[F1125D.(1)Rhaid i berson beidio â chyhoeddi i’r cyhoedd yn gyffredinol, nac i unrhyw ran o’r cyhoedd, unrhyw ddeunydd y bwriedir iddo sicrhau bod modd adnabod, neu sy’n debygol o olygu bod modd adnabod—LL+C
(a)unrhyw blentyn sy’n rhan o unrhyw achos gerbron yr Uchel Lys neu’r llys teulu y caiff unrhyw bŵer o dan y Ddeddf hon ei arfer ynddo gan y llys mewn cysylltiad ag unrhyw blentyn; neu
(b)cyfeiriad neu ysgol fel un plentyn sy’n rhan o unrhyw achos o’r fath.
(2)Mewn unrhyw achos am drosedd o dan yr adran hon, mae’n amddiffyniad i’r sawl a gyhuddir brofi nad oedd yn gwybod, ac nad oedd ganddo unrhyw reswm dros amau, fod y deunydd a gyhoeddwyd wedi ei fwriadu i sicrhau bod modd adnabod y plentyn, neu’n debygol o olygu bod modd adnabod y plentyn.
(3)Caiff y llys neu’r Arglwydd Ganghellor, os yw wedi ei fodloni bod lles y plentyn yn gwneud hynny yn ofynnol ac, yn achos yr Arglwydd Ganghellor, os yw’r Arglwydd Brif Ustus yn cytuno, drwy orchymyn hepgor gofynion is-adran (1) i’r graddau hynny a bennir yn y gorchymyn.
(4)At ddibenion yr adran hon—
mae “cyhoeddi” (“publish”) yn cynnwys—
(a)cynnwys mewn gwasanaeth rhaglenni (o fewn yr ystyr a roddir i “programme service” yn Neddf Darlledu 1990);
(b)achosi i’r deunydd gael ei gyhoeddi; ac
mae “deunydd” (“material”) yn cynnwys unrhyw lun neu gynrychiolaeth.
(5)Mae unrhyw berson sy’n mynd yn groes i’r adran hon yn euog o drosedd ac yn agored, o’i gollfarnu’n ddiannod, i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol.
(6)Caiff yr Arglwydd Brif Ustus enwebu deiliad swydd farnwrol (fel y diffinnir “judicial office holder” yn adran 109(4) o Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol 2005) i arfer ei swyddogaethau o dan is-adran (3).]
Diwygiadau Testunol