xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Rhaid i awdurdod lleol ddarparu unrhyw wasanaethau y mae’n barnu eu bod yn briodol i blant y mae’n cael hysbysiad amdanynt o dan adran 120 neu 121 [F2, neu o dan adran 85 o Ddeddf Plant 1989 (plant sy’n cael eu lletya gan awdurdodau iechyd ac awdurdodau addysg lleol)].
(2)Rhaid i’r gwasanaethau a ddarperir o dan yr adran hon gael eu darparu gyda golwg ar hyrwyddo cyswllt rhwng pob plentyn y mae’r awdurdod lleol yn cael hysbysiad amdano a theulu’r plentyn.
(3)Caiff y gwasanaethau gynnwys unrhyw beth y gall yr awdurdod ei ddarparu neu ei drefnu o dan Ran 4.
(4)Nid oes dim yn yr adran hon sy’n effeithio ar y ddyletswydd a osodwyd gan adran 39.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau ym mhennawd a. 123 wedi eu hepgor (6.4.2016) yn rhinwedd Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413), rhlau. 2(1), 307(b)
F2Geiriau yn a. 123(1) wedi eu mewnosod (6.4.2016) gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413), rhlau. 2(1), 307(a)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 123 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)