Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

142Dehongli Rhan 7LL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

Yn y Rhan hon—

  • ystyr “ardal Bwrdd Diogelu” (“Safeguarding Board area”) yw ardal a nodir mewn rheoliadau o dan adran 134(1);

  • ystyr “Bwrdd Cenedlaethol” (“National Board”) yw’r Bwrdd Cenedlaethol Annibynnol Cenedlaethol y cyfeirir ato yn adran 132;

  • ystyr “Bwrdd Diogelu” (“Safeguarding Board”) yw Bwrdd Diogelu Plant neu Fwrdd Diogelu Oedolion a sefydlir o dan adran 134 (ac mae cyfeiriadau at ardal Bwrdd Diogelu yn gyfeiriadau at yr ardal Bwrdd Diogelu y mae wedi ei sefydlu ar ei chyfer);

  • ystyr “partner Bwrdd Diogelu” (“Safeguarding Board partner”) yw person neu gorff a grybwyllir yn adran 134(2) neu mewn rheoliadau a wneir o dan adran 134(6)(b) (ac mae cyfeiriadau at ardal partner Bwrdd Diogelu yn gyfeiriadau at yr ardal Bwrdd Diogelu y mae’n bartner Bwrdd Diogelu iddo).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 142 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I2A. 142 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)