xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2LL+CTRWYDDEDU SAFLEOEDD CARTREFI SYMUDOL ETC.

Amodau trwyddedau safleLL+C

10Safonau enghreifftiolLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru bennu at ddibenion adran 9 safonau enghreifftiol o ran cynllun safleoedd rheoleiddiedig neu fathau penodol o safleoedd rheoleiddiedig, ac o ran darparu cyfleusterau, gwasanaethau ac offer iddynt.

(2)Wrth benderfynu pa amodau i’w gosod (os gosodir unrhyw amodau o gwbl) mewn trwydded safle, rhaid i awdurdod lleol roi sylw i unrhyw safonau enghreifftiol sydd wedi eu pennu.

(3)Ni chaniateir pennu safonau enghreifftiol o ran tir y mae Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 yn gymwys iddo i’r graddau y mae’r safonau’n ymwneud ag unrhyw fater arall y gosodwyd neu y gellid gosod gofynion neu waharddiadau mewn perthynas ag ef gan neu o dan y Gorchymyn hwnnw.

(4)Mae dyletswydd awdurdod lleol i roi sylw i safonau a bennir o dan yr adran hon i’w dehongli, o ran safonau sy’n ymwneud â rhagofalon tân, fel dyletswydd i roi sylw iddynt yn ddarostyngedig i unrhyw gyngor a roddir gan yr awdurdod tân ac achub o dan adran 11.

(5)Yn yr adran hon ac yn adran 11 ystyr “rhagofalon tân” yw rhagofalon sydd i’w cymryd at unrhyw un neu ragor o’r dibenion a bennir yn adran 9(2)(e).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I2A. 10 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(b) (ynghyd ag ergl. 4)