Adran 5 – Ymyrraeth gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â sefydliadau o fewn y sector addysg bellach
15.Mae'r adran hon yn diwygio adran 57 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 sy'n galluogi Gweinidogion Cymru i ymyrryd mewn SAB (drwy wneud newidiadau i'r corff llywodraethu neu drwy ddyroddi cyfarwyddiadau), os ydynt o’r farn bod y SAB yn cael ei gamreoli neu'n methu mewn rhyw ffordd arall. Mae'r diwygiad yn golygu y bydd Gweinidogion Cymru, wrth arfer eu pwerau ymyrryd, yn gallu cyfarwyddo corff llywodraethu CAB i ddefnyddio ei bwerau newydd i’w ddiddymu ei hun. Os bydd hyn yn digwydd, caiff y CAB ei thrin fel pe bai wedi dilyn y gweithdrefnau cyhoeddi ac ymgynghori a nodir yn adran 27 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (fel y’i hamnewidiwyd gan adran 3 o'r Ddeddf).
16.Mae'r adran hon hefyd yn diddymu adran 57A o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992. Mae'r adran honno yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio, cyhoeddi ac adolygu datganiad polisi mewn cysylltiad ag arfer eu pwerau ymyrryd.