Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

160Dyletswydd i gydweithreduLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Rhaid i awdurdod lleol roi i Weinidogion Cymru ac unrhyw berson a grybwyllir yn is-adran (2) gymaint o gymorth ag y gall yr awdurdod lleol yn rhesymol ei roi mewn cysylltiad ag arfer swyddogaethau o dan, neu yn rhinwedd, y Rhan hon.

(2)Y personau yw—

(a)unrhyw berson a awdurdodir gan Weinidogion Cymru at ddibenion yr adran hon;

(b)unrhyw berson sy’n gweithredu o dan gyfarwyddyd o dan y Rhan hon;

(c)unrhyw berson sy’n cynorthwyo—

(i)Gweinidogion Cymru, neu

(ii)person a grybwyllwyd ym mharagraff (a) neu (b).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 160 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I2A. 160 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)