Rhwymedigaethau’r meddiannydd a rhwymedigaethau cyfatebol y perchennogLL+C
51(1)Rhaid i’r meddiannydd—
(a)talu’r ffi am y llain i’r perchennog,
(b)talu i’r perchennog yr holl symiau sy’n ddyledus o dan y cytundeb o ran gwasanaethau nwy, trydan, dŵr, carthffosiaeth neu wasanaethau eraill a ddarperir gan y perchennog,
(c)cadw’r cartref symudol mewn cyflwr cadarn,
(d)cadw—
(i)y tu allan i’r cartref symudol, a
(ii)y llain, gan gynnwys pob ffens ac adeilad allanol sy’n perthyn iddi ac i’r cartref symudol, neu a fwynheir gyda hwy,
mewn cyflwr glân a chymen, ac
(e)os bydd y perchennog yn gofyn, rhoi tystiolaeth ddogfennol i’r perchennog o unrhyw gostau neu dreuliau y bydd y meddiannydd yn gofyn am ad-daliad yn eu cylch.
(2)Rhaid i’r perchennog beidio â gwneud unrhyw beth na pheri i unrhyw beth gael ei wneud a allai effeithio’n andwyol ar allu’r meddiannydd i gyflawni rhwymedigaethau’r meddiannydd o dan is-baragraff (1)(c) a (d).
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 2 para. 51 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)
I2Atod. 2 para. 51 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)