Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013

Sylwebaeth Ar Yr Adrannau

Adran 1: Trosolwg

8.Mae’r adran hon yn crynhoi prif ddarpariaethau’r Ddeddf. Bwriedir iddi dynnu sylw’r darllenwyr at adrannau perthnasol.

Adran 2: Dyletswydd Gweinidogion Cymru i hyrwyddo trawsblannu

9.Er bod is-adran (1) yn rhannol gyffredinol o ran ei chymhwysiad (hyrwyddo trawsblannu fel modd i wella iechyd), mae hefyd yn cynnwys dyletswydd benodol bwysig ar Weinidogion Cymru i addysgu’r bobl hynny sy’n preswylio yng Nghymru (ac o bosibl y bobl hynny sy’n debygol o ddod i breswylio yng Nghymru) ynghylch yr amgylchiadau lle y gellir ystyried bod cydsyniad wedi ei roi. Mae hyn yn bwysig am fod anweithred, mewn gwirionedd, yn gyfystyr â rhoi cydsyniad. Nid yw’r ddarpariaeth hon wedi ei chyfyngu’n ddatganedig i Gymru (fel cysyniad daearyddol) am fod angen bod yn hyblyg mewn perthynas ag ymhle y bydd gweithgareddau hyrwyddo ac addysgu yn digwydd.

10.Mae’r is-adran hon hefyd yn cynnwys dyletswydd ar Weinidogion Cymru i sicrhau bod gan y Byrddau Iechyd Lleol yng Nghymru yr adnoddau angenrheidiol yn nhermau staff sydd â’r sgiliau a’r cymwyseddau arbenigol sy’n ofynnol i hwyluso trawsblannu. Fodd bynnag, nid yw’r ddyletswydd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddarparu unrhyw lefel benodol o arian sydd “wedi ei neilltuo” i Fyrddau Iechyd Lleol.

11.Mae is-adran (2) yn egluro bod dyletswydd Gweinidogion Cymru o dan is-adran (1) yn cynnwys cynnal gweithgareddau cyfathrebu blynyddol i addysgu pobl yng Nghymru am y system a gyflwynwyd gan y ddeddfwriaeth.

12.Mae is-adran (3) yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru hefyd adrodd yn flynyddol i’r Cynulliad Cenedlaethol ar y tasgau a gyflawnwyd i gyflawni’r ddyletswydd o dan is-adran (1). Dim ond am y pum mlynedd gyntaf ar ôl i’r Ddeddf gael y Cydsyniad Brenhinol y mae hyn yn gymwys.

Adran 3:  Awdurdodi gweithgareddau trawsblannu

13.Hon yw’r ddarpariaeth allweddol sy’n darparu bod cydsyniad yn ofynnol er mwyn cyflawni gweithgaredd trawsblannu. Mae’n cyflwyno’r cysyniadau o gydsyniad a ystyrir a chydsyniad datganedig. Mae hefyd yn nodi’r gweithgareddau trawsblannu y mae’r cydsyniad yn gymwys iddynt. Mae’n dilyn strwythur tebyg i Ddeddf Meinweoedd Dynol 2004 (Deddf 2004) gan fod gweithgareddau penodol yn gyfreithlon os cânt eu gwneud â chydsyniad, ac mae’r modd y mae cydsyniad wedi ei roi mewn amrywiol amgylchiadau yn cael ei nodi mewn adrannau dilynol.

14.Mae’r adran hon yn darparu bod gweithgareddau penodol yr ymgymerir â hwy at ddiben trawsblannu yn gyfreithlon os oes naill ai cydsyniad datganedig neu gydsyniad a ystyrir wedi ei roi ar eu cyfer. Mae’r adrannau dilynol (4, 5, 6 a 9) yn nodi’r hyn y mae cydsyniad datganedig a chydsyniad a ystyrir yn ei olygu pan fo’r person y mae’r cydsyniad yn ymwneud ag ef yn oedolyn, yn oedolyn a eithrir (h.y. oedolyn na all cydsyniad a ystyrir fod yn gymwys iddo), yn blentyn neu’n oedolyn byw nad yw’r galluedd ganddo i gydsynio.

15.Mae’r gweithgareddau eu hunain unwaith eto wedi eu seilio ar y rheini yn adran 1 o Ddeddf 2004.

