xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2LL+CSWYDDOGAETHAU CYFFREDINOL

Trefniadau lleolLL+C

14Asesu anghenion am ofal a chymorth, cymorth i ofalwyr a gwasanaethau ataliolLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol a phob Bwrdd Iechyd Lleol y mae unrhyw ran o’i ardal o fewn ardal yr awdurdod lleol, yn unol â rheoliadau, asesu ar y cyd—

(a)i ba raddau y mae pobl y mae arnynt angen gofal a chymorth yn ardal yr awdurdod lleol;

(b)i ba raddau y mae yna ofalwyr yn ardal yr awdurdod lleol y mae angen cymorth arnynt;

(c)i ba raddau y mae yna bobl yn ardal yr awdurdod lleol nad yw eu hanghenion am ofal a chymorth (neu, yn achos gofalwyr, eu hanghenion am gymorth) yn cael eu diwallu (gan yr awdurdod, y Bwrdd neu fel arall);

(d)ystod a lefel y gwasanaethau y mae eu hangen i ddiwallu anghenion gofal a chymorth pobl yn ardal yr awdurdod lleol (gan gynnwys anghenion gofalwyr am gymorth);

(e)ystod a lefel y gwasanaethau y mae eu hangen i sicrhau’r dibenion yn adran 15(2) (gwasanaethau ataliol) yn ardal yr awdurdod lleol;

(f)y camau y mae angen eu cymryd i ddarparu’r ystod a’r lefel o wasanaethau a nodir yn unol â pharagraffau (d) ac (e) drwy gyfrwng y Gymraeg.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1), er enghraifft, ddarparu ar gyfer amseru ac adolygu asesiadau.

F1(3). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F1(4). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I2A. 14 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

[F214ACynlluniau yn dilyn asesiadau o anghenion o dan adran 14LL+C

(1)Yn yr adran hon, ystyr “corff perthnasol” yw awdurdod lleol neu Fwrdd Iechyd Lleol sydd wedi cynnal asesiad ar y cyd o dan adran 14(1).

(2)Rhaid i bob corff perthnasol baratoi a chyhoeddi cynllun sy’n nodi—

(a)ystod a lefel y gwasanaethau y mae’r corff yn bwriadu eu darparu, neu drefnu i’w darparu, mewn ymateb i’r asesiad o anghenion o dan baragraffau (a) i (c) o adran 14(1);

(b)yn achos awdurdod lleol, ystod a lefel y gwasanaethau y mae’r awdurdod yn bwriadu eu darparu, neu drefnu i’w darparu, wrth geisio sicrhau’r dibenion yn adran 15(2) (gwasanaethau ataliol);

(c)yn achos Bwrdd Iechyd Lleol, unrhyw beth y mae’r Bwrdd yn bwriadu ei wneud mewn cysylltiad â’i ddyletswydd o dan adran 15(5) (Byrddau Iechyd Lleol i roi sylw i bwysigrwydd camau ataliol wrth arfer swyddogaethau);

(d)sut y mae’r gwasanaethau a nodir yn y cynllun i gael eu darparu, gan gynnwys y gweithredoedd y mae’r corff yn bwriadu eu cymryd i ddarparu, neu drefnu i ddarparu, y gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg;

(e)unrhyw weithredoedd eraill y mae’r corff yn bwriadu eu cymryd mewn ymateb i’r asesiad o dan adran 14(1);

(f)manylion unrhyw beth y mae’r corff yn bwriadu ei wneud mewn ymateb i’r asesiad ar y cyd â chorff perthnasol arall;

(g)yr adnoddau sydd i’w neilltuo wrth wneud y pethau a nodir yn y cynllun.

(3)Caniateir i gynllun corff perthnasol gael ei gyhoeddi drwy ei gynnwys o fewn cynllun llesiant lleol a gyhoeddir o dan adran 39 [F3, 44(5) neu 47(6) neu (11)] o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (“Deddf 2015”) gan fwrdd gwasanaethau cyhoeddus y mae’r corff yn aelod ohono.

(4)Caiff awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Lleol sydd wedi cynnal asesiad ar y cyd gyda’i gilydd o dan adran 14(1) baratoi a chyhoeddi cynllun ar y cyd o dan is-adran (2).

(5)Caiff dau awdurdod lleol neu ragor baratoi a chyhoeddi cynllun ar y cyd o dan is-adran (2); ond ni chaniateir i gynllun ar y cyd o’r fath gael ei gyhoeddi drwy ei gynnwys o fewn cynllun llesiant lleol onid yw pob awdurdod lleol yn aelod o’r bwrdd gwasanaethau cyhoeddus (gweler adrannau 47 a 49 o Ddeddf 2015 (uno [F4a daduno] byrddau gwasanaethau cyhoeddus)).

