- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Deddfwyd) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Deddfwyd) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
( a gyflwynwyd gan adran 143)
Y deddfiad | Natur y swyddogaethau |
---|---|
Deddf Plant a Phobl Ifanc 1933 Adrannau 34 a 34A | Amddiffyn yr ifanc mewn perthynas ag achosion troseddol a diannod. |
Deddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968 Adran 65 | Cymorth ariannol a chymorth arall a roddir gan awdurdodau lleol i sefydliadau gwirfoddol penodol. |
Deddf Plant a Phobl Ifanc 1969 Y Ddeddf gyfan | Gofal a dulliau eraill o ymdrin â phlant a phersonau ifanc yn ystod achosion llys. |
Deddf Mabwysiadu 1976 | Swyddogaethau sy’n parhau i fod yn arferadwy yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed a wneir gan neu o dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002. |
Deddf Iechyd Meddwl 1983 Rhannau 2, 3 a 4; Adrannau 66, 67, 69(1), 114, 115, 116, 117 a 130 | Lles y rhai hynny sydd ag anhwylder meddwl; gwarcheidiaeth personau sy’n dioddef gan anhwylder meddwl gan gynnwys y personau hynny sydd wedi eu symud i Gymru a Lloegr o’r Alban neu o Ogledd Iwerddon; arfer swyddogaethau perthynas agosaf y person sy’n dioddef felly; arfer swyddogaethau’r perthynas agosaf mewn perthynas â cheisiadau a chyfeiriadau at y Tribiwnlys Haen Gyntaf neu Dribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru; penodi gweithwyr iechyd meddwl sydd wedi eu cymeradwyo; mynd i mewn ac arolygu; lles ysbytai penodol; ôl-ofal cleifion a gedwir yn gaeth; erlyniadau. |
Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 Adran 46(2) a (5) | Claddu neu amlosgi person sy’n marw mewn llety a ddarperir o dan Ran 2 o’r Ddeddf hon ac adennill treuliau o ystad y person hwnnw. |
Deddf Iechyd Meddwl (Yr Alban) 1984 Adran 10 | Lles personau penodol tra bônt yn yr ysbyty yn yr Alban. |
Deddf Personau Anabl (Gwasanaethau, Ymgynghori a Chynrychioli) 1986 Adrannau 1 i 3 a 5(5) | Cynrychioli ac asesu personau anabl. |
Deddf Tai (Yr Alban) 1987 Adran 38(b) | Cydweithredu mewn perthynas â phersonau digartref a phersonau sydd o dan fygythiad o gael eu gwneud yn ddigartref. |
Deddf Plant 1989 Y Ddeddf gyfan ac eithrio adran 36 a pharagraffau 12 i 19(1) o Atodlen 3 (gorchmynion goruchwylio addysg), i’r graddau y mae’n rhoi swyddogaethau i awdurdod lleol o fewn ystyr y Ddeddf honno. | Adroddiadau lles; cydsynio i gais am orchymyn preswylio mewn perthynas â phlentyn mewn gofal; swyddogaethau sy’n ymwneud â gorchmynion gwarcheidiaeth arbennig; gorchmynion cymorth teulu; gofal a goruchwylio; amddiffyn plant; swyddogaethau mewn perthynas â chartrefi cymunedol, cartrefi gwirfoddol a sefydliadau gwirfoddol, cartrefi plant cofrestredig, a threfniadau preifat ar gyfer maethu plant; arolygu cartrefi plant ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol; ymchwil a dychwelebau gwybodaeth; swyddogaethau mewn perthynas â phlant sy’n cael eu lletya gan Fyrddau Iechyd Lleol, Ymddiriedolaethau Gofal Sylfaenol, ymddiriedolaethau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol neu awdurdodau lleol wrth iddynt arfer eu swyddogaethau addysg neu mewn cartrefi gofal, ysgolion neu ysbytai annibynnol. |
Deddf Tai 1996 Adran 213(1)(b) | Cydweithredu mewn perthynas â phersonau digartref a phersonau sydd o dan fygythiad o gael eu gwneud yn ddigartref. |
Deddf Addysg 1996 Adran 322 | Cymorth i awdurdod lleol arall wrth iddo arfer ei swyddogaethau o dan Ran 4 o’r Ddeddf. |
Deddf Mabwysiadu (Agweddau Rhwng Gwledydd) 1999 Adrannau 1 a 2(4) | Swyddogaethau o dan reoliadau a wnaed o dan adran 1 yn rhoi effaith i’r Confensiwn ar Amddiffyn Plant a Chydweithredu mewn cysylltiad â Mabwysiadu Rhwng Gwledydd, a gwblhawyd yn yr Hag ar 29 Mai 1993, a swyddogaethau o dan Erthygl 9(a) i (c) o’r Confensiwn. |
Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 | Cynnal Gwasanaeth Mabwysiadu; swyddogaethau awdurdod lleol fel asiantaeth fabwysiadu. |
Deddf Gofal Cymunedol (Rhyddhau Gohiriedig etc) 2003 Rhan 1 | Swyddogaethau sy’n ymwneud â chleifion mewn ysbytai y mae’n debygol y bydd angen gwasanaethau gofal cymunedol arnynt er mwyn eu rhyddhau o’r ysbyty yn ddiogel. |
Deddf Galluedd Meddyliol 2005 Adrannau 39, 39A, 39C, 39D, 49 ac Atodlen A1 | Cyfarwyddo eiriolwr galluedd meddyliol annibynnol cyn darparu llety i berson nad oes ganddo alluedd; cyfarwyddo eiriolwr galluedd meddyliol annibynnol wrth roi awdurdodiad brys, neu wrth wneud cais am awdurdodiad safonol, o dan Atodlen A1 i’r Ddeddf; cyfarwyddo eiriolwr galluedd meddyliol annibynnol pan na fo cynrychiolydd ar gael ar gyfer person perthnasol o dan Ran 10 o Atodlen A1 i’r Ddeddf; cyfarwyddo eiriolwr galluedd meddyliol annibynnol pan na fo cynrychiolydd ar gyfer person perthnasol o dan Ran 10 o Atodlen A1 i’r Ddeddf yn cael ei dalu; adroddiadau mewn achosion cyfreithiol; swyddogaethau sy’n ymwneud â phreswylwyr ysbytai a chartrefi gofal. |
Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 Adran 66 | Swyddogion safonau gwaith cymdeithasol teuluol. |
Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 Rhannau 1 i 3 | Gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol, cydgysylltu a chynllunio gofal ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd, asesu defnyddwyr blaenorol gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd. |
Deddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012 Adran 92 | Swyddogaethau mewn perthynas â phlentyn sydd wedi ei remandio i lety awdurdod lleol. |
Deddf Gofal 2014 Adrannau 50 a 52 | Dyletswydd dros dro i ddiwallu anghenion am ofal a chymorth (neu anghenion am gymorth) pan fo sefydliad neu asiantaeth yn methu â’u diwallu oherwydd methiant busnes. |
Y Ddeddf hon Y Ddeddf gyfan, ac eithrio’r swyddogaethau o dan adrannau 15(4) (i’r graddau y mae’n ymwneud â swyddogaethau eraill nad ydynt yn rhai gwasanaethau cymdeithasol), 120(2), 128(1) a (2), 130(1) a (2), 162 ac adran 164. | Gwasanaethau ataliol; gofal a chymorth; cymorth i ofalwyr; plant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletya; diogelu oedolion a phlant. |
The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
Y Ddeddf Gyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Y Ddeddf Gyfan heb Atodlenni you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the National Assembly for Wales.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys