aelod yn perthyn iddo;
(c)cofnodion trafodion cyfarfodydd y cyngor ac (i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol) unrhyw ddogfennau y cyfeiria’r cofnodion atynt;
(d)unrhyw ddatganiad archwiliedig o gyfrifon y cyngor.
(2)Nid oes dim yn yr adran hon sy’n awdurdodi cyngor cymuned nac yn ei gwneud yn ofynnol iddo ddarparu unrhyw wybodaeth y mae wedi ei hatal rhag ei datgelu dan unrhyw ddeddfiad.
(3)Wrth gyflawni ei ddyletswyddau o dan is-adran (1), rhaid i gyngor cymuned roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.
(4)Nid yw’r gofyniad i sicrhau bod yr wybodaeth a restrir yn is-adran (1)(c) a (d) ar gael ond yn ymwneud â gwybodaeth a gynhyrchir pan ddaw’r adran hon i rym neu wedi hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I55A. 55 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 75(3)
I56A. 55 mewn grym ar 1.5.2015 gan O.S. 2015/1182, ergl. 2(a)
F8856Gofyniad i roi hysbysiadau cyhoeddus yn electronigLL+C
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F88A. 56 wedi ei hepgor (dod i rym yn unol â rhl. 1(2) of the amending S.I.) yn rhinwedd Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaethau Amrywiol) 2021 (O.S. 2021/356), rhlau. 1(2), 4 (ynghyd â rhlau. 10, 11)
Gwybodaeth Cychwyn
I57A. 56 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 75(3)
I58A. 56 mewn grym ar 1.5.2015 gan O.S. 2015/1182, ergl. 2(b)
57Cyfarfodydd a thrafodion cymunedauLL+C
Yn Atodlen 12 i Ddeddf 1972 (cyfarfodydd a thrafodion awdurdodau lleol)—
(a)ym mharagraff 26(2)—
(i)ym mharagraff (a), ar ôl “be” lle y mae’n ymddangos am y tro cyntaf mewnosoder “published electronically and”,
(ii)ar ôl paragraff (a) mewnosoder—
“(aa)any documents relating to the business to be transacted at the meeting must be published electronically (in so far as reasonably practicable),”,
(b)ar ôl paragraff 26(2) mewnosoder—
“(2A)The duty of a community council under sub-paragraph (2)(aa) to publish documents relating to the meeting does not apply where—
(a)the documents relate to business which in the opinion of the council is likely to be transacted in private, or
(b)the disclosure of such documents would be contrary to any enactment.”,
(c)ym mharagraff 30B—
(i)yn lle is-baragraff (3) rhodder—
“(3)The notice must be given—
(a)in writing (but not in an electronic form), or
(b)in an electronic form which meets the technical requirements set by the principal council under paragraph 30C.”,
(ii)yn is-baragraff (7), ar ôl “principal council” mewnosoder ”or community council”,
(iii)a hefyd yn is-baragraff (7), yn lle “council” lle y mae’n ymddangos am yr ail dro rhodder “principal council”,
(d)ym mharagraff 30C—
(i)yn lle is-baragraff (1) rhodder—
“(1)For the purposes of paragraph 30B(1), each community council and principal council must provide a facility for notices to be given in electronic form (“electronic notices”).”,
(ii)yn is-baragraff (2), yn lle “The council must set” mewnosoder “A principal council must set for its area”,
(e)ym mharagraff 30E(7), ar ôl paragraff (a) mewnosoder—
“(aa)by publishing the notice electronically, and”.
Gwybodaeth Cychwyn
I59A. 57 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 75(3)
I60A. 57 mewn grym ar 1.5.2015 gan O.S. 2015/1182, ergl. 2(c)
58Cofrestrau buddiannau aelodauLL+C
(1)Mae adran 81 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22) (datgelu a chofrestru buddiannau aelodau) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn is-adran (6)—
(a)daw’r geiriau o “copies” hyd at y diwedd yn baragraff (a), a
(b)ar ôl y paragraff hwnnw, mewnosoder—
“(b)the register mentioned in paragraph (a) is published electronically.”.
(3)Yn is-adran (7), ar ôl paragraff (a)(ii), mewnosoder—
“(iii)states that the register is available to be viewed electronically, and
(iv)specifies how to access the electronic version,”.
(4)Ar ôl is-adran (7), mewnosoder—
“(7A)For the purposes of this section—
(a)section 83(13) does not apply, and
(b)in relation to a relevant authority which is a community council, the references in this section to a monitoring officer are to be read as references to the proper officer of that council (within the meaning of section 270(3) of the Local Government Act 1972).”.
Gwybodaeth Cychwyn
I61A. 58 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 75(3)
I62A. 58 mewn grym ar 1.5.2015 gan O.S. 2015/1182, ergl. 2(d)
Mynychu cyfarfodydd o bellLL+C
F8959Mynychu cyfarfodydd prif gynghorau o bellLL+C
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F89A. 59 wedi ei hepgor (1.5.2021) yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(7), Atod. 4 para. 23(3); O.S. 2021/354, ergl. 2(c)
Gwybodaeth Cychwyn
I63A. 59 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(d)
Pwyllgorau gwasanaethau democrataiddLL+C
60Pwyllgorau gwasanaethau democrataiddLL+C
(1)Ar ôl adran 11 o Fesur 2011 (awdurdodau lleol i benodi pwyllgorau gwasanaethau democrataidd) mewnosoder—
“11AAdolygiadau ar gais awdurdod lleol
(1)Caiff pwyllgor gwasanaethau democrataidd awdurdod lleol, ar gais yr awdurdod, adolygu unrhyw fater sy’n berthnasol i—
(a)y cymorth a’r cyngor sydd ar gael i aelodau’r awdurdod hwnnw, a
(b)telerau ac amodau swydd yr aelodau hynny.
(2)Rhaid i bwyllgor gwasanaethau democrataidd lunio adroddiadau ac argymhellion i’r awdurdod yn dilyn adolygiad.
(3)Mater i bwyllgor gwasanaethau democrataidd yw penderfynu sut i arfer ei swyddogaethau o dan yr adran hon.”
(2)Yn adran 19 (adroddiadau ac argymhellion gan bwyllgorau gwasanaethau democrataidd), ar ôl “11(1)(c)” mewnosoder “neu 11A(2)”.
Gwybodaeth Cychwyn
I64A. 60 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(d)
Pwyllgorau archwilioLL+C
61Pwyllgorau archwilioLL+C
Yn adran 82 o Fesur 2011 (aelodaeth), ar ôl is-adran (6) mewnosoder—
“(7)Mae pwyllgor archwilio i’w drin fel corff y mae adran 15 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (dyletswydd i ddyrannu seddau i grwpiau gwleidyddol) yn gymwys iddo.”.
Gwybodaeth Cychwyn
I65A. 61 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(d)
Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth AriannolLL+C
62Swyddogaethau sy’n ymwneud â thaliadau i aelodauLL+C
Yn adran 142 o Fesur 2011 (swyddogaethau sy’n ymwneud â thaliadau i aelodau)—
(a)yn is-adran (4), ar ôl “cyfran benodedig”mewnosoder “neu nifer penodedig”,
(b)ar ôl is-adran (5) mewnosoder—
“(5A)Ni chaiff y nifer a bennir gan y Panel yn unol ag is-adran (4), a fynegir fel cyfran o gyfanswm aelodau awdurdod, fod yn uwch na phum deg y cant oni chafwyd cydsyniad Gweinidogion Cymru.”.
Gwybodaeth Cychwyn
I66A. 62 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(d)
63Swyddogaethau sy’n ymwneud â chyflogau penaethiaid gwasanaethau cyflogedigLL+C
(1)Ar ôl adran 143 o Fesur 2011 mewnosoder—
“143ASwyddogaethau sy’n ymwneud â chyflogau penaethiaid gwasanaethau cyflogedig
(1)Caiff y Panel wneud argymhellion i awdurdod perthnasol cymwys am—
(a)unrhyw bolisi yn natganiad yr awdurdod ar bolisïau tâl sy’n ymwneud â chyflog pennaeth gwasanaeth cyflogedig yr awdurdod;
(b)unrhyw newid arfaethedig i gyflog pennaeth gwasanaeth cyflogedig yr awdurdod.
(2)Rhaid i awdurdod perthnasol cymwys roi sylw i unrhyw argymhelliad a gaiff oddi wrth y Panel wrth iddo gyflawni ei swyddogaethau o dan adran 38 neu 39 o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p.20).
(3)Rhaid i awdurdod perthnasol cymwys, cyn iddo newid cyflog pennaeth ei wasanaeth cyflogedig mewn modd nad yw’n gymesur â newid i gyflogau staff arall yr awdurdod—
(a)ymgynghori â’r Panel am y newid arfaethedig, a
(b)rhoi sylw i unrhyw argymhelliad a gaiff oddi wrth y Panel wrth iddo benderfynu p’un ai i fynd rhagddo i wneud y newid ai peidio.
(4)Rhaid i awdurdod perthnasol cymwys roi unrhyw wybodaeth i’r Panel y mae’n rhesymol i’r Panel ei gwneud yn ofynnol iddi gael ei rhoi iddo mewn cysylltiad ag arfer ei swyddogaethau o dan yr adran hon.
(5)Caiff y Panel gyhoeddi unrhyw argymhellion y mae yn eu gwneud o dan yr adran hon.
(6)Rhaid i’r Panel roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru wrth iddo arfer ei swyddogaethau o dan yr adran hon.
