Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013

12Cyfarwyddiadau a chanllawiauLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Caniateir i unrhyw gyfarwyddiadau neu ganllawiau a roddir o dan y Ddeddf hon gan Weinidogion Cymru gael eu hamrywio neu eu dirymu ganddynt.

(2)Wrth roi (neu amrywio neu ddirymu) cyfarwyddiadau neu ganllawiau o dan y Ddeddf hon rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i ddymunoldeb—

(a)hyrwyddo teithiau teithio llesol, a

(b)sicrhau llwybrau teithio llesol newydd a’r cyfleusterau cysylltiedig a gwelliannau i’r llwybrau teithio llesol presennol a’r cyfleusterau cysylltiedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 12 mewn grym ar 5.11.2013, gweler a. 14(2)