Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 06/04/2016.
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, RHAN 7 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 30 Tachwedd 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau.
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
(1)Mae “oedolyn sy’n wynebu risg”, at ddibenion y Rhan hon, yn oedolyn—
(a)sy’n cael, neu sy’n wynebu risg o gael, ei gam-drin neu ei esgeuluso,
(b)y mae arno anghenion am ofal a chymorth (p’un a yw’r awdurdod yn diwallu unrhyw un neu rai o’r anghenion hynny ai peidio), ac
(c)nad yw’n gallu, o ganlyniad i’r anghenion hynny, amddiffyn ei hun rhag cael, neu’r risg o gael, ei gam-drin neu ei esgeuluso.
(2)Os oes gan awdurdod lleol sail resymol dros gredu bod person o fewn ei ardal (p’un a yw’n preswylio fel arfer yno ai peidio) yn oedolyn sy’n wynebu risg, rhaid iddo—
(a)gwneud unrhyw ymholiadau (neu beri iddynt gael eu gwneud) y mae’n credu eu bod yn angenrheidiol i’w alluogi i benderfynu a ddylid cymryd unrhyw gamau (p’un ai o dan y Ddeddf hon neu fel arall) ac, os felly, pa gamau a chan bwy, a
(b)penderfynu a ddylid cymryd unrhyw gamau o’r fath.
(3)Rhaid i reoliadau a wneir o dan adran 54(5) (cynlluniau gofal a chymorth) gynnwys darpariaeth ynghylch cofnodi mewn cynllun gofal a chymorth ganlyniadau ymholiadau a wneir o dan yr adran hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 126 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
(1)Caiff swyddog awdurdodedig wneud cais i ynad heddwch am orchymyn (“gorchymyn amddiffyn a chynorthwyo oedolyn”) mewn perthynas â pherson sy’n byw mewn unrhyw fangre o fewn ardal awdurdod lleol.
(2)Dibenion gorchymyn amddiffyn a chynorthwyo oedolyn yw—
(a)galluogi’r swyddog awdurdodedig ac unrhyw berson arall sydd gyda’r swyddog i gael sgwrs breifat gyda’r person yr amheuir ei fod yn oedolyn sy’n wynebu risg,
(b)galluogi’r swyddog awdurdodedig i ganfod a yw’r person hwnnw’n gwneud penderfyniadau o’i wirfodd, ac
(c)galluogi’r swyddog awdurdodedig i asesu’n iawn a yw’r person yn oedolyn sy’n wynebu risg ac i wneud penderfyniad fel sy’n ofynnol gan adran 126(2) ynghylch pa gamau, os o gwbl, y dylid eu cymryd.
(3)Pan fo gorchymyn amddiffyn a chynorthwyo oedolyn mewn grym, caiff y swyddog awdurdodedig, cwnstabl ac unrhyw berson penodedig arall sydd gyda’r swyddog hwnnw yn unol â’r gorchymyn, fynd i mewn i’r fangre a bennir yn y gorchymyn at y dibenion a nodir yn is-adran (2).
(4)Caiff yr ynad heddwch wneud gorchymyn amddiffyn a chynorthwyo oedolyn os yw wedi ei fodloni—
(a)bod gan y swyddog awdurdodedig sail resymol dros amau bod y person yn oedolyn sy’n wynebu risg,
(b)ei bod yn angenrheidiol i’r swyddog awdurdodedig gael gweld y person er mwyn asesu’n iawn a yw’r person hwnnw’n oedolyn sy’n wynebu risg a gwneud penderfyniad fel sy’n ofynnol gan adran 126(2) ynghylch pa gamau, os o gwbl, y dylid eu cymryd,
(c)bod gwneud gorchymyn yn angenrheidiol er mwyn cyflawni’r dibenion a nodir yn is-adran (2), a
(d)na fydd arfer y pŵer mynediad a roddir gan y gorchymyn yn peri i’r oedolyn fod mewn mwy o berygl o gael ei gam-drin neu ei esgeuluso.
(5)Rhaid i orchymyn amddiffyn a chynorthwyo oedolyn—
(a)pennu’r fangre y mae’r gorchymyn yn ymwneud â hi;
(b)darparu y caiff cwnstabl fod gyda’r swyddog awdurdodedig;
(c)pennu’r cyfnod pryd y bydd y gorchymyn mewn grym.