(7)Yn yr adran hon—
ystyr “awdurdod perthnasol cymwys” (“qualifying relevant authority”) yw awdurdod perthnasol (yn ystyr y Rhan hon) y mae’n ofynnol iddo lunio datganiad ar bolisïau tâl;
mae “cyflog” (“salary”) yn cynnwys, yn achos pennaeth gwasanaeth cyflogedig y mae awdurdod perthnasol cymwys yn ei gymryd ymlaen o dan gontract am wasanaethau, daliadau gan yr awdurdod i bennaeth y gwasanaeth cyflogedig am y gwasanaethau hynny;
ystyr “datganiad ar bolisïau tâl” (“pay policy statement”) yw datganiad ar bolisïau tâl a lunnir gan awdurdod perthnasol (yn ystyr adran 43(1) o Ddeddf Lleoliaeth 2011) o dan adran 38 o’r Ddeddf honno;
ystyr “pennaeth gwasanaeth cyflogedig”(“head of paid service”) yw pennaeth gwasanaeth cyflogedig a ddynodir o dan adran 4(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.”.
(2)Yn mhennawd Rhan 8 o Fesur 2011, hepgorer “AELODAU:”.
(3)Yn adran 112 o Ddeddf 1972 (penodi staff), yn is-adran (2A), ar ôl “statement)” mewnosoder “and in relation to a local authority in Wales, section 143A of the Local Government (Wales) Measure 2011 (functions of the Independent Remuneration Panel in relation to salaries of heads of paid service).”.
Gwybodaeth Cychwyn
I67A. 63 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 75(3)
I68A. 63 mewn grym ar 1.4.2014 gan O.S. 2014/380, ergl. 2
64Awdurdodau perthnasolLL+C
Yn adran 144 o Fesur 2011 (awdurdodau perthnasol, aelodau etc.)—
(a)yn is-adran (2), ar ôl paragraff (d) mewnosoder—
“(e)corff a bennir yn awdurdod perthnasol mewn gorchymyn a wnaed gan Weinidogion Cymru.”,
(b)ar ôl is-adran (5) mewnosoder—
“(6)Ni chaniateir i gorff gael ei bennu yn awdurdod perthnasol oni bai—
(a)bod Gweinidogion Cymru yn arfer swyddogaethau mewn cysylltiad ag ef,
(b)ei fod yn arfer swyddogaethau perthnasol, ac
(c)bod ei aelodaeth yn cynnwys o leiaf un aelod o awdurdod a ddisgrifir yn is-adran (2)(a) i (d).
(7)“Swyddogaeth berthnasol” yw—
(a)swyddogaeth a roddir gan un o Ddeddfau neu Fesurau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, neu
(b)swyddogaeth y gellid ei rhoi gan un o Ddeddfau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
(8)Nid yw adrannau 142(4), 143, 147(3)(b) a 155 yn gymwys mewn perthynas â’r awdurdod perthnasol a ddisgrifir yn is-adran (2)(e).”.
Gwybodaeth Cychwyn
I69A. 64 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(d)
65Adroddiadau blynyddol dilynolLL+C
Yn adran 147 o Fesur 2011 (adroddiadau blynyddol dilynol)—
(a)yn is-adran (2)(a), yn lle “31 Rhagfyr” rhodder “28 Chwefror”,
(b)yn is-adran (4), ar ôl “(e)” mewnosoder “(gan gynnwys drwy bennu nifer o dan adran 142(4))”,
(c)yn lle is-adran (9) rhodder—
“(9)Mae darpariaethau adroddiad blynyddol neu atodol o dan yr adran hon yn dod i rym ar y dyddiad a bennir at y diben hwnnw yn yr adroddiad.
(10)Pan fo is-adran (11) yn gymwys, caiff yr adroddiad bennu bod darpariaeth gymwys i gael ei thrin fel petai wedi dod i rym hyd at 3 mis yn gynharach na dyddiad cyhoeddi’r adroddiad.
(11)Mae’r is-adran hon yn gymwys pan fo adroddiad atodol yn cynnwys darpariaeth gymwys.
(12)“Darpariaeth gymwys” yw darpariaeth sy’n gwneud amrywiad at ddibenion is-adran (3)(a), (b) neu (c) yn adran 146.”.
Gwybodaeth Cychwyn
I70A. 65 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(d)
66Ymgynghori ar adroddiadau drafftLL+C
Yn adran 148 o Fesur 2011 (ymgynghori ar adroddiadau drafft)—
(a)yn is-adran (1), mae “neu adroddiad atodol” wedi ei ddiddymu, a
(b)ar ôl yr is-adran honno mewnosoder—
“(1A)Rhaid i’r Panel beidio â chyhoeddi adroddiad atodol—
(a)cyn diwedd y cyfnod o bedair wythnos sy’n dechrau ar y diwrnod y mae’n anfon drafft o’r adroddiad yn unol ag adran 147, neu
(b)yn hwyrach na diwedd y cyfnod o wyth wythnos sy’n dechrau ar y diwrnod y mae’n anfon drafft o’r adroddiad yn unol ag adran 147.”.
Gwybodaeth Cychwyn
I71A. 66 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(d)
67Gofynion cyhoeddusrwydd mewn adroddiadauLL+C
Yn adran 151 o Fesur 2011 (gofynion cyhoeddusrwydd mewn adroddiadau)—
(a)yn is-adran (1), ar ôl paragraff (b) mewnosoder—
“(c)ynghylch taliadau eraill a wneir i aelodau awdurdodau perthnasol gan gyrff cyhoeddus eraill.”.
