Newidiadau dros amser i: Adran 161B
Statws
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/01/2022.
Newidiadau i ddeddfwriaeth:
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Adran 161B yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 06 Ionawr 2025. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau.
Changes to Legislation
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
[161BPŵer i’w gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei darparuLL+C
This
adran has no associated
Nodiadau Esboniadol
(1)Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n dod o fewn is-adran (2) ddarparu iddynt—
(a)unrhyw ddogfennau, cofnodion (gan gynnwys cofnodion meddygol neu gofnodion personol eraill) neu wybodaeth arall—
(i)sy’n ymwneud ag arfer swyddogaeth gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol, a
(ii)y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus eu cael at ddibenion adolygiad o dan adran 149A neu 149B;
(b)esboniad am gynnwys—
(i)unrhyw ddogfennau, cofnodion neu wybodaeth arall a ddarperir o dan baragraff (a), neu
(ii)unrhyw ddogfennau neu gofnodion a ddarperir i arolygydd sy’n cynnal arolygiad o fangre o dan adran 161 mewn cysylltiad ag adolygiad o dan adran 149B.
(2)Mae’r personau a ganlyn yn dod o fewn yr is-adran hon—
(a)awdurdod lleol;
(b)person sy’n darparu gwasanaeth mewn cysylltiad ag arfer swyddogaeth gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol;
(c)Bwrdd Iechyd Lleol;
(d)ymddiriedolaeth GIG,
ond ni ellir ei gwneud yn ofynnol i Fwrdd Iechyd Lleol neu ymddiriedolaeth GIG ddarparu esboniad am gynnwys unrhyw ddogfennau neu gofnodion a ddarperir i arolygydd sy’n cynnal arolygiad o fangre o dan adran 161.
(3)Nid yw’n ofynnol i berson ddarparu dogfennau, cofnodion neu wybodaeth arall o dan is-adran (1) os yw’r person wedi ei wahardd rhag eu darparu drwy unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall.
(4)Mae’r pŵer yn is-adran (1) yn cynnwys pŵer i’w gwneud yn ofynnol i ddogfennau neu gofnodion gael eu cyflwyno ar ffurf sy’n ddarllenadwy ac yn gludadwy.]
Yn ôl i’r brig