(6)Caniateir i amodau eraill gael eu gosod ar orchymyn amddiffyn a chynorthwyo oedolyn, er enghraifft—
(a)pennu cyfyngiadau ar yr amser pan ganiateir i’r pŵer mynediad a roddir gan y gorchymyn gael ei arfer;
(b)darparu i berson penodedig arall fod gyda’r swyddog awdurdodedig;
(c)ei gwneud yn ofynnol i hysbysiad am y gorchymyn gael ei roi i feddiannydd y fangre a’r person yr amheuir ei fod yn oedolyn sy’n wynebu risg.
(7)Caiff cwnstabl sydd gyda’r swyddog awdurdodedig ddefnyddio grym rhesymol os yw’n angenrheidiol er mwyn cyflawni dibenion gorchymyn amddiffyn a chynorthwyo oedolyn fel a nodir yn is-adran (2).
(8)Wrth fynd i mewn i’r fangre yn unol â gorchymyn amddiffyn a chynorthwyo oedolyn rhaid i’r swyddog awdurdodedig—
(a)datgan diben yr ymweliad,
(b)dangos tystiolaeth o’r awdurdodiad i fynd i mewn i’r fangre, ac
(c)rhoi esboniad i feddiannydd y fangre am sut i gwyno ynghylch sut y mae’r pŵer mynediad wedi cael ei arfer.
(9)Yn yr adran hon ystyr “swyddog awdurdodedig” yw person sydd wedi ei awdurdodi gan awdurdod lleol at ddibenion yr adran hon, ond caiff rheoliadau osod cyfyngiadau ar y personau neu’r categorïau o bersonau y caniateir eu hawdurdodi.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 127 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
(1)Os oes gan bartner perthnasol awdurdod lleol sail resymol dros gredu bod person yn oedolyn sy’n wynebu risg, a’i bod yn ymddangos bod y person hwnnw o fewn ardal yr awdurdod, rhaid iddo hysbysu’r awdurdod lleol am y ffaith honno.
(2)Os yw’n ymddangos bod y person, y mae gan y partner perthnasol sail resymol dros gredu bod y person hwnnw yn oedolyn sy’n wynebu risg, o fewn ardal awdurdod lleol ac eithrio un y mae’n bartner perthnasol iddo, rhaid iddo hysbysu’r awdurdod lleol arall hwnnw.
(3)Os oes gan awdurdod lleol sail resymol dros gredu bod person o fewn ei ardal ar unrhyw adeg yn oedolyn sy’n wynebu risg a’i fod yn byw neu’n bwriadu byw yn ardal awdurdod lleol arall (neu awdurdod lleol yn Lloegr), rhaid iddo hysbysu’r awdurdod arall hwnnw.
(4)At ddiben yr adran hon mae partner perthnasol awdurdod lleol yn berson sy’n bartner perthnasol yr awdurdod at ddibenion adran 162.
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 128 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
Nid yw adran 47 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 (sy’n galluogi awdurdodau lleol i wneud cais am orchymyn llys i symud personau y mae arnynt angen gofal a sylw o’u cartrefi i ysbytai neu fannau eraill) bellach yn gymwys i bersonau yng Nghymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I7A. 129 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
(1)Os oes gan bartner perthnasol awdurdod lleol sail resymol dros gredu bod plentyn yn blentyn sy’n wynebu risg, a’i bod yn ymddangos bod y plentyn hwnnw o fewn ardal yr awdurdod, rhaid iddo hysbysu’r awdurdod lleol am y ffaith honno.
(2)Os yw’n ymddangos bod y plentyn, y mae gan y partner perthnasol sail resymol dros gredu bod y plentyn hwnnw yn blentyn sy’n wynebu risg, o fewn ardal awdurdod lleol ac eithrio un y mae’n bartner perthnasol iddo, rhaid iddo hysbysu’r awdurdod lleol arall hwnnw.
(3)Os oes gan awdurdod lleol sail resymol dros gredu bod plentyn o fewn ei ardal ar unrhyw adeg yn blentyn sy’n wynebu risg a’i fod yn byw neu’n bwriadu byw o fewn ardal awdurdod lleol arall (neu awdurdod lleol yn Lloegr), rhaid iddo hysbysu’r awdurdod arall hwnnw.
