Adran 155 – Pŵer i'w gwneud yn ofynnol i swyddogaethau gael eu cyflawni gan Weinidogion Cymru neu enwebai
408.Mae adran 155 yn darparu, pan fo gan Weinidogion Cymru y pŵer i ymyrryd o dan adran 152, y cânt gyfarwyddo bod y swyddogaethau, y maent yn barnu bod ymyrryd yn angenrheidiol mewn cysylltiad â hwy, i’w cyflawni ganddynt hwy eu hunain neu gan berson a enwebir ganddynt, Mae is-adran (3) yn egluro bod rhaid i’r awdurdod lleol gydymffurfio ag unrhyw arweiniad a roddir gan Weinidogion Cymru neu eu henwebai.