Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

159CyfarwyddiadauLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Rhaid i awdurdod lleol, neu swyddog i awdurdod, sy’n ddarostyngedig i gyfarwyddyd neu arweiniad o dan y Rhan hon gydymffurfio ag ef.

(2)Mae hyn yn cynnwys cyfarwyddyd neu arweiniad i arfer swyddogaeth sy’n amodol ar farn yr awdurdod lleol neu swyddog i’r awdurdod.

(3)O ran cyfarwyddyd o dan y Rhan hon—

(a)rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;

(b)caniateir iddo gael ei amrywio neu ei ddirymu drwy gyfarwyddyd diweddarach;

(c)mae’n orfodadwy drwy orchymyn gorfodol ar gais gan, neu ar ran, Gweinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 159 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I2A. 159 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)