16.Mae is-adran (3) yn ei gwneud yn gyfreithlon storio a defnyddio deunydd perthnasol pan fo organau a meinweoedd wedi cael eu mewnforio i Gymru o’r tu allan i Gymru. Mewn achosion o’r fath, nid yw cydsyniad yn ofynnol, sy’n golygu mai’r unig beth y mae angen i bersonau sy’n defnyddio organau fod wedi eu bodloni yn ei gylch yw bod yr organ wedi ei mewnforio. Mae hyn yn atgynhyrchu’r sefyllfa o dan Ddeddf 2004 pan fo organ wedi dod i Gymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon o rywle arall (er enghraifft o’r Alban).

Adran 4: Cydsynio: oedolion

17.Mae’r adran hon yn cyflwyno’r cysyniad o gydsyniad a ystyrir. Cydsyniad a ystyrir yw’r sefyllfa ddiofyn ymhob achos ar wahân i oedolion a eithrir (gweler adran 5) a phlant (gweler adran 6).

18.Pan all cydsyniad a ystyrir fod yn gymwys, mae tri eithriad posibl i’w gymhwysiad. Y rhain yw:

Eithriad 1:

19.Mae Tabl 1 yn nodi’r achosion pan fo rhaid i gydsyniad gael ei roi’n ddatganedig, a chan bwy:

a)

pan fo’r oedolyn yn fyw, yr oedolyn sydd i roi cydsyniad sy’n golygu na all cydsyniad a ystyrir byth fod yn gymwys pan fo oedolyn yn fyw. Fodd bynnag, mae adran 9 yn gymwys mewn achosion pan na fo gan berson byw y galluedd i roi cydsyniad;

b)

pan fo’r oedolyn wedi marw ond roedd ei benderfyniad o ran cydsynio i drawsblannu ai peidio mewn grym yn union cyn iddo farw – mewn achosion o’r fath y penderfyniad hwnnw sy’n drech;

c)

mae’r oedolyn wedi marw, nid oes unrhyw benderfyniad ganddo mewn grym, ond mae’r oedolyn wedi penodi person arall neu bersonau eraill i wneud y penderfyniad o dan adran 8 o’r Ddeddf. Os yw rhywun yn gallu rhoi cydsyniad o dan y penodiad, y person hwnnw sy’n gwneud y penderfyniad;

d)

mae’r oedolyn wedi marw, nid oes unrhyw benderfyniad ganddo mewn grym, ac mae wedi penodi person arall neu bersonau eraill i wneud y penderfyniad o dan adran 8 o’r Ddeddf. Os nad oes neb yn gallu rhoi’r cydsyniad o dan y penodiad, y perthnasau cymhwysol yn ôl eu trefn benodol fydd yn penderfynu ar y cydsyniad, yn unol â Deddf Meinweoedd Dynol 2004 (Deddf 2004). Am esboniad o “perthynas gymhwysol”, gweler paragraff 32 isod ac adran 19.

20.Mae’r cysyniadau ffeithiol y tu ôl i gydsynio yr un peth yn y Ddeddf Gymreig hon ag yn Neddf 2004 ac maent yn adlewyrchu’r cyswllt bwriadol sydd rhwng y ddau ddarn o ddeddfwriaeth. Er enghraifft, mae’r cwestiwn ffeithiol ynghylch p’un a oes “penderfyniad gan berson i gydsynio, neu i beidio â chydsynio, i’r gweithgaredd [trawsblannu] …. mewn grym yn union cyn iddo farw” yr un peth p’un ai deddfwriaeth Cymru neu Ddeddf 2004 yw’r fframwaith cyfreithiol. Yn hynny o beth, bwriedir i’r ddau ddarn o ddeddfwriaeth eistedd ochr yn ochr â’i gilydd.

21.Os yw person yn fyw ac fel arfer yn byw, er enghraifft, yn Lloegr ac yn ymgymryd â gweithgaredd trawsblannu yng Nghymru, fel mater cyfreithiol, bydd y Ddeddf Gymreig yn gymwys. Fodd bynnag mae’r effaith yr un peth, h.y. mae angen cydsyniad y person hwnnw, â phe bai Deddf 2004 yn gymwys.

22.Os yw person sydd fel arfer yn byw yng Nghymru yn marw yn Lloegr, ni ellir ystyried ei fod wedi cydsynio i weithgaredd trawsblannu a gynhelir yn Lloegr. Byddai Deddf 2004 yn gymwys ac felly, cyfrifoldeb person mewn perthynas gymhwysol fyddai gwneud penderfyniad yn absenoldeb cydsyniad datganedig. Cyflawnir hyn mewn dwy ffordd. Y ffordd gyntaf yw bod Deddf 2004 yn parhau i fod yn gymwys pan fo’r gweithgaredd trawsblannu yn cael ei gynnal yn Lloegr neu yng Ngogledd Iwerddon. Yn ail o dan y Ddeddf honno yr un cwestiwn ffeithiol sydd, yn ymwneud ag a oedd penderfyniad yr ymadawedig ynghylch cydsyniad (yn ymarferol, bod ei enw ar y Gofrestr Rhoddwyr Organau) mewn grym pan fu farw.

