[149BAdolygiadau o swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleolLL+C
This
adran has no associated
Nodiadau Esboniadol
(1)Caiff Gweinidogion Cymru adolygu’r ffordd y caiff swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol eu harfer.
(2)Yn benodol, caiff Gweinidogion Cymru—
(a)adolygu’r arferiad cyffredinol o swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol yng Nghymru;
(b)adolygu’r ffordd y caiff swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol penodol eu harfer;
(c)adolygu’r arferiad o swyddogaeth gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol o ddisgrifiad penodol (pa un a yw wedi ei harfer gan un awdurdod lleol neu gan ddau neu ragor o awdurdodau yn cydweithio);
(d)adolygu’r arferiad o swyddogaeth gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol gan berson neu bersonau penodol.
(3)Mae cyfeiriad yn is-adran (2) at arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol gan awdurdod lleol yn cynnwys cyfeiriad at gomisiynu unrhyw wasanaethau mewn cysylltiad â’r swyddogaethau hynny.
(4)Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)llunio a chyhoeddi adroddiad ar adolygiad a gynhelir o dan is-adran (1), a
(b)gosod copi o’r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
(5)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch graddau y caniateir iddynt gael eu rhoi mewn perthynas â’r arferiad o swyddogaeth gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol benodedig.
(6)Os gwneir rheoliadau o dan is-adran (5) mewn perthynas ag arfer swyddogaeth gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol, rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)wrth gynnal adolygiad o’r arferiad o’r swyddogaeth honno, roi gradd yn unol â’r rheoliadau, a
(b)cynnwys y radd yn eu hadroddiad ar yr adolygiad.
(7)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (5) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy.
(8)Ond nid yw’r gofyniad i ymgynghori yn gymwys i reoliadau—
(a)sy’n diwygio rheoliadau eraill a wneir o dan yr is-adran hon, a
(b)nad ydynt, ym marn Gweinidogion Cymru, yn rhoi effaith i unrhyw newid sylweddol yn y ddarpariaeth a wneir gan y rheoliadau sydd i’w diwygio.]