(6)Rhaid i gorff perthnasol gyflwyno’r canlynol i Weinidogion Cymru—

(a)unrhyw ran o gynllun a baratowyd ganddo o dan is-adran (2) sy’n ymwneud ag iechyd a llesiant gofalwyr;

(b)unrhyw ran arall o gynllun o’r fath y caniateir ei ragnodi drwy reoliadau.

(7)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch cynlluniau a baratoir ac a gyhoeddir o dan is-adran (2), gan gynnwys darpariaeth—

(a)sy’n pennu pryd y mae cynllun i gael ei gyhoeddi;

(b)ynghylch adolygu cynllun;

(c)ynghylch ymgynghori â phersonau wrth baratoi neu adolygu cynllun;

(d)ynghylch monitro a gwerthuso gwasanaethau a gweithredoedd eraill a nodir mewn cynllun.]

15Gwasanaethau ataliolLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol ddarparu neu drefnu i ddarparu ystod a lefel o wasanaethau a fydd yn ei farn ef yn sicrhau’r dibenion yn is-adran (2) yn ei ardal.

(2)Y dibenion yw—

(a)cyfrannu at atal neu oedi datblygiad anghenion pobl am ofal a chymorth;

(b)lleihau’r anghenion am ofal a chymorth i bobl y mae arnynt anghenion o’r fath;

(c)hyrwyddo magwraeth plant gan eu teuluoedd, pan fo hynny’n gyson â llesiant y plant;

(d)cadw i’r lleiaf posibl yr effaith sydd gan eu hanableddau ar bobl anabl;

(e)cyfrannu at atal pobl rhag dioddef gan gamdriniaeth neu esgeulustod;

(f)lleihau’r angen am—

(i)achosion cyfreithiol am orchmynion gofalu neu oruchwylio o dan Ddeddf Plant 1989,

(ii)achosion troseddol yn erbyn plant,

(iii)unrhyw achosion teuluol neu achosion cyfreithiol eraill mewn perthynas â phlant a allai arwain at eu rhoi yng ngofal awdurdod lleol, neu

(iv)achosion cyfreithiol o dan awdurdodaeth gynhenid yr Uchel Lys mewn perthynas â phlant;

(g)annog plant i beidio â throseddu;

(h)osgoi’r angen i blant gael eu lleoli mewn llety diogel [F5o fewn yr ystyr a roddir yn adran 119 ac o fewn yr ystyr a roddir i “secure accommodation” yn adran 25 o Ddeddf Plant 1989];

(i)galluogi pobl i fyw eu bywydau mewn ffordd mor annibynnol â phosibl.

(3)Mae’r pethau y gellir eu darparu neu eu trefnu wrth gyflawni’r ddyletswydd yn is-adran (1) yn cynnwys gofal a chymorth (neu yn achos gofalwyr, cymorth) o’r math y mae’n rhaid eu darparu neu y caniateir eu darparu o dan adrannau 35 i 45, ond nid ydynt yn gyfyngedig i’r gofal hwnnw a’r cymorth hwnnw.

(4)Rhaid i awdurdod lleol, wrth arfer ei swyddogaethau eraill, roi sylw i bwysigrwydd cyflawni’r dibenion yn is-adran (2) yn ei ardal.

(5)Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol, wrth arfer ei swyddogaethau, roi sylw i bwysigrwydd cyflawni’r dibenion yn is-adran (2) yn ei ardal.

(6)Wrth gyflawni ei ddyletswydd o dan is-adran (1)—

(a)rhaid i awdurdod lleol nodi’r gwasanaethau sydd eisoes ar gael yn ei ardal a all helpu i sicrhau’r dibenion yn is-adran (2) ac ystyried cynnwys neu ddefnyddio’r gwasanaethau hynny wrth gyflawni’r ddyletswydd;

(b)caiff awdurdod lleol gymryd i ystyriaeth wasanaethau y mae’n barnu y gallai fod yn rhesymol i bersonau eraill eu darparu neu eu trefnu wrth iddo benderfynu beth y dylai ddarparu neu drefnu;

(c)rhaid i awdurdod lleol wneud y defnydd gorau o adnoddau’r awdurdod ac yn benodol osgoi darpariaeth a allai beri gwariant anghymesur.

(7)Nid yw darpariaeth i’w hystyried yn un sy’n peri gwariant anghymesur ond oherwydd bod y ddarpariaeth honno’n ddrutach na darpariaeth gyffelyb.

(8)Caiff dau neu fwy o awdurdodau lleol gyflawni’r ddyletswydd ar y cyd o dan is-adran (1) mewn perthynas â’u hardal gyfun; a phan fônt yn gwneud hynny—

(a)mae cyfeiriadau yn yr adran hon at awdurdod lleol i’w darllen fel cyfeiriadau at yr awdurdodau yn gweithredu ar y cyd, a

(b)mae cyfeiriadau yn yr adran hon at ardal awdurdod lleol i’w darllen fel cyfeiriadau at yr ardal gyfun.

(9)Gweler adrannau 46 (eithriad ar gyfer personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo), 47 (eithriad ar gyfer darparu gwasanaethau iechyd), 48 (eithriad ar gyfer darparu tai etc) a 49 (cyfyngiadau ar ddarparu taliadau) am eithriad i’r ddyletswydd o dan is-adran (1) a chyfyngiadau ar y modd y caniateir i’r ddyletswydd gael ei chyflawni.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I4A. 15 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

16Hyrwyddo mentrau cymdeithasol, mentrau cydweithredol, gwasanaethau sy’n cael eu harwain gan ddefnyddwyr a’r trydydd sectorLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol hyrwyddo—

(a)datblygiad mentrau cymdeithasol yn ei ardal i ddarparu gofal a chymorth a gwasanaethau ataliol;

(b)datblygiad sefydliadau cydweithredol neu drefniadau cydweithredol yn ei ardal i ddarparu gofal a chymorth a gwasanaethau ataliol;

(c)ymglymiad personau y mae gofal a chymorth neu wasanaethau ataliol i’w darparu ar eu cyfer yn y broses o ddylunio a gweithredu’r ddarpariaeth honno;

(d)argaeledd gofal a chymorth a gwasanaethau ataliol yn ei ardal gan sefydliadau trydydd sector (p’un a yw’r sefydliadau yn fentrau cymdeithasol neu’n sefydliadau cydweithredol ai peidio).

(2)Yn yr adran hon—

(3)At ddibenion yr adran hon, caiff rheoliadau ddarparu—

(a)bod gweithgareddau o ddisgrifiad penodedig i’w trin neu ddim i’w trin fel gweithgareddau y gallai person farnu’n rhesymol eu bod yn weithgareddau sy’n cael eu cyflawni er budd y gymdeithas;

(b)bod sefydliadau neu drefniadau o ddisgrifiad penodedig i’w trin neu ddim i’w trin fel—

(i)mentrau cymdeithasol,

(ii)sefydliadau cydweithredol neu drefniadau cydweithredol, neu

(iii)sefydliadau trydydd sector;

(c)ar gyfer yr hyn sydd, neu’r hyn nad yw, neu a gaiff fod, yn gyfystyr ag adran o’r gymdeithas.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I6A. 16 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

17Darparu gwybodaeth, cyngor a chynhorthwyLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol sicrhau y darperir gwasanaeth i roi i bobl—

(a)gwybodaeth a chyngor sy’n ymwneud â gofal a chymorth, a

(b)cynhorthwy i gael gafael ar ofal a chymorth.

(2)Yn is-adran (1)(a), mae “gwybodaeth” yn cynnwys gwybodaeth ariannol (gan gynnwys gwybodaeth am daliadau uniongyrchol), ond nid yw’n gyfyngedig i’r wybodaeth honno.

(3)Rhaid i’r awdurdod lleol geisio sicrhau bod y gwasanaeth—

(a)yn ddigonol i alluogi person i wneud cynlluniau ar gyfer diwallu anghenion am ofal a chymorth a allai godi, a

(b)yn darparu gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy i berson mewn modd sy’n hygyrch i’r person hwnnw.

(4)Rhaid i’r gwasanaeth gynnwys, o leiaf, gyhoeddi gwybodaeth a chyngor am y materion a ganlyn—

(a)y system y darperir ar ei chyfer gan y Ddeddf hon a’r modd y mae’r system yn gweithredu yn ardal yr awdurdod,

(b)y mathau o ofal a chymorth sydd ar gael yn ardal yr awdurdod,

(c)sut i gael gafael ar y gofal a’r cymorth sydd ar gael, a

(d)sut i leisio pryderon am lesiant person y mae’n ymddangos bod arno anghenion am ofal a chymorth.

(5)Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol neu Ymddiriedolaeth GIG sy’n darparu gwasanaethau mewn ardal awdurdod lleol, at ddibenion yr adran hon, ddarparu gwybodaeth i’r awdurdod lleol hwnnw am y gofal a’r cymorth y mae’n eu darparu yn ardal yr awdurdod lleol.

(6)Caiff dau neu fwy o awdurdodau lleol sicrhau ar y cyd fod gwasanaeth yn cael ei ddarparu o dan yr adran hon i’w hardal gyfun; a phan fônt yn gwneud hynny—

(a)mae cyfeiriadau yn yr adran hon at awdurdod lleol i’w darllen fel cyfeiriadau at yr awdurdodau yn gweithredu ar y cyd, a

(b)mae cyfeiriadau yn yr adran hon at ardal awdurdod lleol i’w darllen fel cyfeiriadau at yr ardal gyfun.

(7)Yn yr adran hon, mae “gofal a chymorth” yn cynnwys cymorth i ofalwyr.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I8A. 17 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

18Cofrestrau o bobl â nam ar eu golwg, pobl â nam ar eu clyw a phobl anabl eraillLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol lunio a chynnal cofrestr o’r bobl sy’n preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod ac—

(a)sydd â nam ar eu golwg neu nam difrifol ar eu golwg,

(b)sydd â nam ar eu clyw neu nam difrifol ar eu clyw, neu

(c)sydd â nam ar eu golwg ac ar eu clyw sydd, gyda’i gilydd, yn cael effaith sylweddol ar eu bywydau bob dydd.

(2)Rhaid i’r gofrestr nodi, mewn cysylltiad â phob person sydd wedi ei gynnwys yn y gofrestr—

(a)y paragraff yn is-adran (1) y mae’r person hwnnw yn dod o’i fewn, a

(b)amgylchiadau ieithyddol y person.

(3)Caiff rheoliadau bennu, at ddibenion is-adran (1), gategorïau o bobl sydd i’w trin, neu nad ydynt i’w trin, fel pe baent yn dod o fewn paragraff (a), (b) neu (c) o’r is-adran honno.

(4)Rhaid i awdurdod lleol lunio a chynnal cofrestr o blant y mae is-adran (6) yn gymwys iddynt ac sydd o fewn ardal yr awdurdod lleol.

(5)Caiff awdurdod lleol lunio a chynnal cofrestr o oedolion y mae is-adran (6) yn gymwys iddynt ac sydd yn preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod lleol.

(6)Mae’r is-adran hon yn gymwys i berson—

(a)sy’n anabl,

(b)nad yw’n anabl ond y mae ganddo nam corfforol neu feddyliol sy’n arwain, neu y mae’r awdurdod yn barnu y gall yn y dyfodol arwain, at anghenion am ofal a chymorth, neu

(c)sy’n dod o fewn unrhyw gategori arall o bersonau y mae’r awdurdod yn barnu ei bod yn briodol ei gynnwys mewn cofrestr o bersonau y mae arnynt, neu y mae’r awdurdod yn ystyried y gall fod arnynt yn y dyfodol, anghenion am ofal a chymorth.

(7)O ran awdurdod lleol—

(a)caiff gategoreiddio pobl sydd wedi eu cynnwys mewn cofrestr o dan is-adran (4) neu (5) fel y gwêl yn dda, a

(b)rhaid iddo nodi amgylchiadau ieithyddol y bobl hynny yn y gofrestr berthnasol.

(8)Caniateir i’r cofrestrau a lunnir ac a gedwir o dan yr adran hon gael eu defnyddio wrth arfer swyddogaethau’r awdurdod; er enghraifft, er mwyn—

(a)cynllunio’r modd y mae’r awdurdod yn darparu gwasanaethau i ddiwallu anghenion am ofal a chymorth neu gymorth i ofalwyr, a

(b)monitro newidiadau dros amser yn nifer y bobl yn ardal yr awdurdod y mae arnynt anghenion am ofal a chymorth a’r mathau o anghenion sydd ganddynt hwy neu eu gofalwyr.

(9)Nid oes dim yn yr adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gynnwys unrhyw berson mewn cofrestr a gedwir o dan yr adran hon oni bai—

(a)bod y person wedi gwneud cais i gael ei gynnwys yn y gofrestr, neu

(b)bod cais i’w gynnwys felly wedi ei wneud ar ran y person.

(10)Pan fo awdurdod lleol yn cynnwys person mewn cofrestr a gedwir o dan yr adran hon—

(a)rhaid i’r awdurdod hysbysu’r person ei fod wedi ei gynnwys felly, a

(b)os gwneir cais gan y person neu ar ran y person, rhaid i’r awdurdod ddileu o’r gofrestr unrhyw ddata personol [F6(o fewn ystyr “ personal data ” yn Rhan 5 i 7 o Ddeddf Diogelu Data 2018 (gweler adran 3(2) a (14) o'r Ddeddf honno))] sy’n ymwneud â’r person hwnnw.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I10A. 18 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)