Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013

Y ffi am y llainLL+C
This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

20(1)Oni bai y byddai hynny’n afresymol, o roi sylw i baragraff 18(1), rhagdybir bod y ffi am y llain i gynyddu neu i ostwng yn ôl canran nad yw’n fwy na chanran unrhyw gynnydd neu ostyngiad yn y mynegai prisiau defnyddwyr a gyfrifir drwy gyfeirio at y canlynol—

(a)y mynegai diweddaraf, a

(b)y mynegai a gyhoeddwyd am y mis a syrthiodd 12 mis cyn y mis y mae’r mynegai diweddaraf yn cyfeirio ato.

(2)Yn is-baragraff (1) ystyr “y mynegai diweddaraf”—

(a)mewn achos pan fo’r perchennog yn cyflwyno hysbysiad o dan baragraff 17(3), yw’r mynegai diwethaf a gyhoeddwyd cyn y diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad hwnnw, a

(b)mewn achos pan fo’r perchennog yn cyflwyno hysbysiad o dan baragraff 17(8)(b), yw’r mynegai diwethaf a gyhoeddwyd cyn y diwrnod yr oedd yn ofynnol i’r perchennog gyflwyno hysbysiad o dan baragraff 17(3).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I2Atod. 2 para. 20 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)