(b)ar ôl is-adran (2) mewnosoder—
“(3)At ddibenion is-adran (1)(c), “corff cyhoeddus” yw—
(a)bwrdd iechyd lleol,
(b)panel heddlu a throsedd,
(c)awdurdod perthnasol,
(d)corff wedi ei ddynodi yn gorff cyhoeddus mewn gorchymyn a wnaed gan Weinidogion Cymru.”.
Gwybodaeth Cychwyn
I72A. 67 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(d)
Cyd-bwyllgorau safonauLL+C
68Cyd-bwyllgorau safonauLL+C
(1)Mae Deddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn adran 53 (pwyllgorau safonau)—
(a)yn is-adran (1), yn lle “(referred to in this Part as a standards committee)” rhodder “or, with one or more other relevant authorities, a joint committee”,
(b)ar ôl is-adran (1) mewnosoder—
“(1A)In this Part, a reference to a “standards committee” is a reference to a committee or a joint committee established under subsection (1).”,
(c)yn is-adran (11)—
(i)yn y geiriau agoriadol, yn lle “National Assembly for Wales” rhodder “Welsh Ministers”,
(ii)ym mharagraff (a), ar ôl “authority” mewnosoder “or authorities”,
(iii)ar ôl paragraff (d) mewnosoder—
“(da)about establishing a standards committee which is a joint commitee (including, in particular, provision about any restrictions on the number or types of relevant authority that may establish a joint committee),”,
(iv)ym mharagraff (e), yn lle “such” rhodder “standards”,
(d)ar ôl is-adran (12) mewnosoder—
“(13)A relevant authority which is considering establishing a joint committee must have regard to any guidance issued by the Welsh Ministers about establishing joint committees and the circumstances in which it is appropriate to do so.”.
(3)Yn adran 54 (swyddogaethau pwyllgorau safonau)—
(a)yn is-adran (5), yn lle “National Assembly for Wales” rhodder “Welsh Ministers”,
(b)ar ôl is-adran (5) mewnosoder—
“(5A)Regulations made under subsection (5) may modify any provision of this Part, or any other enactment relating to a standards committee or to any functions of a standards committee, in relation to cases where a function of a standards committee is exercisable by a joint committee.
(5B)In subsection (5A) “enactment” includes an enactment comprised in subordinate legislation (within the meaning of the Interpretation Act 1978 (c. 30)), whenever passed or made.”,
(c)yn lle is-adran (7) mewnosoder—
“(7)A standards committee must, in exercising any of its functions, have regard to any relevant guidance issued by the Welsh Ministers.”.
(4)Yn adran 106 (Cymru)—
F90(a). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(b)yn is-adran (6), ar ôl “section 21A(13)(b)” mewnosoder “or regulations made under section 53(11) or (subject to subsection (6A)) section 54(5)”,
(c)ar ôl is-adran (6) mewnosoder—
“(6A)Where a statutory instrument contains regulations made under section 54(5) which include provision adding to, replacing or omitting any part of the text of an Act of Parliament or a Measure or Act of the National Assembly for Wales, the instrument may not be made unless a draft of it has been laid before, and approved by a resolution of, the National Assembly for Wales.”.
Diwygiadau Testunol
F90A. 68(4)(a) wedi ei hepgor (5.5.2022) yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 62(5), 175(7); O.S. 2021/231, ergl. 6(l)
Gwybodaeth Cychwyn
I73A. 68 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 75(3)
I74A. 68 mewn grym ar 1.5.2015 gan O.S. 2015/1182, ergl. 2(e)
69Atgyfeirio achosion yn ymwneud ag ymddygiadLL+C
(1)Mae Deddf Llywodraeth Leol 2000 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn adran 73 (materion a atgyfeiriwyd at swyddogion monitro)—
(a)yn is-adran (2)—
(i)ym mharagraff (b), ar ôl “authority” lle y mae’n ymddangos am yr ail dro mewnosoder “, or to the standards committee of another relevant authority,”,
(ii)ar ôl paragraff (b), mewnosoder—
“(ba)enabling a standards committee of a relevant authority to refer a report or recommendations made by its monitoring officer to the standards committee of another relevant authority,”,
(b)yn lle paragraff (c) rhodder—
“(c)enabling a standards committee of a relevant authority to consider any report or recommendations made or, as the case may be, referred to it by—
(i)a monitoring officer of a relevant authority, or
(ii)the standards committee of another relevant authority.
(ca)the procedure to be followed by a standards committee as respects a report or recommendation made or referred to it,”,
(c)ym mharagraff (d), yn lle “the authority” rhodder “a relevant authority”,
(d)yn is-adran (4)—
(i)ym mharagraff (a), hepgorer “of the authority,”, a
(ii)ym mharagraff (b), ar ôl “the authority” mewnosoder “of which they are a member”.
(3)Yn adran 81 (datgelu a chofrestru buddiannau aelodau)—
(a)yn is-adran (4), ar ôl “standards committee” mewnosoder “, or by the standards committee of another relevant authority,”,
(b)yn is-adran (5)—
(i)mae’r geiriau o “circumstances” hyd at y diwedd yn troi yn baragraff (a), a
(ii)ar ôl y paragraff hwnnw, mewnosoder—
“(b)procedure to be followed for the granting of dispensations.”.