23.Caiff penodiadau cynrychiolwyr a enwebir i wneud penderfyniad mewn perthynas â chydsynio ar ôl marwolaeth a wneir o dan Ddeddf 2004, neu ddeddfwriaeth Cymru eu cydnabod mewn sefyllfa drawsffiniol. Gwneir hyn drwy ddarpariaeth yn y ddau ddarn o ddeddfwriaeth (adran 8(11) o’r Ddeddf hon ac adran 4(11), sef adran newydd, o Ddeddf 2004 sydd i’w mewnosod drwy orchymyn a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn rhinwedd adran 150 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006) sy’n golygu y gellir trin penodiadau a wneir o dan y naill Ddeddf yn benodiadau a wneir o dan y llall.

Eithriad 2:

24.Mae is-adran (4) yn nodi y gall perthynas neu gyfaill wrthwynebu i ystyried bod cydsyniad wedi ei roi ar sail y ffaith ei fod yn gwybod bod yr ymadawedig yn dymuno gwrthwynebu rhoi organau. Gall gwrthwynebiad o’r fath gael ei wneud gan unrhyw berthynas neu gyfaill ers amser maith i’r ymadawedig. Nid oes rhaid i’r person sy’n gwrthwynebu fod yn berthynas cymhwysol fel y’i diffinnir yn adran 19 o’r Ddeddf. Fodd bynnag, rhaid i unrhyw wrthwynebiad fod yn seiliedig ar farn hysbys yr ymadawedig ac nid ar farn y perthynas neu’r cyfaill.

25.Felly, rhaid i wrthwynebiad-

a)

cael ei ddarparu gan berthynas neu gyfaill ers amser maith a oedd yn gwybod beth oedd barn yr ymadawedig ynglŷn â chydsynio i weithgareddau trawsblannu, a

b)

bod yn seiliedig ar wybodaeth a ddarparwyd am ddymuniadau’r ymadawedig sy’n dynodi na fyddai’r ymadawedig wedi cydsynio i weithgareddau trawsblannu. Dylai hyn arwain person rhesymol i gasglu bod y person sy’n gwrthwynebu yn gwybod am ddymuniadau diweddaraf yr ymadawedig.

Eithriad 3:

26.Ni ellir ystyried bod cydsyniad wedi ei roi pan fo’r gweithgaredd trawsblannu yn cynnwys “deunydd perthnasol a eithrir”. Ymdrinnir â chydsyniad mewn perthynas â deunydd o’r fath yn adran 7.

Adran 5: Cydsynio: oedolion a eithrir

27.Mae’r adran hon yn nodi ystyr cydsyniad mewn perthynas â gweithgaredd trawsblannu ar gyfer oedolion a eithrir, hynny yw

a)

Oedolyn ymadawedig nad yw wedi bod yn preswylio fel arfer yng Nghymru am gyfnod o 12 mis o leiaf yn union cyn iddo farw; neu

b)

Oedolyn ymadawedig nad oedd ganddo’r galluedd am gyfnod sylweddol cyn iddo farw i ddeall yr ystyrir bod cydsyniad wedi ei roi yn absenoldeb cydsyniad datganedig.

28.Yn achos oedolyn a eithrir, bydd angen cydsyniad datganedig bob amser ac nid yw cydsyniad a ystyrir yn gymwys.  Mae’r adran hon yn atgynhyrchu’r sefyllfa gyfreithiol bresennol o dan Ddeddf Meinweoedd Dynol 2004 (Deddf 2004) ac yn ei gwneud yn ofynnol cael naill ai cydsyniad datganedig yr unigolyn, cydsyniad datganedig perthynas cymhwysol neu gydsyniad datganedig y cynrychiolydd penodedig.  Dim ond i roddwyr marw, ac nid i roddwyr byw, y mae’n gymwys.

29.Caiff perthynas gymhwysol ei diffinio yn yr adran ddehongli (gweler adran 19). Mae’r rhestr o berthnasau cymhwysol wedi ei rhancio yn unol â’r hyn a nodir yn adran 27(4) o Ddeddf 2004.