(4)Yn yr adran hon, “plentyn sy’n wynebu risg” yw plentyn—
(a)sy’n cael, neu sy’n wynebu risg o gael, ei gam-drin neu ei esgeuluso neu ddioddef mathau eraill o niwed, a
(b)y mae arno anghenion am ofal a chymorth (p’un a yw’r awdurdod yn diwallu unrhyw un neu rai o’r anghenion hynny ai peidio).
(5)At ddibenion yr adran hon mae partner perthnasol awdurdod lleol yn—
(a)person sy’n bartner perthnasol yr awdurdod lleol at ddibenion adran 162;
(b)tîm troseddwyr ifanc ar gyfer ardal y mae unrhyw ran ohoni yn dod o fewn ardal yr awdurdod.
(6)Am ddarpariaeth ynghylch dyletswydd awdurdod lleol i ymchwilio i blant sy’n wynebu risg, gweler adran 47 o Ddeddf Plant 1989.
Gwybodaeth Cychwyn
I9A. 130 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
(1)Rhaid i’r canlynol, wrth arfer eu swyddogaethau o dan adrannau 126 i 128 a 130, roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir iddynt at y diben gan Weinidogion Cymru—
(a)awdurdod lleol;
(b)person sy’n swyddog awdurdodedig at ddibenion adran 127;
(c)cwnstabl neu berson penodedig arall sydd gyda swyddog awdurdodedig yn unol â gorchymyn amddiffyn a chynorthwyo oedolyn a wneir o dan adran 127;
(d)person sy’n bartner perthnasol at ddibenion adran 128 neu 130.
(2)Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Ysgrifennydd Gwladol cyn rhoi canllawiau o dan is-adran (1).
Gwybodaeth Cychwyn
I11A. 131 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
(1)Bydd bwrdd o’r enw’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol (y cyfeirir ato yn y Rhan hon fel “y Bwrdd Cenedlaethol”).
(2)Dyletswyddau’r Bwrdd Cenedlaethol yw—
(a)rhoi cymorth a chyngor i Fyrddau Diogelu gyda golwg ar sicrhau eu bod yn effeithiol,
(b)cyflwyno adroddiadau am ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd trefniadau i ddiogelu plant ac oedolion yng Nghymru, ac
(c)gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru ynghylch sut y gellid gwella’r trefniadau hynny.
(3)O ran y Bwrdd Cenedlaethol—
(a)rhaid iddo gyflwyno adroddiad blynyddol i Weinidogion Cymru,
(b)rhaid iddo gyflwyno unrhyw adroddiadau eraill i Weinidogion Cymru y byddant yn eu mynnu, ac
(c)caiff gyflwyno unrhyw adroddiadau eraill y gwêl yn dda.
(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach am y Bwrdd Cenedlaethol.
(2)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon ddarparu, er enghraifft, ar gyfer y canlynol—
(a)cyfansoddiad ac aelodaeth y Bwrdd Cenedlaethol (gan gynnwys darpariaeth ynghylch telerau penodi, anghymhwyso, ymddiswyddo, atal neu symud aelodau o’u swydd);
(b)y tâl a’r lwfansau sydd i’w talu i aelodau;
(c)trafodion y Bwrdd Cenedlaethol;
(d)bod y Bwrdd Cenedlaethol yn ymgynghori â’r rhai y gallai trefniadau i ddiogelu oedolion a phlant yng Nghymru effeithio arnynt;
(e)ffurf, cynnwys ac amseriad adroddiadau’r Bwrdd Cenedlaethol;
(f)cyhoeddi adroddiadau’r Bwrdd Cenedlaethol.
(3)Ni chaiff rheoliadau o dan yr adran hon ddarparu i Weinidog y Goron fod yn aelod o’r Bwrdd Cenedlaethol.
(1)Rhaid i reoliadau nodi’r ardaloedd hynny yng Nghymru (“ardaloedd Byrddau Diogelu”) y bydd Byrddau Diogelu ar eu cyfer.
(2)Mae pob un o’r canlynol yn bartner Bwrdd Diogelu mewn perthynas ag ardal Bwrdd Diogelu—
(a)yr awdurdod lleol dros ardal y mae unrhyw ran ohoni o fewn yr ardal Bwrdd Diogelu;
(b)prif swyddog yr heddlu ar gyfer ardal heddlu y mae unrhyw ran ohoni o fewn yr ardal Bwrdd Diogelu;
(c)Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer ardal y mae unrhyw ran ohoni o fewn yr ardal Bwrdd Diogelu;
(d)[F1Ymddiriedolaeth GIG] sy’n darparu gwasanaethau yn yr ardal Bwrdd Diogelu;
(e)yr Ysgrifennydd Gwladol i’r graddau y mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn cyflawni swyddogaethau o dan adrannau 2 a 3 o Ddeddf Rheoli Troseddwyr 2007 o ran Cymru;
(f)unrhyw ddarparwr gwasanaethau prawf y mae’n ofynnol iddo gan drefniadau o dan adran 3(2) o Ddeddf Rheoli Troseddwyr 2007 weithredu fel partner Bwrdd Diogelu mewn perthynas â’r ardal Bwrdd Diogelu.
