Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

155Pŵer i’w gwneud yn ofynnol i swyddogaethau gael eu cyflawni gan Weinidogion Cymru neu enwebaiLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru bŵer i ymyrryd â’r modd y mae awdurdod lleol yn arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo bod y swyddogaethau y mae’r seiliau dros ymyrryd yn ymwneud â hwy i’w harfer gan Weinidogion Cymru neu berson a enwebir ganddynt hwy.

(3)Os gwneir cyfarwyddyd o dan is-adran (2), rhaid i’r awdurdod lleol gydymffurfio ag arweiniad Gweinidogion Cymru neu eu henwebai mewn perthynas ag arfer y swyddogaethau.

(4)Os oes cyfarwyddyd o dan is-adran (2) mewn grym, mae swyddogaethau’r awdurdod lleol y mae’n ymwneud â hwy i’w trin at bob diben fel eu bod yn arferadwy gan Weinidogion Cymru neu eu henwebai.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 155 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I2A. 155 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)