Gwybodaeth Cychwyn
I75A. 69 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 75(3)
I76A. 69 mewn grym ar 1.5.2015 gan O.S. 2015/1182, ergl. 2(f)
RHAN 6LL+CDARPARIAETH AMRYWIOL A CHYFFREDINOL
70Darpariaeth atodolLL+C
(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, wneud unrhyw ddarpariaeth gysylltiedig, ganlyniadol, atodol, drosiannol, ddarfodol neu arbedol y maent o’r farn ei bod yn briodol at ddibenion rhoi effaith lwyr i unrhyw ddarpariaeth a wneir gan neu o dan y Ddeddf hon neu mewn cysylltiad â rhoi effaith lwyr i ddarpariaeth o’r fath.
(2)Caiff gorchymyn o dan yr adran hon addasu’r deddfiad hwn neu unrhyw ddeddfiad arall.
Gwybodaeth Cychwyn
I77A. 70 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 75(1)(b)
71Gorchmynion a rheoliadauLL+C
(1)Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Ddeddf hon (ac eithrio gorchymyn o dan adran 47) yn arferadwy gan offeryn statudol, ac mae’n cynnwys pŵer i—
(a)gwneud darpariaeth gysylltiedig, ganlyniadol, atodol, drosiannol, ddarfodol neu arbedol y mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus at ddibenion y Ddeddf hon neu mewn cysylltiad â hi,
(b)addasu unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys y Ddeddf hon), ac
(c)gwneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol ac ardaloedd gwahanol.
(2)Bydd offeryn statudol sy’n cynnwys—
(a)gorchymyn o dan adran 34(3)(e) neu 70(1),
(b)gorchymyn o dan adran 37(1) sy’n cynnwys darpariaeth i newid ardal prif gyngor neu sir wedi ei chadw F91..., neu
[F92(bb)rheoliadau o dan adran 29(3A),]
[F93(bc)rheoliadau o dan adran 31(A3),]
(c)rheoliadau o dan adran 41(1),
yn ddarostyngedig i gael ei ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
(3)Er gwaethaf is-adran (2), ni fydd unrhyw offeryn statudol sy’n cynnwys gorchymyn neu reoliadau a wnaed o dan y Ddeddf hon sy’n cynnwys darpariaeth yn disodli, hepgor neu’n ychwanegu at unrhyw ran o destun Deddf Seneddol neu Fesur neu Ddeddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cael ei wneud hyd oni fydd drafft o’r gorchymyn wedi ei roi gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo trwy benderfyniad ganddo.
(4)Nid yw’r adran hon yn gymwys i orchymyn a wneir o dan adran 45 neu 75 [F94, neu reoliadau a wneir o dan adran 49J].
Diwygiadau Testunol
F91Geiriau yn a. 71(2)(b) wedi eu hepgor (21.1.2021) yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 150(2)(d), 175(1)(f)(2)
F92A. 71(2)(bb) wedi ei fewnosod (9.11.2024) gan Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (asc 5), aau. 41(3), 72(2)(a) (ynghyd ag a. 55)
F93A. 71(2)(bc) wedi ei fewnosod (9.11.2024) gan Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (asc 5), aau. 51(5), 72(2)(a) (ynghyd ag a. 55)
F94Geiriau yn a. 71(4) wedi eu mewnosod (24.8.2024) gan Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), a. 25(2)(c), Atod. 3 para. 2(5)
Gwybodaeth Cychwyn
I78A. 71 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 75(1)(c)
72DehongliLL+C
(1)Yn y Ddeddf hon, oni bai fod y cyd-destun yn gofyn yn wahanol—
mae “addasu” mewn perthynas â deddfiad yn cynnwys diwygio neu ddiddymu,
[F95ystyr “aelod o un o ddeddfwrfeydd y DU” yw—
(a)Aelod o’r Senedd;
(b)aelod o Dŷ’r Cyffredin;
(c)aelod o Dŷ’r Arglwyddi;
(d)aelod o Senedd yr Alban;
(e)aelod o Gynulliad Gogledd Iwerddon,”;]
ystyr “ardal llywodraeth leol” yw cymuned neu brif ardal,
ystyr “awdurdod lleol” yw prif gyngor neu gyngor cymuned,
“cyfarfod cymunedol” yw cyfarfod o’r etholwyr llywodraeth leol ar gyfer cymuned a gynullwyd o dan adran 27(1) o Ddeddf 1972,
[F95“ystyr “cynghorydd arbennig” yw cynghorydd arbennig o fewn yr ystyr a roddir i “special adviser”—
(a)ym Mhennod 1 o Ran 1 o Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol a Llywodraethu 2010 (p. 25), neu
ystyr “Deddf 1972” yw Deddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70),
mae “deddfiad” yn cynnwys deddfiad sydd mewn is-ddeddfwriaeth,
ystyr “Mesur 2011” yw Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (mccc 4),
[F95“ystyr “plaid wleidyddol gofrestredig yw plaid sydd wedi ei chofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (p. 41),]
ystyr “prif ardal” yw sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru,
ystyr “prif gyngor” yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru.