(3)Ar ôl ymgynghori â’r partneriaid Bwrdd Diogelu ar gyfer ardal, rhaid i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, bennu—
(a)partner Bwrdd Diogelu fel y partner arweiniol ar gyfer yr ardal mewn perthynas â phlant, a
(b)partner Bwrdd Diogelu fel y partner arweiniol ar gyfer yr ardal mewn perthynas ag oedolion.
(4)Rhaid i’r partner arweiniol mewn perthynas â phlant sefydlu Bwrdd Diogelu Plant ar gyfer ei ardal Bwrdd Diogelu.
(5)Rhaid i’r partner arweiniol mewn perthynas ag oedolion sefydlu Bwrdd Diogelu Oedolion ar gyfer ei ardal Bwrdd Diogelu.
(6)Rhaid i Fwrdd Diogelu gynnwys—
(a)cynrychiolydd i bob partner Bwrdd Diogelu a grybwyllwyd yn is-adran (2) mewn perthynas ag ardal y Bwrdd Diogelu, a
(b)cynrychiolydd unrhyw berson neu gynrychiolydd i gorff arall a bennir mewn rheoliadau fel partner Bwrdd Diogelu mewn perthynas ag ardal y Bwrdd Diogelu.
(7)Ni chaiff rheoliadau o dan is-adran (6)(b) bennu person neu gorff fel partner Bwrdd Diogelu ond os yw’r person neu’r corff hwnnw yn arfer swyddogaethau o dan ddeddfiad mewn perthynas â phlant yng Nghymru neu, yn ôl y digwydd, oedolion yng Nghymru.
(8)Ni chaiff rheoliadau o dan is-adran (6)(b) bennu un o Weinidogion y [F2 Goron,] llywodraethwr carchar neu ganolfan hyfforddi ddiogel (neu, yn achos carchar sydd wedi ei gontractio allan neu ganolfan hyfforddi ddiogel sydd wedi ei chontractio allan, y cyfarwyddwr) [F3na phennaeth coleg diogel] fel partner Bwrdd Diogelu oni bai bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn cydsynio.
(9)Caiff Bwrdd Diogelu gynnwys cynrychiolwyr unrhyw bersonau neu gyrff eraill, a’r rheini’n bersonau neu’n gyrff a grybwyllir yn is-adran (10), y mae’r Bwrdd o’r farn y dylent gael eu cynrychioli arno.
(10)Mae’r personau neu’r cyrff hynny’n bersonau ac yn gyrff o unrhyw natur sy’n arfer swyddogaethau neu sy’n ymgymryd â gweithgareddau sy’n ymwneud â phlant neu oedolion (yn ôl y digwydd) yn yr ardal Bwrdd Diogelu o dan sylw.
(11)Yn yr adran hon—
(a)mae cyfeiriad at garchar yn cynnwys sefydliad troseddwyr ifanc;
(b)mae i gyfeiriad at ganolfan hyfforddi ddiogel wedi ei chontractio allan yr ystyr a roddir i “contracted out secure training centre” gan adran 15 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994;
(c)mae i gyfeiriad at garchar sydd wedi ei gontractio allan yr ystyr a roddir i “contracted out prison” gan adran 84(4) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1991.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 134(2)(d) wedi eu hamnewid (6.4.2016) gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413), rhlau. 2(1), 309
F2Gair yn a. 134(8) wedi ei amnewid (20.3.2015) gan Criminal Justice and Courts Act 2015 (c. 2), a. 95(1), Atod. 9 para. 32(3)(a); O.S. 2015/778, ergl. 2(1)(c)
F3Geiriau yn a. 134(8) wedi eu mewnosod (20.3.2015) gan Criminal Justice and Courts Act 2015 (c. 2), a. 95(1), Atod. 9 para. 32(3)(b); O.S. 2015/778, ergl. 2(1)(c)
Gwybodaeth Cychwyn
I15A. 134 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
(1)Amcanion Bwrdd Diogelu Plant yw—
(a)amddiffyn plant o fewn ei ardal sy’n cael, neu sy’n wynebu risg o gael, eu cam-drin, eu hesgeuluso, neu ddioddef mathau eraill o niwed, a
(b)atal plant o fewn ei ardal rhag dod yn rhai sy’n wynebu risg o gael eu cam-drin, eu hesgeuluso neu ddioddef mathau eraill o niwed.
