xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 8LL+CSWYDDOGAETHAU GWASANAETHAU CYMDEITHASOL

Awdurdodau lleolLL+C

[F1144AAdroddiadau blynyddolLL+C

(1)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd blwyddyn ariannol, rhaid i awdurdod lleol lunio a chyhoeddi adroddiad blynyddol ynghylch arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod mewn cysylltiad â’r flwyddyn honno.

(2)Rhaid i’r adroddiad blynyddol gynnwys—

(a)manylion am sut y mae’r awdurdod wedi arfer ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yn ystod y flwyddyn ariannol, gan gynnwys manylion am y graddau y mae’r awdurdod wedi—

(i)gweithredu yn unol â gofynion a osodir ar awdurdodau lleol gan god a ddyroddir o dan adran 9 (codau ar gyfer helpu i sicrhau canlyniadau mewn perthynas â llesiant),

(ii)gweithredu yn unol ag unrhyw ofynion perthnasol sydd wedi eu cynnwys mewn cod a ddyroddir o dan adran 145 (codau ynghylch arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol), a

(iii)rhoi sylw i unrhyw ganllawiau perthnasol mewn cod a ddyroddir o dan adran 145, a

(b)unrhyw wybodaeth arall a ragnodir drwy reoliadau.

(3)Rhaid i’r manylion a ddarperir o dan is-adran (2)(a)(ii) ddatgan sut y mae’r awrdurdod wedi bodloni unrhyw ofynion a gynhwysir mewn cod sy’n ymwneud ag asesu anghenion unigolyn yn unol â Rhan 3 a diwallu anghenion o dan Ran 4.

(4)Rhaid i adroddiad blynyddol fod ar ffurf a ragnodir drwy reoliadau.

(5)Rhaid i awdurdod lleol anfon copi o adroddiad blynyddol a gyhoeddwyd at Weinidogion Cymru.

(6)Yn yr adran hon, ystyr “blwyddyn ariannol” yw’r cyfnod o flwyddyn sy’n dechrau ar 1 Ebrill ac sy’n dod i ben ar 31 Mawrth.]

Diwygiadau Testunol

F1Aau. 144A-144C wedi eu mewnosod (4.9.2017 er mewnosodiad a. 144A, 29.4.2019 er mewnosodiad a. 144C, 23.2.2021 er mewnosodiad a. 144B at ddibenion penodedig) gan Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (anaw 2), aau. 56(1), 188(1); O.S. 2017/846, ergl. 2(a); O.S. 2019/864, ergl. 2(3)(b); O.S. 2021/181, rhl. 2(a)