Cefndir a Chrynodeb

2.Cyn i Ddeddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013 ddod i rym, nodwyd pob darpariaeth statudol ynghylch cydsynio i ddefnyddio cyrff a deunyddiau perthnasol yn Neddf Meinweoedd Dynol 2004 (Deddf 2004), sy’n gymwys i Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae Deddf 2004 yn awdurdodi gweithgareddau penodol, gan gynnwys tynnu a defnyddio organau a meinweoedd, at nifer o ddibenion sydd wedi eu nodi yn Atodlen 1 i’r Ddeddf honno. Un o’r rhain yw defnydd at ddiben trawsblannu. O dan Ddeddf 2004, mae cydsyniad priodol (“appropriate consent”) yn ofynnol er mwyn defnyddio organau a meinweoedd at y dibenion a restrir yn yr Atodlen. Mae ystyr cydsyniad priodol yn amrywio gan ddibynnu ar b’un a yw’r deunydd perthnasol yn cael ei dynnu o oedolyn neu blentyn, ond yr egwyddor gyffredin yw bod rhaid i’r cydsyniad gael ei roi yn ddatganedig.

3.Diben Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013 yw newid y ffordd y mae cydsyniad i gael ei roi o ran rhoi organau a meinweoedd yng Nghymru, at ddibenion trawsblannu. Mae’r Ddeddf yn darparu, yn absenoldeb darpariaeth ddatganedig mewn perthynas â chydsynio, yr ystyrir bod cydsyniad wedi ei roi yn y rhan fwyaf o achosion. Mae hyn yn golygu, ar ôl i berson farw, yr ystyrir ei fod wedi cydsynio, os nad oedd wedi datgan dymuniad o blaid neu yn erbyn rhoi organau a meinweoedd. Fodd bynnag, nid yw cydsyniad a ystyrir yn gymwys i bobl ifanc o dan 18 oed, i bobl nad ydynt wedi bod yn byw yng Nghymru am gyfnod o 12 mis o leiaf yn union cyn marw, nac i bobl nad yw’r galluedd ganddynt i ddeall y gellid ystyried bod cydsyniad wedi ei roi, yn absenoldeb camau datganedig. Yn ogystal, yn ymarferol, ni fydd pobl na ellir eu hadnabod neu na ellir dod o hyd i’w perthynas agosaf yn ddarostyngedig i gydsyniad a ystyrir, gan na fyddai’n bosibl cadarnhau a oedd y person yn bodloni meini prawf allweddol gan gynnwys preswyliad.

4.Mae’r Ddeddf felly’n creu sefyllfa ddiofyn pan ystyrir bod oedolion wedi rhoi eu cydsyniad oni bai eu bod yn gwrthwynebu. Fodd bynnag, nid ystyrir bod cydsyniad wedi ei roi pan fo perthynas neu gyfaill ers amser maith yn gwrthwynebu’r cydsyniad ar sail y ffaith ei fod yn gwybod na fyddai’r ymadawedig wedi cydsynio i roi ei organau a’i feinweoedd at ddiben trawsblannu. Gelwir hyn yn aml yn “system feddal o optio allan” ar gyfer rhoi organau a meinweoedd. Felly, caiff y cysyniad o gydsyniad priodol a geir yn Neddf 2004 ei ddisodli gan ddau gydsyniad, sef “cydsyniad datganedig”, (sy’n atgynhyrchu cydsyniad priodol), a “cydsyniad a ystyrir”.

5.Mae sawl eithriad i gydsyniad a ystyrir, gan gynnwys plant, y rheini nad ydynt yn preswylio fel arfer yng Nghymru a’r rheini nad yw’r galluedd ganddynt i ddeall y cysyniad o gydsyniad a ystyrir. Pan na fydd cydsyniad a ystyrir yn gymwys, mae’r Ddeddf, yn gyffredinol, yn ailddatgan ystyr y cysyniad o gydsyniad priodol fel a nodir yn Neddf 2004. Mae hyn yn golygu y bydd y sefyllfa bresennol yn parhau i fod yn gymwys i berson sy’n marw yng Nghymru ond nad yw’n ddarostyngedig i gydsyniad a ystyrir. I grynhoi, felly, mae’r system o gydsyniad datganedig yn Lloegr, yng Ngogledd Iwerddon (ac mewn rhai achosion yng Nghymru) yn aros yr un peth, ac eithrio bod cydsyniad a ystyrir yn gymwys yng Nghymru.