30.Nid yw’r term “preswylio fel arfer” wedi ei ddiffinio ond mae wedi bod yn destun cyfraith achosion helaeth. Yn anad dim mae’n fater o raddau a ffeithiau ac mae’n awgrymu rhyw arferiad bywyd. Mae i’w gyferbynnu â phreswylio anarferol, achlysurol neu dros dro. Mae’r cysyniad yn golygu preswylfa person mewn lle neu wlad arbennig y mae wedi ei mabwysiadu’n wirfoddol at ddiben sefydlog ac sy’n rhan o drefn reolaidd bywyd am y tro, am gyfnod hir neu fyr. Gallai diben sefydlog gynnwys addysg, busnes, cyflogaeth, iechyd neu’r teulu. Y cyfan sy’n angenrheidiol yw bod parhad digonol yn sail i ddiben byw mewn lle er mwyn iddo gael ei ddisgrifio’n sefydlog, ac ar wahân i absenoldebau damweiniol neu dros dro.

31.Yn nhermau person nad oedd ganddo’r galluedd i ddeall y gellid ystyried bod cydsyniad wedi ei roi, nid yw’r union gyfnod y mae’n rhaid iddo fod heb y galluedd i gydsynio wedi ei bennu. Rhaid i’r cyfnod, fodd bynnag, fod yn sylweddol. Os oedd gan berson y galluedd am gyfnod estynedig hyd at bwynt diweddar cyn iddo farw, yna dylid ystyried bod cydsyniad wedi ei roi. Mae’n bwysig nodi bod y mater o ran galluedd yma (diffyg galluedd i ddeall y gellir ystyried bod cydsyniad wedi ei roi) ychydig yn wahanol i’r mater o ran galluedd yn adran 9 (ac yn adran 6 o Ddeddf 2004).

32.O dan yr adran hon os nad oes darpariaeth ddatganedig (yr achosion yn Nhabl 2, gan gynnwys cynrychiolwyr penodedig sy’n gallu gweithredu) yn cael ei gwneud, yna perthynas cymhwysol sy’n gwneud y penderfyniad mewn perthynas â chydsyniad. Mae hyn yr un peth â’r sefyllfa o dan Ddeddf 2004. Mae perthnasau cymhwysol wedi eu diffinio yn y Ddeddf hon (gweler adran 19) ond y mae’r rhanc a roddir iddynt (h.y. pa berthynas sy’n gwneud y penderfyniad) yn cael ei wneud (o hyd) o dan Ddeddf 2004. O dan adran 26 o Ddeddf 2004 rhaid i’r Awdurdod Meinweoedd Dynol ddyroddi cod ymarfer at ddiben rhoi canllawiau ymarferol a gosod y safonau a ddisgwylir wrth gyflawni gweithgareddau gyda chyrff ac organau (gan gynnwys trawsblannu). Mae adran 26(3) o Ddeddf 2004 yn cynnwys darpariaeth benodol i ddweud bod rhaid i’r Cod ymdrin â chydsyniad. Mae adran 27 yn darparu bod rhaid i’r cod gynnwys darpariaeth at yr effaith a nodir yn is-adrannau (4) i (8), sy’n cynnwys rhancio a materion ymarferol cysylltiedig eraill, er y caiff yr Awdurdod yn rhinwedd is-adran (3) gynnwys darpariaeth ag effaith wahanol mewn achosion eithriadol. Bydd y darpariaethau hyn yn Neddf 2004 yn parhau i fod yn gymwys yng Nghymru mewn cysylltiad â chydsyniad datganedig a roddir gan berthnasau cymhwysol, ond bydd y Cod Ymarfer yn ei gwneud yn glir na fydd perthnasau a chyfeillion ers amser maith yn cael eu rhancio at ddibenion gwybodaeth a ddarperir o dan adran 4(4)(b) o’r Ddeddf hon. Gweler adran 15 am ragor o fanylion ynghylch y Cod Ymarfer.

33.O ran yr effaith drawsffiniol, bwriedir i’r adran hon olygu, os yw rhywun sydd fel arfer yn byw yn Lloegr neu rywle arall yn marw yng Nghymru, ac felly cyflawnir y gweithgaredd trawsblannu yng Nghymru, fod y sefyllfa gyfreithiol yr un peth â phe bai wedi marw yn Lloegr. Deuir i’r casgliad hwn oherwydd yr un cwestiwn o ffaith sydd, sef a oedd penderfyniad yr ymadawedig mewn perthynas â chydsynio (yn ymarferol, bod ei enw ar y Gofrestr Rhoddwyr Organau) mewn grym pan fu farw.

34.Fel yn adran 4, nid yw’r adran hon yn cwmpasu cydsyniad i weithgareddau trawsblannu sy’n ymwneud â deunydd a eithrir, yr ymdrinnir ag ef yn adran 7.

