Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about advanced features

Nodweddion Uwch

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Paragraff 53

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013, Paragraff 53. Help about Changes to Legislation

Enw a chyfeiriad y perchennogLL+C
This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

53(1)Rhaid i’r perchennog roi gwybod i’r meddiannydd ac unrhyw gymdeithas trigolion gymwys, drwy hysbysiad, am y cyfeiriad yng Nghymru neu Loegr lle y caniateir i hysbysiadau (gan gynnwys hysbysiadau achosion) gael eu cyflwyno i’r perchennog gan y meddiannydd neu gan gymdeithas trigolion gymwys.

(2)Os bydd y perchennog yn methu cydymffurfio ag is-baragraff (1), yna mae unrhyw swm sy’n ddyledus fel arall gan y meddiannydd i’r perchennog o ran y ffi am y llain i’w drin at bob diben fel pe na bai’n ddyledus gan y meddiannydd i’r perchennog ar unrhyw adeg cyn i’r perchennog gydymffurfio â’r is-baragraff hwnnw.

(3)Os bydd y perchennog yn unol â’r cytundeb yn rhoi unrhyw hysbysiad ysgrifenedig i’r meddiannydd neu (yn ôl y digwydd) i gymdeithas trigolion gymwys, rhaid i’r hysbysiad gynnwys enw a chyfeiriad y perchennog.

(4)Pan fo—

(a)y meddiannydd neu gymdeithas trigolion gymwys yn cael hysbysiad o’r fath, ond

(b)nid yw’r cais hwnnw’n cynnwys yr wybodaeth y mae’n ofynnol ei chynnwys ynddo yn rhinwedd is-baragraff (3),

mae’r hysbysiad i’w drin fel pe na bai wedi ei roi hyd nes y bydd y perchennog yn rhoi’r wybodaeth i’r meddiannydd neu (yn ôl y digwydd) y gymdeithas o ran yr hysbysiad.

(5)Nid oes dim yn is-baragraffau (3) a (4) yn gymwys i unrhyw hysbysiad sy’n cynnwys hawliad y mae paragraff 54(1) yn gymwys iddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 53 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I2Atod. 2 para. 53 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth