xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
( a gyflwynwyd gan adran 143)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
Y deddfiad | Natur y swyddogaethau |
---|---|
Deddf Plant a Phobl Ifanc 1933 Adrannau 34 a 34A | Amddiffyn yr ifanc mewn perthynas ag achosion troseddol a diannod. |
Deddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968 Adran 65 | Cymorth ariannol a chymorth arall a roddir gan awdurdodau lleol i sefydliadau gwirfoddol penodol. |
Deddf Plant a Phobl Ifanc 1969 Y Ddeddf gyfan | Gofal a dulliau eraill o ymdrin â phlant a phersonau ifanc yn ystod achosion llys. |
Deddf Mabwysiadu 1976 | Swyddogaethau sy’n parhau i fod yn arferadwy yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed a wneir gan neu o dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002. |
Deddf Iechyd Meddwl 1983 Rhannau 2, 3 a 4; Adrannau 66, 67, 69(1), 114, 115, 116, 117 a 130 | Lles y rhai hynny sydd ag anhwylder meddwl; gwarcheidiaeth personau sy’n dioddef gan anhwylder meddwl gan gynnwys y personau hynny sydd wedi eu symud i Gymru a Lloegr o’r Alban neu o Ogledd Iwerddon; arfer swyddogaethau perthynas agosaf y person sy’n dioddef felly; arfer swyddogaethau’r perthynas agosaf mewn perthynas â cheisiadau a chyfeiriadau at y Tribiwnlys Haen Gyntaf neu Dribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru; penodi gweithwyr iechyd meddwl sydd wedi eu cymeradwyo; mynd i mewn ac arolygu; lles ysbytai penodol; ôl-ofal cleifion a gedwir yn gaeth; erlyniadau. |
Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 Adran 46(2) a (5) | Claddu neu amlosgi person sy’n marw mewn llety a ddarperir o dan [F1Ran 4] o’r Ddeddf hon ac adennill treuliau o ystad y person hwnnw. |
Deddf Iechyd Meddwl (Yr Alban) 1984 Adran 10 | Lles personau penodol tra bônt yn yr ysbyty yn yr Alban. |
Deddf Personau Anabl (Gwasanaethau, Ymgynghori a Chynrychioli) 1986 [F2Adrannau 1, 2 a 5(5)] | Cynrychioli ac asesu personau anabl. |
Deddf Tai (Yr Alban) 1987 Adran 38(b) | Cydweithredu mewn perthynas â phersonau digartref a phersonau sydd o dan fygythiad o gael eu gwneud yn ddigartref. |
[F3Deddf Plant 1989 Y Ddeddf gyfan i’r graddau y mae’n rhoi swyddogaethau i awdurdod lleol yng Nghymru o fewn ystyr y Ddeddf ac eithrio— (a) Rhan 3 ac Atodlen 2 (cymorth awdurdod lleol i blant a theuluoedd); (b) adran 36 a pharagraffau 12 i 19(1) o Atodlen 3 (gorchmynion goruchwylio addysg).] | [F3Adroddiadau lles; cydsynio i gais am orchymyn preswylio mewn cysylltiad â phlentyn mewn gofal; swyddogaethau sy’n ymwneud â gorchmynion gwarcheidiaeth arbennig; gorchmynion cymorth teulu; gofal a goruchwylio; amddiffyn plant; swyddogaethau mewn perthynas â chartrefi cymunedol, cartrefi gwirfoddol a sefydliadau gwirfoddol, cartrefi plant preifat, a threfniadau preifat ar gyfer maethu plant; arolygu cartrefi plant ar ran Gweinidogion Cymru; ymchwil a dychwelebau gwybodaeth.] |
[F4Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal yn y Gymuned 1990 Adran 47] | [F4Asesiad o anghenion am wasanaethau o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.] |
F5. . . | F5. . . |
Deddf Addysg 1996 Adran 322 | Cymorth i awdurdod lleol arall wrth iddo arfer ei swyddogaethau o dan Ran 4 o’r Ddeddf. |
Deddf Mabwysiadu (Agweddau Rhwng Gwledydd) 1999 Adrannau 1 a 2(4) | Swyddogaethau o dan reoliadau a wnaed o dan adran 1 yn rhoi effaith i’r Confensiwn ar Amddiffyn Plant a Chydweithredu mewn cysylltiad â Mabwysiadu Rhwng Gwledydd, a gwblhawyd yn yr Hag ar 29 Mai 1993, a swyddogaethau o dan Erthygl 9(a) i (c) o’r Confensiwn. |
Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 | Cynnal Gwasanaeth Mabwysiadu; swyddogaethau awdurdod lleol fel asiantaeth fabwysiadu. |
Deddf Gofal Cymunedol (Rhyddhau Gohiriedig etc) 2003 Rhan 1 | Swyddogaethau sy’n ymwneud â chleifion mewn ysbytai y mae’n debygol y bydd angen gwasanaethau gofal cymunedol arnynt er mwyn eu rhyddhau o’r ysbyty yn ddiogel. |
Deddf Galluedd Meddyliol 2005 Adrannau 39, 39A, 39C, 39D, 49 ac Atodlen A1 | Cyfarwyddo eiriolwr galluedd meddyliol annibynnol cyn darparu llety i berson nad oes ganddo alluedd; cyfarwyddo eiriolwr galluedd meddyliol annibynnol wrth roi awdurdodiad brys, neu wrth wneud cais am awdurdodiad safonol, o dan Atodlen A1 i’r Ddeddf; cyfarwyddo eiriolwr galluedd meddyliol annibynnol pan na fo cynrychiolydd ar gael ar gyfer person perthnasol o dan Ran 10 o Atodlen A1 i’r Ddeddf; cyfarwyddo eiriolwr galluedd meddyliol annibynnol pan na fo cynrychiolydd ar gyfer person perthnasol o dan Ran 10 o Atodlen A1 i’r Ddeddf yn cael ei dalu; adroddiadau mewn achosion cyfreithiol; swyddogaethau sy’n ymwneud â phreswylwyr ysbytai a chartrefi gofal. |
Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 Adran 66 | Swyddogion safonau gwaith cymdeithasol teuluol. |
[F6Adran 67] | [F6Y ddarpariaeth o wasanaethau gofal perthnasol o fewn ystyr yr adran honno.] |
Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 Rhannau 1 i 3 | Gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol, cydgysylltu a chynllunio gofal ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd, asesu defnyddwyr blaenorol gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd. |
Deddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012 Adran 92 | Swyddogaethau mewn perthynas â phlentyn sydd wedi ei remandio i lety awdurdod lleol. |
Deddf Gofal 2014 Adrannau 50 a 52 | Dyletswydd dros dro i ddiwallu anghenion am ofal a chymorth (neu anghenion am gymorth) pan fo sefydliad neu asiantaeth yn methu â’u diwallu oherwydd methiant busnes. |
[F7Deddf Tai (Cymru) 2014 Adran 95(2),(3) a (4); ond dim ond pan fo’r swyddogaethau hynny’n gymwys yn rhinwedd is-adran (5)(b) o’r adran honno.] | [F7Cydweithredu a rhannu gwybodaeth mewn perthynas â phersonau digartref a phersonau sydd o dan fygythiad o gael eu gwneud yn ddigartref. ] |
Y Ddeddf hon Y Ddeddf gyfan, ac eithrio’r swyddogaethau o dan adrannau 15(4) (i’r graddau y mae’n ymwneud â swyddogaethau eraill nad ydynt yn rhai gwasanaethau cymdeithasol), 120(2), 128(1) a (2), 130(1) a (2), 162 ac adran 164. | Gwasanaethau ataliol; gofal a chymorth; cymorth i ofalwyr; plant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletya; diogelu oedolion a phlant. |
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn Atod. 2 wedi eu hamnewid (6.4.2016) gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413), rhlau. 2(1), 324(a)
F2Geiriau yn Atod. 2 wedi eu hamnewid (6.4.2016) gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413), rhlau. 2(1), 324(b)
F3Geiriau yn Atod. 2 wedi eu hamnewid (6.4.2016) gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413), rhlau. 2(1), 324(c)
F4Geiriau yn Atod. 2 wedi eu mewnosod (6.4.2016) gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413), rhlau. 2(1), 324(d)
F5Geiriau yn Atod. 2 wedi eu hepgor (27.4.2015) yn rhinwedd Deddf Tai (Cymru) 2014 (anaw 7), a. 145(3), Atod. 3 para. 22(3)(a); O.S. 2015/1272, ergl. 2, Atod. para. 53
F6Geiriau yn Atod. 2 wedi eu mewnosod (6.4.2016) gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413), rhlau. 2(1), 324(e)
F7Geiriau yn Atod. 2 wedi eu mewnosod (27.4.2015) gan Deddf Tai (Cymru) 2014 (anaw 7), a. 145(3), Atod. 3 para. 22(3)(b); O.S. 2015/1272, ergl. 2, Atod. para. 53