Adran 6: Cydsynio: plant

35.Mae adran 6 yn nodi’r trefniadau sy’n gymwys i blant a phobl ifanc o dan 18 oed sy’n marw yng Nghymru. Mae’r rhain yn ailddatgan y darpariaethau yn adran 2 o Ddeddf Meinweoedd Dynol 2004 (Deddf 2004), ac eithrio bod plant a phobl ifanc, o dan y Ddeddf hon, yn gallu penodi un neu ragor o gynrychiolwyr i wneud penderfyniad ar gydsyniad, yn yr un modd ag oedolion. Ar gyfer plant a phobl ifanc, bydd naill ai eu cydsyniad datganedig eu hunain yn gymwys, neu os nad yw hynny wedi ei roi (ac nid ydynt wedi penodi cynrychiolydd sy’n gallu gweithredu), bydd cydsyniad person sydd â chyfrifoldeb rhiant yn gymwys. Pan na fo person o’r fath yn bodoli yna rhaid cael cydsyniad person sydd mewn perthynas gymhwysol wedi ei rhancio â hwy, fel y darparwyd ar ei gyfer yn adran 27(4) o Ddeddf 2004.

36.Pan fo plant yn gwneud unrhyw benderfyniad ar gydsyniad, dim ond os ydynt yn gymwys i wneud penderfyniad o’r fath y mae’r penderfyniad yn effeithiol. Yn yr adran ddehongli (adran 19(2)) mae cymhwysedd wedi ei ddiffinio yn y cyd-destun hwn i olygu achos pan fyddai’n ymddangos i berson rhesymol bod gan y plentyn ddigon o ddealltwriaeth i wneud penderfyniad ar sail gwybodaeth. Mae’r prawf hwn o gymhwysedd hefyd yn gymwys i gydsyniad i weithgareddau trawsblannu sy’n ymwneud â deunydd a eithrir (gweler adran 7) ac i blentyn sy’n penodi cynrychiolwyr i wneud y penderfyniad ar gydsyniad ar ôl i’r plentyn farw (gweler adran 8).

Adran 7: Cydsynio: gweithgareddau trawsblannu sy’n ymwneud â deunydd a eithrir

37.Mae’r adran hon yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n pennu “deunydd perthnasol a eithrir” ac sy’n nodi bod cydsyniad datganedig yn ofynnol mewn perthynas â thrawsblannu sy’n ymwneud ag unrhyw ddeunydd penodedig o’r fath. Mae’n rhoi fel enghreifftiau posibl o ddeunydd o’r fath drawsblannu meinweoedd cyfansawdd neu fathau eraill o drawsblannu a ystyrid yn newydd ar adeg gwneud y rheoliadau. Mae wynebau ac aelodau yn enghreifftiau o “meinweoedd cyfansawdd”. Fodd bynnag, gan mai enghreifftiau yw’r rhain, nid oes angen i reoliadau eu cynnwys neu cânt bennu bod mathau eraill o ddeunydd i’w heithrio.

38.Ni ellir ystyried bod cydsyniad wedi ei roi i weithgareddau trawsblannu sy’n ymwneud â deunydd a eithrir. Pan fo cydsyniad yn ofynnol o dan yr adran hon, yn achos oedolion, caiff y person ei hun, neu gynrychiolydd penodedig sy’n gallu gweithredu, roi cydsyniad, neu fel arall caiff perthynas cymhwysol roi cydsyniad. Yn achos plant, caiff y plentyn ei hun roi cydsyniad os yw’n gymwys i wneud hynny, neu gynrychiolydd penodedig sy’n gallu gweithredu, neu fel arall caiff person sydd â chyfrifoldeb rhiant roi cydsyniad. Os nad oes neb â chyfrifoldeb rhiant, perthynas cymhwysol a fyddai’n gwneud y penderfyniad ar gydsyniad yn yr achosion hyn.

Adran 8: Cynrychiolwyr penodedig

39.Mae’r adran hon yn darparu y caiff person benodi cynrychiolydd neu gynrychiolwyr i roi cydsyniad i unrhyw un neu ragor o’r gweithgareddau a nodir yn adran 3. Mae’r adran hon yn atgynhyrchu adran 4 o Ddeddf Meinweoedd Dynol 2004 (Deddf 2004) ond mae tri pheth yn wahanol. Yn gyntaf mae deddfwriaeth Cymru yn cydnabod penodiad a wneir o dan Ddeddf 2004. Yr ail beth yw mai Gweinidogion Cymru fydd â’r pŵer i ragnodi mewn rheoliadau na all personau o ddisgrifiad penodol weithredu o dan benodiad mewn perthynas â rhywun sy’n marw yng Nghymru (yr Ysgrifennydd Gwladol sydd â’r pŵer cyfatebol yn Neddf 2004). Yn olaf, drwy ddefnyddio’r gair “person”, mae’r adran hon yn cydnabod, yng Nghymru, y caiff plentyn benodi cynrychiolydd hefyd.