(2)Mae Atodlen 3 (mynegai o ymadroddion wedi eu diffinio) yn cael effaith.
Diwygiadau Testunol
F95Geiriau yn a. 72(1) wedi eu mewnosod (25.6.2024) gan Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), aau. 14(3), 25(1)(a)
Gwybodaeth Cychwyn
I79A. 72 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 75(1)(d)
73Diddymiadau, mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadolLL+C
(1)Mae Atodlen 1 (sy’n gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) yn cael effaith.
(2)Mae Atodlen 2 (sy’n cynnwys diddymiadau i deddfwriaeth) yn cael effaith.
Gwybodaeth Cychwyn
I80A. 73 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(d)
74Adolygiadau sy’n mynd rhagddynt ac arbedion eraillLL+C
F96(1). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F96(2). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(3)Bydd unrhyw reoliadau a wnaed o dan adran 67 o Ddeddf 1972 (rheoliadau mewn cysylltiad â gweithredu argymhellion a chynigion o dan Ran 4 o’r Ddeddf honno) sydd mewn grym ar ddyddiad cychwyn yr adran hon yn cael effaith mewn perthynas â gorchmynion o dan Ran 3 o’r Ddeddf hon (gorchmynion sy’n gweithredu newidiadau yn dilyn adolygiadau) fel petai’r gorchmynion hynny wedi eu gwneud o dan Ran 4 o Ddeddf 1972.
(4)Nid yw is-adran (3) yn cael effaith ond i’r graddau nad yw unrhyw reoliadau a wnaed o dan adran 41 o’r Ddeddf hon yn gwneud darpariaeth i’r gwrthwyneb.
Diwygiadau Testunol
F96A. 74(1)(2) wedi ei hepgor (25.6.2024) yn rhinwedd Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), a. 25(1)(a), Atod. 1 para. 5(3)
Gwybodaeth Cychwyn
I81A. 74 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(d)
75CychwynLL+C
(1)Daw’r darpariaethau canlynol i rym ar y diwrnod y bydd y Ddeddf hon yn derbyn Cydsyniad Brenhinol—
(a)adran 1;
(b)adran 70;
(c)adran 71;
(d)adran 72 (ac Atodlen 3);
(e)yr adran hon;
(f)adran 76.
(2)Daw’r darpariaethau canlynol i rym ar ddiwedd y cyfnod o 2 fis sy’n dechrau gyda’r diwrnod pryd y mae’r Ddeddf hon yn derbyn Cydsyniad Brenhinol—
(a)Rhan 2;
(b)Rhan 3;
(c)Rhan 4;
(d)Adrannau 51 i 54, 59 i 62, 64 i 67, 73 (ac Atodlenni 1 a 2) ac adran 74.
(3)Mae gweddill y darpariaethau yn y Ddeddf hon yn dod i rym ar ddiwrnod a bennir gan orchymyn a wneir gan offeryn statudol a wneir gan Weinidogion Cymru.
(4)Caiff gorchymyn o dan yr adran hon—
(a)pennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol, a
(b)cynnwys unrhyw ddarpariaeth drosiannol, ddarfodol neu arbedol y mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus.
Gwybodaeth Cychwyn
I82A. 75 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 75(1)(e)
76Teitl byrLL+C
Teitl byr y Ddeddf hon yw [F97Deddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013].
Diwygiadau Testunol
F97Geiriau yn a. 76 wedi eu hamnewid (25.6.2024) gan Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), aau. 11(3), 25(1)(a)
Gwybodaeth Cychwyn
I83A. 76 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 75(1)(f)
(fel y’i cyflwynwyd gan adran 73(1))
ATODLEN 1LL+CMÂn ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol
Deddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70)LL+C
1(1)Mae Deddf 1972 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn adran 25(2) (tymor swydd ac ymddeoliad cynghorwyr), ar ôl “Part IV of this Act” mewnosoder “or Part 3 of the Local Government (Democracy) (Wales) Act 2013 (anaw 4)”.
(3)Yn adran 30 (cyfyngu ar geisiadau cymunedau yn ystod ac ar ôl adolygiadau)—
(a)yn is-adran (1), ar ôl paragraff (b) mewnosoder—
“(ba)during the period of two years beginning with the coming into force of an order relating to the community under Part 3 of the Local Government (Democracy) (Wales) Act 2013 consequent on recommendations made under that Part by the Local Democracy and Boundary Commission for Wales”,
F98(b). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(4)Yn adran 31(2) (darpariaeth atodol ynghylch gorchmynion cynghorau cymuned), yn lle’r geiriau o “68” i’r diwedd rhodder “44 of the Local Government (Democracy) (Wales) Act 2013 is to apply as if the order were made under Part 3 of that Act.”.
