xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2LL+CSWYDDOGAETHAU CYFFREDINOL

Dyletswyddau hollgyffredinolLL+C

5Dyletswydd llesiantLL+C

Rhaid i berson sy’n arfer swyddogaethau o dan y Ddeddf hon geisio hyrwyddo llesiant—

(a)pobl y mae arnynt angen gofal a chymorth, a

(b)gofalwyr y mae arnynt angen cymorth.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I2A. 5 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

6Dyletswyddau hollgyffredinol eraill: cyffredinolLL+C

(1)Rhaid i berson sy’n arfer swyddogaethau o dan y Ddeddf hon—

(a)mewn perthynas ag unigolyn y mae arno anghenion am ofal a chymorth, neu y gall fod arno anghenion am ofal a chymorth,

(b)mewn perthynas â gofalwr y mae arno anghenion am gymorth, neu y gall fod arno anghenion am gymorth, neu

(c)mewn perthynas ag unigolyn y mae swyddogaethau yn arferadwy mewn cysylltiad ag ef o dan Ran 6 (plant sy’n derbyn gofal etc),

gydymffurfio â’r dyletswyddau yn is-adran (2).

(2)Rhaid i’r person—

(a)i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, ganfod barn, dymuniadau a theimladau’r unigolyn a rhoi sylw i’r farn honno, y dymuniadau hynny a’r teimladau hynny,

(b)rhoi sylw i bwysigrwydd hyrwyddo a pharchu urddas yr unigolyn,

(c)rhoi sylw i nodweddion, diwylliant a chredoau’r unigolyn (gan gynnwys, er enghraifft, iaith), a

(d)rhoi sylw i bwysigrwydd darparu cymorth priodol er mwyn galluogi’r unigolyn i gymryd rhan yn y penderfyniadau sy’n effeithio arno i’r graddau sy’n briodol o dan yr amgylchiadau, yn enwedig pan fo gallu’r unigolyn i gyfathrebu wedi ei gyfyngu am unrhyw reswm.

(3)Rhaid i berson sy’n arfer swyddogaethau o dan y Ddeddf hon mewn perthynas ag oedolyn sy’n dod o fewn is-adran (1)(a), (b) neu (c), yn ogystal, roi sylw i—

(a)pwysigrwydd dechrau gyda’r ragdybiaeth mai’r oedolyn sydd yn y sefyllfa orau i farnu llesiant yr oedolyn, a

(b)pwysigrwydd hyrwyddo annibyniaeth yr oedolyn pan fo’n bosibl.

(4)Rhaid i berson sy’n arfer swyddogaethau o dan y Ddeddf hon mewn perthynas â phlentyn sy’n dod o fewn is-adran (1)(a), (b) neu (c), yn ogystal—

(a)rhoi sylw i bwysigrwydd hyrwyddo magwraeth y plentyn gan deulu’r plentyn, i’r graddau y mae gwneud hynny yn gyson â hyrwyddo llesiant y plentyn, a

(b)pan fo’r plentyn o dan 16 oed, ganfod barn, dymuniadau a theimladau’r personau sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn a rhoi sylw i’r farn honno, y dymuniadau hynny a’r teimladau hynny, i’r graddau y mae gwneud hynny—

(i)yn gyson â hyrwyddo llesiant y plentyn, a

(ii)yn rhesymol ymarferol.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I4A. 6 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

7Dyletswyddau hollgyffredinol eraill: Egwyddorion a Chonfensiwn y Cenhedloedd UnedigLL+C

(1)Rhaid i berson sy’n arfer swyddogaethau o dan y Ddeddf hon mewn perthynas ag oedolyn sy’n dod o fewn adran 6(1)(a) neu (b) roi sylw dyladwy i Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn a fabwysiadwyd gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ar 16 Rhagfyr 1991.

(2)Rhaid i berson sy’n arfer swyddogaethau o dan y Ddeddf hon mewn perthynas â phlentyn sy’n dod o fewn adran 6(1)(a), (b) neu (c) roi sylw dyladwy i Ran 1 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a fabwysiadwyd ac a agorwyd i’w lofnodi, ei gadarnhau a’i gytuno drwy benderfyniad y Cynulliad Cyffredinol 44/25 dyddiedig 20 Tachwedd 1989 (“y Confensiwn”).

(3)At ddibenion is-adran (2), mae Rhan 1 o’r Confensiwn i’w thrin fel pe bai’n cael effaith—

(a)fel a nodir am y tro yn Rhan 1 o’r Atodlen i Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, ond

(b)yn ddarostyngedig i unrhyw ddatganiad neu neilltuad fel a nodir am y tro yn Rhan 3 o’r Atodlen honno.

(4)Nid yw is-adran (2) yn gymwys i Weinidogion Cymru (gweler, yn lle hynny, Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011).

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I6A. 7 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)