40.Bydd penodiad a wneir o dan y Ddeddf hon yn cael ei gydnabod gan Ddeddf 2004 (cyn gynted ag y bydd diwygiadau perthnasol wedi eu gwneud i’r Ddeddf honno gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn unol ag adran 150 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006), ac yn yr un modd, mae penodiad a wneir o dan Ddeddf 2004 yn cael ei gydnabod gan y Ddeddf hon. Nid yw o bwys felly p’un a fyddai’r gweithgarwch yn digwydd yng Nghymru, yn Lloegr neu yng Ngogledd Iwerddon.

41.Mae adran 8(12) yn pennu, os nad yw’n rhesymol ymarferol cyfathrebu â chynrychiolydd penodedig mewn da bryd i allu gweithredu ar gydsyniad, y trinnir y cynrychiolydd penodedig fel pe na bai’n gallu rhoi cydsyniad. O dan yr amgylchiadau hyn byddai’r penderfyniad ynghylch cydsyniad yn trosglwyddo i’r perthnasau cymhwysol.

Adran 9: Gweithgareddau sy’n ymwneud â deunydd o oedolion (byw) nad yw’r galluedd ganddynt i gydsynio

42.Mae’r adran hon yn gymwys pan na fo gan oedolyn byw y galluedd i gydsynio i roi ei organau a’i feinweoedd a phan na fo unrhyw benderfyniad mewn grym. Mae’r adran hon yn cael yr un effaith ag adran 6 o Ddeddf Meinweoedd Dynol 2004, ac eithrio mai gan Weinidogion Cymru y mae’r pŵer i ragnodi mewn rheoliadau pryd y gall cydsyniad a ystyrir fod yn gymwys, mewn perthynas â gweithgaredd trawsblannu yng Nghymru. Gallai’r pŵer hwn gael ei ddefnyddio i ragnodi mai dim ond pan fydd hynny er lles pennaf yr oedolyn byw y gellid ystyried bod cydsyniad wedi ei roi. Er enghraifft, gallai fod er lles pennaf y person nad oes ganddo’r galluedd i gydsynio i roi deunydd perthnasol i berthynas agos. Mae cydsyniad a ystyrir yn y cyd-destun hwn yn wahanol i ddarpariaethau cydsyniad a ystyrir a nodir yn adran 4, sy’n ymwneud â rhoddwyr ymadawedig. Fodd bynnag, mae’r cysyniad sylfaenol o gymryd camau heb gydsyniad datganedig yr unigolyn yr un peth.

Adran 10: Gwahardd gweithgareddau heb gydsyniad

43.Mae’r adran hon yn darparu bod person yn cyflawni trosedd yng Nghymru os yw’n ymgymryd â’r gweithgareddau trawsblannu a nodir yn adran 3 heb gydsyniad. Mae gan berson esgus dilys, fodd bynnag, os oedd y person o dan sylw yn credu’n rhesymol fod cydsyniad wedi ei roi. Dyma’r brif ddarpariaeth orfodi yn y Ddeddf ac mae wedi ei seilio ar adran 5 o Ddeddf Meinweoedd Dynol 2004 (Deddf 2004). Gan fod y ddarpariaeth wedi ei seilio ar sylfaen ychydig yn wahanol i Ddeddf 2004 (gan nad oes term sy’n hollol gyfatebol i gydsyniad priodol yn y Ddeddf) mae angen eithrio’n ddatganedig ddarpariaethau eraill yn y Ddeddf sy’n gwneud gweithgareddau trawsblannu yn gyfreithlon heb gydsyniad. Mae hyn yn esbonio’r cyfeiriad at adran 3(3) ac adran 13(1).

44.Mae is-adran (5) yn pennu ystyr y cydsyniad sy’n ofynnol. Mae hyn yn gwestiwn o ffaith ac mae’n cynnwys cydsyniad a roddir neu a geir cyn i’r Ddeddf hon ddod i rym.

Adran 11: Troseddau gan gyrff corfforaethol

45.Mae’r adran hon wedi ei seilio ar ddarpariaeth debyg yn adran 49 o Ddeddf Meinweoedd Dynol 2004.