(5)Yn adran 70 (cyfyngu ar hyrwyddo Biliau ar gyfer newid ardaloedd llywodraeth leol, etc.)—
(a)yn is-adran (1), ar ôl “local authority” mewnosoder “in England”,
(b)yn is-adran (3), ar ôl “local authority” mewnosoder “in England”.
(6)Yn adran 73(1) (newid ffiniau lleol o ganlyniad i newid cwrs dŵr), ar ôl “local government” mewnosoder “in England”.
(7)Yn adran 74 (newid enw sir, dosbarth neu un o fwrdeistrefi Llundain)—
(a)yn is-adran (3)(a), yn lle “the Secretary of State” mewnosoder “the relevant Minister”,
(b)yn is-adran (3)(b), yn lle “the Secretary of State” mewnosoder “the relevant Minister”,
(c)ar ôl is-adran (3) mewnosoder—
“(3A)Where any change of name under this section relates to a Welsh principal area, notice must also be sent to the Local Democracy and Boundary Commission for Wales.”.
(d)ar ôl is-adran (7) mewnosoder—
“(8)In this section the “relevant Minister” is—
(a)in relation to the change of name of a Welsh principal area, the Welsh Ministers, and
(b)in relation to any other change of name, the Secretary of State.”.
(8)Yn adran 76(2)(a) (newid enw cymuned), yn lle “Secretary of State,” rhodder “Welsh Ministers, to the Local Democracy and Boundary Commission for Wales,”.
(9)Yn adran 246(9) (cadw pwerau, breintiau a hawliau dinasoedd neu fwrdeistrefi presennol), yn lle “Part IV of this Act” rhodder “Part 3 of the Local Government (Democracy) (Wales) Act 2013”.
(10)Yn adran 239(1) (pŵer i hyrwyddo neu wrthwynebu Biliau lleol neu bersonol)—
(a)yn lle “local authority, other than a parish or community council” rhodder “local authority in England, other than a parish council”, a
(b)ar ôl “local authority” lle y mae’n ymddangos am yr ail dro, mewnosoder “in England”.
Diwygiadau Testunol
F98Atod. 1 para. 1(3)(b) wedi ei hepgor (25.6.2024) yn rhinwedd Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), a. 25(1)(a), Atod. 1 para. 44(4)(a)
Gwybodaeth Cychwyn
I84Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(d)
Deddf yr Heddlu 1996 (p. 16)LL+C
2Yn adran 1(2)(a) o Ddeddf yr Heddlu 1996 (ardaloedd heddlu) yn lle “section 58 of the Local Government Act 1972,” rhodder “section 45 of the Local Government (Democracy) (Wales) Act 2013,”.
Gwybodaeth Cychwyn
I85Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(d)
F99...LL+C
F993. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F99Atod. 1 para. 3 ac croes-bennawd wedi ei hepgor (25.6.2024) yn rhinwedd Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), a. 25(1)(a), Atod. 1 para. 44(4)(b)
F100...LL+C
F1004. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F100Atod. 1 para. 4 ac croes-bennawd wedi ei hepgor (25.6.2024) yn rhinwedd Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), a. 25(1)(a), Atod. 1 para. 44(4)(b)
Deddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 (p. 13)LL+C
5Yn adran 72(3) o Ddeddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 (diwygio ardaloedd heddlu: tymor swydd comisiynydd), yn lle paragraff (c) rhodder—
“(c)an order under section 45 of the Local Government (Democracy) (Wales) Act 2013 (anaw 4) (recommendations for changes to police areas) which alters the boundary of any police area in Wales;”.
Gwybodaeth Cychwyn
I86Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(d)
Deddf Is-Ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 (dccc 2)LL+C
6Ym mharagraff 9 o Atodlen 2 i Ddeddf Is-Ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol), yn is-baragraff (4), yn lle “236A (alternative procedure for certain byelaws)” mewnosoder “236B (revocation of byelaws)”.
Gwybodaeth Cychwyn
I87Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(d)
(fel y’i cyflwynwyd gan adran 73(2))
ATODLEN 2LL+CDiddymiadau
Gwybodaeth Cychwyn
I88Atod. 2 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(d)
Mae’r deddfiadau a grybwyllir yn y golofn gyntaf wedi eu diddymu i’r graddau a nodir yn yr ail golofn.
TABL 1
Deddfiad | Graddau’r Diddymiad |
---|---|
Deddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) | Adran 22(5). |
Adran 24(4). | |
Adran 30(1)(b). | |
Yn adran 30(3), y geiriau “under Part IV of this Act”. | |
Adran 34(5). | |
Adran 53. | |
Adran 54. | |
Adran 55. | |
Adran 56. | |
Adran 57. | |
Adran 57A. | |
Adran 58. | |
Adran 59. | |
Adran 60. | |
Adran 61. | |
Adran 65. | |
Adran 67. | |
Adran 68. | |
Adran 69. | |
Adran 71. | |
Adran 72(1)(b) a (2A). | |
Yn adran 73(2), y geiriau “or the Welsh Commission, as the case may require,”. | |
Yn adran 78(1), y diffiniadau o “electoral arrangements” a “substantive change”. | |
Adran 78(2). | |
Yn adran 270(1), y diffiniad o “Welsh Commission”. | |
Atodlen 8. | |
Atodlen 11. | |
Gorchymyn Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru (Cyfrifon, Archwilio ac Adroddiadau) 2003 (O.S. 2003/749) | Yr holl offeryn. |
Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (mccc 4) | Adran 4(8). |
Yn adran 4(10), y diffiniad o “aelod cyfetholedig”. | |
Adran 167. |
(cyflwynwyd gan adran 72(2))
ATODLEN 3LL+CMynegai o ymadroddion wedi eU diffinio
Gwybodaeth Cychwyn
I89Atod. 3 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 75(1)(d)
Mae’r ymadroddion a restrir yn y golofn gyntaf wedi eu diffinio yn eu trefn gan y darpariaethau hynny neu (yn ôl y digwydd) i’w dehongli yn unol â’r darpariaethau hynny yn y Ddeddf hon a restrir yn yr ail golofn mewn perthynas â’r ymadroddion hynny.
TABL 2
Ymadrodd | Darpariaeth perthnasol |
---|---|
Addasu (Modify) | Adran 72(1) |
Aelod cadeirio (Chairing member) | Adran 4(1)(a) |
[F101Aelod o un o ddeddfwrfeydd y DU (Member of a UK legislature) | Adran 72(1)] |
Arbenigwr (Expert) | Adran 10(1) |
Ardal amlaelod (Multiple member area) | Adran 29(11) |
Ardal llywodraeth leol (Local government area) | Adran 72(1) |
Ardal un aelod (Single member area) | Adran 29(11) |
Awdurdod gweithredu priodol (Appropriate implementing authority) | Adran 36(6) |
Awdurdod lleol (Local authority) | Adran 72(1) |
Comisiynydd Cynorthwyol (Assistant Commissioner) | Adran 11(1) |
Corff cyhoeddus (Public body) | Adran 40(6) |
Corff cyhoeddus cymwys (Qualifying public body) | Adran 50(5) |
Cyfarfod cymunedol (Community meeting) | Adran 72(1) |
[F102Cyfleusterau o bell (Remote facilities) | Adran 49F(4)] |
[F103Cynghorydd arbennig (Special adviser) | Adran 72(1)] |
Deddf 1972 (1972 Act) | Adran 72(1) |
Deddfiad (Enactment) | Adran 72(1) |
[F102Dyddiad yr adolygiad (Review date) | Adran 49B(2)] |
[F102Etholiad cyffredinol (General election) | Adran 49L(1)] |
[F102Etholaeth Senedd (Senedd constituency) | Adran 49L(1)] |
Etholwr llywodraeth leol (Local government elector) | Adran 30 [F104at ddibenion Rhan 3 ac adran 49C(3) at ddibenion Rhan 3A] |
[F102Ffiniau llywodraeth leol (Local government boundaries) | Adran 49L(1)] |
Mesur 2011 (2011 Measure) | Adran 72(1) |
Newid i drefniadau etholiadol (Electoral arrangements change) | Adran 23(4)(c) |
Newid i ffin cymuned (Community boundary change) | Adran 23(4)(a) |
Newid i ffin prif ardal (Principal area boundary change) | Adran 23(4)(e) |
Newid i gyngor cymuned (Community council change) | Adran 23(4)(b) |
Newid i sir wedi ei chadw (Preserved county change) | Adran 23(4)(d) |
[F105Plaid wleidyddol gofrestredig (Registered political party) | Adran 72(1)] |
Prif ardal (Principal area) | Adran 72(1) |
Prif gyngor (Principal council) | Adran 72(1) |
Sir wedi ei chadw (Preserved county) | Adran 27(4) |
Trefniadau etholiadol ar gyfer cymuned (Electoral arrangements for community) | Adran 31(7) |
Trefniadau etholiadol ar gyfer prif ardal (Electoral arrangements for principal area) | Adran 29(9) |
Trefniadau gweithrediaeth (Executive arrangements) | Adran 52(9) |
Ward etholiadol (Electoral ward) | Adran 29(11) |
Y Comisiwn (The Commission) | Adran 2 |
Ymgyngoreion gorfodol (Mandatory consultees) | Adran 34(3) |
Diwygiadau Testunol
F101Geiriau yn Atod. 3 Tabl 2 wedi eu mewnosod (25.6.2024) gan Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), aau. 14(4)(a), 25(1)(a)
F102Geiriau yn Atod. 3 Table 2 wedi eu mewnosod (24.8.2024) gan Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), a. 25(2)(c), Atod. 3 para. 2(6)(a)
F103Geiriau yn Atod. 3 Tabl 2 wedi eu mewnosod (25.6.2024) gan Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), aau. 14(4)(b), 25(1)(a)
F104Geiriau yn Atod. 3 Table 2 wedi eu mewnosod (24.8.2024) gan Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), a. 25(2)(c), Atod. 3 para. 2(6)(b)
F105Geiriau yn Atod. 3 Tabl 2 wedi eu mewnosod (25.6.2024) gan Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (asc 4), aau. 14(4)(c), 25(1)(a)