Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about advanced features

Nodweddion Uwch

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Adran 17 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 30 Tachwedd 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

17Darparu gwybodaeth, cyngor a chynhorthwyLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Rhaid i awdurdod lleol sicrhau y darperir gwasanaeth i roi i bobl—

(a)gwybodaeth a chyngor sy’n ymwneud â gofal a chymorth, a

(b)cynhorthwy i gael gafael ar ofal a chymorth.

(2)Yn is-adran (1)(a), mae “gwybodaeth” yn cynnwys gwybodaeth ariannol (gan gynnwys gwybodaeth am daliadau uniongyrchol), ond nid yw’n gyfyngedig i’r wybodaeth honno.

(3)Rhaid i’r awdurdod lleol geisio sicrhau bod y gwasanaeth—

(a)yn ddigonol i alluogi person i wneud cynlluniau ar gyfer diwallu anghenion am ofal a chymorth a allai godi, a

(b)yn darparu gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy i berson mewn modd sy’n hygyrch i’r person hwnnw.

(4)Rhaid i’r gwasanaeth gynnwys, o leiaf, gyhoeddi gwybodaeth a chyngor am y materion a ganlyn—

(a)y system y darperir ar ei chyfer gan y Ddeddf hon a’r modd y mae’r system yn gweithredu yn ardal yr awdurdod,

(b)y mathau o ofal a chymorth sydd ar gael yn ardal yr awdurdod,

(c)sut i gael gafael ar y gofal a’r cymorth sydd ar gael, a

(d)sut i leisio pryderon am lesiant person y mae’n ymddangos bod arno anghenion am ofal a chymorth.

(5)Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol neu Ymddiriedolaeth GIG sy’n darparu gwasanaethau mewn ardal awdurdod lleol, at ddibenion yr adran hon, ddarparu gwybodaeth i’r awdurdod lleol hwnnw am y gofal a’r cymorth y mae’n eu darparu yn ardal yr awdurdod lleol.

(6)Caiff dau neu fwy o awdurdodau lleol sicrhau ar y cyd fod gwasanaeth yn cael ei ddarparu o dan yr adran hon i’w hardal gyfun; a phan fônt yn gwneud hynny—

(a)mae cyfeiriadau yn yr adran hon at awdurdod lleol i’w darllen fel cyfeiriadau at yr awdurdodau yn gweithredu ar y cyd, a

(b)mae cyfeiriadau yn yr adran hon at ardal awdurdod lleol i’w darllen fel cyfeiriadau at yr ardal gyfun.

(7)Yn yr adran hon, mae “gofal a chymorth” yn cynnwys cymorth i ofalwyr.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I2A. 17 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)

Yn ôl i’r brig

Options/Help

You have chosen to open The Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act as a PDF

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act without Schedules

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act without Schedules as a PDF

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open y Ddeddf Gyfan

Y Ddeddf Gyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open y Ddeddf Gyfan heb Atodlenni

Y Ddeddf Gyfan heb Atodlenni you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?