Adran 12: Erlyn

46.Mae’r adran hon yn ymwneud â’r troseddau y gellir eu cyflawni o dan y Ddeddf hon ac mae’n atgynhyrchu effaith adran 50 o Ddeddf Meinweoedd Dynol 2004.

Adran 13: Preserfio deunydd at ei drawsblannu

47.Mae’r adran hon yn atgynhyrchu effaith adran 43 o Ddeddf Meinweoedd Dynol 2004 (Deddf 2004). Mae’r adran hon yn ei gwneud yn gyfreithlon cadw corff person ymadawedig a phreserfio organau o’r corff a all fod yn addas ar gyfer eu trawsblannu, tra bo’r mater o gydsyniad (p’un ai cydsyniad datganedig neu gydsyniad a ystyrir) i ddefnyddio organau’n cael ei ddatrys. Rhaid i’r camau a gymerir ar gyfer preserfio gynnwys y lleiafswm o gamau angenrheidiol a’r dulliau lleiaf mewnwthiol. Er nad yw hyn yn ymwneud yn uniongyrchol â chydsyniad mae’n gynhenid i sut y mae’r system yn gweithio cyn cadarnhau a yw cydsyniad yn bodoli ac mae felly wedi ei ailddatgan yn y Ddeddf hon. Mae’r adran gyfatebol yn Neddf 2004, sef adran 43, wedi ei diwygio i’w gwneud yn glir pa ddarpariaeth sy’n gymwys (h.y. yr un yn y Ddeddf hon).

Adran 14: Crwneriaid

48.Er mwyn cynnal y sefyllfa gyfreithiol gyfredol o ran crwneriaid, mae’r adran hon yn esemptio o ofynion y Ddeddf unrhyw beth a wneir at ddibenion swyddogaethau crwner, neu o dan ei awdurdod. Mae’r adran hon yn darparu bod angen cydsyniad y crwner cyn gweithredu ar awdurdod o dan adran 3 neu adran 13, os oes angen neu y gall fod angen corff neu ddeunydd perthnasol at ddibenion swyddogaethau’r crwner. Mae’r adran hon yn atgynhyrchu effaith adran 11 o Ddeddf Meinweoedd Dynol 2004.

Adran 15: Codau ymarfer

49.Mae’n ofynnol i’r Awdurdod Meinweoedd Dynol (yr Awdurdod) ddyroddi cod ymarfer sy’n cynnwys canllawiau a safonau ymarferol. Nid yw’r darpariaethau sy’n ymwneud â’r Cod Ymarfer a nodir yn Neddf Meinweoedd Dynol 2004 (Deddf 2004) wedi eu hatgynhyrchu nac eu hailddatgan yn y Ddeddf gan mai dim ond un Awdurdod ac un Cod sydd. Mae’r adran hon felly’n diwygio Deddf 2004 i adlewyrchu deddfwriaeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys pŵer i Weinidogion Cymru ddiwygio drwy offeryn statudol ranc y rhai hynny sydd mewn perthynas gymhwysol â’r ymadawedig, a gofyniad bod y Cod yn rhoi canllawiau ar sut y gall perthynas neu gyfaill i’r ymadawedig wrthwynebu cydsyniad a ystyrir ar sail dymuniadau’r ymadawedig (gweler adran 4).

50.Mae’r diwygiadau i Ddeddf 2004 hefyd yn golygu na chaiff yr Awdurdod ddyroddi cod sy’n ymwneud â gweithgareddau sy’n dod o dan ddeddfwriaeth Cymru oni bai bod drafft wedi ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru a chan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (yn ddarostyngedig i benderfyniad cadarnhaol gan y Cynulliad Cenedlaethol).

Adran 16: Diwygiadau canlyniadol a chysylltiedig i Ddeddf Meinweoedd Dynol 2004

51.Mae’r adran hon yn gwneud nifer o ddiwygiadau i Ddeddf Meinweoedd Dynol 2004 (Deddf 2004) sy’n ganlyniadol i’r Ddeddf hon neu’n gysylltiedig â hi. O ganlyniad, ni fydd adran 1(1) o Ddeddf 2004 yn gymwys mwyach i gydsyniad ar gyfer gweithgareddau trawsblannu a gyflawnir yng Nghymru.

52.Mae diwygiadau eraill yn datgymhwyso adrannau o Ddeddf 2004 sydd wedi eu hailddatgan ar gyfer Cymru yn y Ddeddf hon, er enghraifft, adran 6 (oedolion nad yw’r galluedd ganddynt i gydsynio), ac adran 43 (preserfio deunydd at ei drawsblannu).