(2)Amcanion Bwrdd Diogelu Oedolion yw—
(a)amddiffyn oedolion o fewn ei ardal—
(i)y mae arnynt anghenion am ofal a chymorth (p’un a yw awdurdod lleol yn diwallu unrhyw un neu rai o’r anghenion hynny ai peidio), a
(ii)sy’n cael, neu sy’n wynebu risg o gael, eu cam-drin neu eu hesgeuluso, a
(b)atal yr oedolion hynny o fewn ei ardal y soniwyd amdanynt ym mharagraff (a)(i) rhag dod yn rhai sy’n wynebu risg o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso.
(3)Rhaid i Fwrdd Diogelu geisio sicrhau ei amcanion drwy gydgysylltu’r hyn a wneir gan bob person neu gorff a gynrychiolir ar y Bwrdd a gwneud yn siŵr ei fod yn effeithiol.
(4)Rhaid i reoliadau—
(a)darparu i Fwrdd Diogelu gael swyddogaethau sy’n ymwneud â’i amcanion (gan gynnwys, er enghraifft, swyddogaethau adolygu neu ymchwilio);
(b)gwneud darpariaeth ynghylch y gweithdrefnau sydd i’w dilyn gan Fwrdd Diogelu;
(c)pennu pryd a sut y mae’n rhaid i blant neu oedolion y mae swyddogaethau Bwrdd Diogelu yn effeithio arnynt, neu y gallent effeithio arnynt gael cyfle i gymryd rhan yng ngwaith y Bwrdd.
(5)Caiff Bwrdd Diogelu gydweithredu ag un neu fwy o Fyrddau Diogelu eraill.
(6)Caiff Bwrdd Diogelu weithredu ar y cyd ag un neu fwy o Fyrddau Diogelu eraill mewn perthynas â’u hardaloedd cyfun ac os byddant yn gwneud hynny—
(a)mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at Fwrdd Diogelu i’w darllen fel cyfeiriadau at y Byrddau sy’n gweithredu ar y cyd, a
(b)mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at ardal Bwrdd Diogelu i’w darllen fel cyfeiriadau at yr ardal gyfun.
(7)Caiff y Bwrdd Diogelu Plant a’r Bwrdd Diogelu Oedolion ar gyfer ardal ffurfio cyd-fwrdd ar gyfer yr ardal, ac os ydynt yn gwneud hynny—
(a)mae’r cyd-fwrdd i gael yr amcanion yn is-adrannau (1) a (2), a
(b)mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at Fwrdd Diogelu i’w darllen fel cyfeiriadau at y cyd-fwrdd.
Gwybodaeth Cychwyn
I17A. 135 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
(1)Cyn dechrau pob blwyddyn ariannol rhaid i Fwrdd Diogelu gyhoeddi cynllun (ei “gynllun blynyddol”) yn nodi ei gynigion ar gyfer cyflawni ei amcanion yn y flwyddyn honno.
(2)Erbyn 31 Gorffennaf bob blwyddyn fan bellaf, rhaid i Fwrdd Diogelu gyhoeddi adroddiad ynghylch—
(a)sut y mae wedi arfer ei swyddogaethau yn y flwyddyn ariannol flaenorol, a
(b)i ba raddau y mae wedi gweithredu’r cynigion yn ei gynllun blynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol flaenorol.
(3)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach ynghylch gwneud cynlluniau a llunio adroddiadau o dan yr adran hon (gan gynnwys darpariaeth ynghylch eu ffurf a’u cynnwys a sut dylid eu cyhoeddi).
(4)Yn yr adran hon ystyr “blwyddyn ariannol” yw’r deuddeng mis sy’n dod i ben ar 31 Mawrth.
