Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

[F1161BPŵer i’w gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei darparuLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n dod o fewn is-adran (2) ddarparu iddynt—

(a)unrhyw ddogfennau, cofnodion (gan gynnwys cofnodion meddygol neu gofnodion personol eraill) neu wybodaeth arall⁠—

(i)sy’n ymwneud ag arfer swyddogaeth gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol, a

(ii)y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus eu cael at ddibenion adolygiad o dan adran 149A neu 149B;

(b)esboniad am gynnwys—

(i)unrhyw ddogfennau, cofnodion neu wybodaeth arall a ddarperir o dan baragraff (a), neu

(ii)unrhyw ddogfennau neu gofnodion a ddarperir i arolygydd sy’n cynnal arolygiad o fangre o dan adran 161 mewn cysylltiad ag adolygiad o dan adran 149B.

(2)Mae’r personau a ganlyn yn dod o fewn yr is-adran hon—

(a)awdurdod lleol;

(b)person sy’n darparu gwasanaeth mewn cysylltiad ag arfer swyddogaeth gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol;

(c)Bwrdd Iechyd Lleol;

(d)ymddiriedolaeth GIG,

ond ni ellir ei gwneud yn ofynnol i Fwrdd Iechyd Lleol neu ymddiriedolaeth GIG ddarparu esboniad am gynnwys unrhyw ddogfennau neu gofnodion a ddarperir i arolygydd sy’n cynnal arolygiad o fangre o dan adran 161.

(3)Nid yw’n ofynnol i berson ddarparu dogfennau, cofnodion neu wybodaeth arall o dan is-adran (1) os yw’r person wedi ei wahardd rhag eu darparu drwy unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall.

(4)Mae’r pŵer yn is-adran (1) yn cynnwys pŵer i’w gwneud yn ofynnol i ddogfennau neu gofnodion gael eu cyflwyno ar ffurf sy’n ddarllenadwy ac yn gludadwy.]