53.Mae diwygiadau hefyd wedi eu gwneud er mwyn i’r Ddeddf hon gael ei hystyried gan swyddogaethau cyffredinol yr Awdurdod Meinweoedd Dynol (yr Awdurdod) a’i adroddiad blynyddol. Mae pwerau arolygu, mynd i mewn, chwilio ac ymafael yr Awdurdod hefyd wedi eu diwygio er mwyn ymgorffori sefyllfaoedd sydd wedi eu cynnwys yn y Ddeddf.

54.Effaith Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 oedd newid y cyfeiriadau at “Cynulliad Cenedlaethol Cymru” i “Gweinidogion Cymru”. Mae’r adran hon mewn gwirionedd yn diwygio testun Deddf 2004 i wneud y newid hwn, er lles y darllenydd. Mae gofynion newydd i Weinidogion Cymru osod dogfennau gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru hefyd wedi eu hychwanegu i adlewyrchu’r trefniadau cyfansoddiadol newydd yn dilyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (fel eu bod yn atgynhyrchu’r darpariaethau ar gyfer Cynulliad Gogledd Iwerddon a Senedd y DU).

Adran 17: Diwygiad canlyniadol i Ddeddf Ewyllysiau 1837

55.Mae’r adran hon yn diwygio Deddf Ewyllysiau 1837 i adlewyrchu’r Ddeddf hon (yn yr un modd ag y mae Deddf Meinweoedd Dynol 2004 wedi ei hadlewyrchu) mewn achosion pan fo rhywun yn gwneud darpariaeth ar gyfer cynrychiolydd penodedig mewn ewyllys.

Adran 18: Deunydd perthnasol

56.Mae’r adran hon yn diffinio’r hyn a olygir gan y deunydd a dynnir o’r corff at ddiben trawsblannu. Mae’r diffiniad yr un peth â’r un hynny yn adran 53 o Ddeddf Meinweoedd Dynol 2004.

Adran 19: Dehongli

57.Mae’r adran hon yn cynnwys diffiniad o berthynas gymhwysol yn ogystal â’r cyfeiriad at ranc y perthnasoedd hynny yn adran 27(4) o Ddeddf Meinweoedd Dynol 2004. Mae Deddf 2004 yn diffinio’r term (yn adran 54(9)) yn ogystal â rhancio’r gwahanol berthnasoedd sy’n ffurfio’r diffiniad, drwy adran 27(4) a’r Cod Ymarfer a ddyroddir gan yr Awdurdod Meinweoedd Dynol. Ni chaiff perthnasau a chyfeillion ers amser maith eu rhancio at ddibenion adran 4(4)(b) o’r Ddeddf hon (gwybodaeth a all atal cydsyniad a ystyrir), ond bydd perthnasoedd cymhwysol yn cael eu rhancio at bob diben arall. Yn y diffiniad o “perthynas gymhwysol”, mae’r cyfeiriad at “plentyn“ yn gyfeiriad at berthynas y person hwnnw i’r ymadawedig ac, felly, mae’n golygu mab neu ferch yr ymadawedig (ni waeth beth fo oedran y person hwnnw). Yn yr un modd, nid oes cyfyngiad oedran mewn perthynas â “ŵyr/wyres”.

Adran 20: Gorchmynion a rheoliadau

58.Mae’r adran hon yn darparu ar gyfer y weithdrefn a ddefnyddir ar gyfer gwneud is-ddeddfwriaeth o dan y Ddeddf hon (ac eithrio gorchmynion cychwyn). Mae hyn yn golygu na chaniateir i is-ddeddfwriaeth gael ei gwneud oni bai bod Gweinidogion Cymru wedi cynnal ymgynghoriad cyhoeddus, a bod drafft wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddo.

Adran 21: Cychwyn

59.Mae’r adran hon yn ymdrin â chychwyn y Ddeddf hon ar ôl iddi gael y Cydsyniad Brenhinol. Bydd adran 2, sy’n gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i hyrwyddo trawsblannu a darparu gwybodaeth amdano, yn cychwyn pan fydd y Bil hwn yn cael y Cydsyniad Brenhinol, a bydd adran 1 (Trosolwg); adran 21 (Cychwyn) ac adran 22 (Enw byr) yn cychwyn yr un pryd. Ni fydd y darpariaethau sydd ar ôl yn cael eu cychwyn yn gynt na dwy flynedd ar ôl y Cydsyniad Brenhinol.

Adran 22: Enw byr

60.Enw byr y Ddeddf yw Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013.

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Nodiadau Esboniadol

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the National Assembly for Wales.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill