xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 10LL+CCWYNION, SYLWADAU A GWASANAETHAU EIRIOLI

PENNOD 2LL+CCWYNION AM OFAL CYMDEITHASOL A GOFAL LLINIAROL PREIFAT

179Ymchwilio i gwynion am ofal cymdeithasol a gofal lliniarol a drefnir neu a ariennir yn breifatLL+C

Mae Atodlen 3 (sy’n mewnosod Rhannau 2A a 2B newydd yn Neddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 i roi i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru bwerau i ymchwilio i gwynion am fathau penodol o ofal cymdeithasol a gofal lliniarol ac sy’n gwneud diwygiadau canlyniadol) yn cael effaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 179 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I2A. 179 mewn grym ar 1.11.2014 gan O.S. 2014/2718, ergl. 2(b)

180Gwasanaethau eirioli annibynnol ar gyfer cwynion am ofal lliniarol a drefnir neu a ariennir yn breifatLL+C

(1)Mae adran 187 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (gwasanaethau eirioli annibynnol) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (2)—

(a)ym mharagraff (a) yn lle “or independent provider” rhodder “, independent provider or independent palliative care provider”,

(b)ym mharagraff (c) hepgorer y geiriau “or the Public Services Ombudsman for Wales”, ac

(c)ar ôl paragraff (c) mewnosoder—

(ca)a complaint to the Public Services Ombudsman for Wales which relates to a health service body or independent palliative care provider,.

(3)Yn is-adran (3) mewnosoder yn y man priodol—

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 180 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I4A. 180 mewn grym ar 1.11.2014 gan O.S. 2014/2718, ergl. 2(c)