Print Options
PrintThe Whole
Act
PrintThe Whole
Part
PrintThe Whole
Cross Heading
PrintThis
Section
only
Statws
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 06/04/2016.
Newidiadau i ddeddfwriaeth:
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Adran 155 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 06 Rhagfyr 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau.
Changes to Legislation
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
155Pŵer i’w gwneud yn ofynnol i swyddogaethau gael eu cyflawni gan Weinidogion Cymru neu enwebaiLL+C
This
adran has no associated
Nodiadau Esboniadol
(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru bŵer i ymyrryd â’r modd y mae awdurdod lleol yn arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo bod y swyddogaethau y mae’r seiliau dros ymyrryd yn ymwneud â hwy i’w harfer gan Weinidogion Cymru neu berson a enwebir ganddynt hwy.
(3)Os gwneir cyfarwyddyd o dan is-adran (2), rhaid i’r awdurdod lleol gydymffurfio ag arweiniad Gweinidogion Cymru neu eu henwebai mewn perthynas ag arfer y swyddogaethau.
(4)Os oes cyfarwyddyd o dan is-adran (2) mewn grym, mae swyddogaethau’r awdurdod lleol y mae’n ymwneud â hwy i’w trin at bob diben fel eu bod yn arferadwy gan Weinidogion Cymru neu eu henwebai.
Yn ôl i’r brig