Gwybodaeth Cychwyn
I19A. 136 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
(1)Caiff Bwrdd Diogelu, at ddibenion galluogi neu gynorthwyo’r Bwrdd i gyflawni ei swyddogaethau, ofyn i berson neu gorff cymhwysol gyflenwi gwybodaeth benodedig y mae is-adran (2) neu (3) yn gymwys iddi—
(a)i’r Bwrdd, neu
(b)i berson neu gorff a bennir gan y Bwrdd.
(2)Mae’r is-adran hon yn gymwys i wybodaeth sy’n ymwneud â’r canlynol—
(a)y person neu’r corff cymhwysol y gwneir cais iddo,
(b)swyddogaeth neu weithgaredd y person neu’r corff cymhwysol hwnnw, neu
(c)person y mae swyddogaeth yn arferadwy mewn cysylltiad ag ef, neu weithgaredd yr ymgymerir ag ef, gan y person neu’r corff cymhwysol hwnnw.
(3)Mae’r is-adran hon yn gymwys i wybodaeth—
(a)sydd wedi ei chyflenwi i’r person neu’r corff cymhwysol yn unol â chais arall o dan yr adran hon, neu
(b)sydd wedi ei deillio o wybodaeth a gyflenwyd yn y modd hwnnw.
(4)Rhaid i’r person neu’r corff cymhwysol y gwneir cais iddo o dan is-adran (1) gydymffurfio â’r cais oni bai bod y person neu’r corff o’r farn y byddai gwneud hynny—
(a)yn anghydnaws â dyletswyddau’r person neu’r corff, neu
(b)fel arall yn cael effaith andwyol ar arfer swyddogaethau’r person neu’r corff.
(5)Rhaid i berson neu gorff cymhwysol sy’n penderfynu peidio â chydymffurfio â chais o dan is-adran (1) roi i’r Bwrdd Diogelu a wnaeth y cais resymau ysgrifenedig dros y penderfyniad.
(6)Ni chaiff gwybodaeth a gyflenwir o dan yr adran hon gael ei defnyddio ond gan y Bwrdd neu berson neu gorff arall y caiff ei chyflenwi iddo at y diben a grybwyllwyd yn is-adran (1).
(7)Yn yr adran hon—
ystyr “penodedig” ac “a bennir” (“specified”) yw wedi ei bennu mewn cais a wneir o dan is-adran (1);
ystyr “person neu gorff cymhwysol” (“qualifying person or body”) yw person neu gorff y mae ei swyddogaethau neu ei weithgareddau yn cael eu hystyried gan y Bwrdd yn rhai sy’n golygu bod y person neu’r corff yn debygol o feddu ar wybodaeth sy’n berthnasol i arfer un o swyddogaethau’r Bwrdd.
Gwybodaeth Cychwyn
I21A. 137 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
(1)Caiff partner Bwrdd Diogelu wneud taliadau tuag at wariant a dynnir gan y Bwrdd Diogelu, neu at ddibenion sy’n gysylltiedig â’r Bwrdd Diogelu, y mae’r partner wedi ei gynrychioli arno—
(a)drwy wneud y taliadau’n uniongyrchol, neu
(b)drwy gyfrannu at gronfa y caniateir i’r taliadau gael eu gwneud ohoni.
(2)Caiff partner Bwrdd Diogelu ddarparu staff, nwyddau, gwasanaethau, llety neu adnoddau eraill at ddibenion sy’n gysylltiedig â’r Bwrdd Diogelu y mae’r partner wedi ei gynrychioli arno.
(3)Caiff rheoliadau—
(a)ei gwneud yn ofynnol bod taliadau’n cael eu gwneud gan bartner Bwrdd Diogelu tuag at wariant a dynnir gan y Bwrdd Diogelu, neu at ddibenion sy’n gysylltiedig â’r Bwrdd Diogelu, y mae’r partner wedi ei gynrychioli arno, a
(b)darparu ar gyfer sut y mae swm y taliadau hynny i’w ddyfarnu mewn cysylltiad â chyfnod penodedig.
(4)Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Ysgrifennydd Gwladol cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (3) sy’n ei gwneud yn ofynnol bod taliadau yn cael eu gwneud gan bartner Bwrdd Diogelu a grybwyllwyd yn adran 134(2)(b), (e) neu (f).
Gwybodaeth Cychwyn
I23A. 138 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
(1)Rhaid i Fwrdd Diogelu gydweithredu â’r Bwrdd Cenedlaethol, a rhaid iddo gyflenwi i’r Bwrdd Cenedlaethol unrhyw wybodaeth y mae’n gofyn amdani.
