Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013

Hawl y perchennog i fynd i’r llainLL+C
This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

46(1)Caiff y perchennog fynd i’r llain heb hysbysiad ymlaen llaw rhwng 9 am a 6 pm—

(a)i roi gohebiaeth ysgrifenedig, gan gynnwys post a hysbysiadau, i’r meddiannydd, a

(b)i ddarllen unrhyw fesurydd gwasanaethau nwy, trydan, dŵr, carthffosiaeth neu wasanaethau eraill a ddarperir gan y perchennog.

(2)Caiff y perchennog fynd i’r llain i wneud gwaith trwsio hanfodol neu waith brys ar ôl rhoi cymaint o hysbysiad i’r meddiannydd (boed mewn ysgrifen neu fel arall) ag sy’n rhesymol ymarferol o dan yr amgylchiadau.

(3)Oni bai bod y meddiannydd wedi cytuno fel arall, caiff y perchennog fynd i’r llain am reswm heblaw’r un a bennir yn is-baragraff (1) neu (2) neu dim ond os yw’r perchennog wedi rhoi o leiaf 14 o ddiwrnodau clir o hysbysiad ysgrifenedig o ddyddiad ac amser yr ymweliad a’r rheswm drosto.

(4)Nid yw’r hawliau a roddir gan y paragraff hwn yn ymestyn i’r cartref symudol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 46 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I2Atod. 2 para. 46 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)