(2)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch swyddogaethau partneriaid Byrddau Diogelu sy’n ymwneud â’r Byrddau Diogelu y mae’r partneriaid wedi eu cynrychioli arnynt.
(3)Rhaid i bartner Bwrdd Diogelu, wrth arfer ei swyddogaethau sy’n ymwneud â Bwrdd Diogelu, roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.
(4)Rhaid i bob partner Bwrdd Diogelu gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod y Bwrdd Diogelu y mae wedi ei gynrychioli arno’n gweithredu’n effeithiol.
Gwybodaeth Cychwyn
I25A. 139 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn ddarparu bod y Bwrdd Diogelu Plant a’r Bwrdd Diogelu Oedolion ym mhob ardal Bwrdd Diogelu i uno i greu un Bwrdd Diogelu ar gyfer yr ardal (“Bwrdd Diogelu Plant ac Oedolion”).
(2)Caiff gorchymyn o dan yr adran hon—
(a)diwygio unrhyw ddarpariaeth yn y Rhan hon o ganlyniad i greu un Bwrdd Diogelu Plant ac Oedolion ar gyfer pob ardal Bwrdd Diogelu, a
(b)gwneud darpariaethau canlyniadol eraill gan gynnwys diwygio unrhyw ddeddfiad arall (pa bryd bynnag y bydd wedi ei basio neu ei wneud).
Gwybodaeth Cychwyn
I27A. 140 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
(1)Cyn gwneud gorchymyn o dan adran 140, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ar y gorchymyn drafft arfaethedig â’r canlynol—
(a)pob partner Bwrdd Diogelu ar gyfer yr ardal Bwrdd Diogelu y mae’r gorchymyn arfaethedig yn ymwneud â hi,
(b)yr Ysgrifennydd Gwladol, ac
(c)unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.
(2)Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)rhoi cyfnod o 12 wythnos o leiaf i’r personau hynny i gyflwyno sylwadau ar y gorchymyn drafft arfaethedig,
(b)ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynir o fewn y cyfnod hwnnw, ac
(c)cyhoeddi crynodeb o’r sylwadau hynny.
(3)Os yw Gweinidogion Cymru, ar ôl yr ymgynghoriad hwnnw, yn dymuno bwrw ymlaen i wneud gorchymyn o dan adran 140, rhaid iddynt osod gorchymyn drafft gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
(4)O ran gorchymyn drafft a osodir o dan is-adran (3)—
(a)rhaid iddo fynd gyda datganiad gan Weinidogion Cymru yn rhoi manylion unrhyw wahaniaethau rhwng y gorchymyn drafft yr ymgynghorwyd arno o dan is-adran (1) a’r gorchymyn drafft a osodir o dan is-adran (3), a
(b)ni chaniateir iddo gael ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 196(6) tan ar ôl i’r cyfnod o 60 niwrnod, yn dechrau ar y diwrnod y gosodir y gorchymyn drafft, ddod i ben.
Gwybodaeth Cychwyn
I29A. 141 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
Yn y Rhan hon—
ystyr “ardal Bwrdd Diogelu” (“Safeguarding Board area”) yw ardal a nodir mewn rheoliadau o dan adran 134(1);
ystyr “Bwrdd Cenedlaethol” (“National Board”) yw’r Bwrdd Cenedlaethol Annibynnol Cenedlaethol y cyfeirir ato yn adran 132;
ystyr “Bwrdd Diogelu” (“Safeguarding Board”) yw Bwrdd Diogelu Plant neu Fwrdd Diogelu Oedolion a sefydlir o dan adran 134 (ac mae cyfeiriadau at ardal Bwrdd Diogelu yn gyfeiriadau at yr ardal Bwrdd Diogelu y mae wedi ei sefydlu ar ei chyfer);
ystyr “partner Bwrdd Diogelu” (“Safeguarding Board partner”) yw person neu gorff a grybwyllir yn adran 134(2) neu mewn rheoliadau a wneir o dan adran 134(6)(b) (ac mae cyfeiriadau at ardal partner Bwrdd Diogelu yn gyfeiriadau at yr ardal Bwrdd Diogelu y mae’n bartner Bwrdd Diogelu iddo).
The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
Y Ddeddf Gyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Y Ddeddf Gyfan heb Atodlenni you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Pwynt Penodol mewn Amser: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the National Assembly for Wales.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys