189Methiant darparwr: dyletswydd dros dro ar awdurdod lleolLL+C
[F1(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo darparwr gwasanaeth yn methu â darparu gwasanaeth rheoleiddiedig oherwydd methiant busnes.]
(2)Rhaid i awdurdod lleol am ba hyd bynnag ag y mae’n ei ystyried yn angenrheidiol (ac i’r graddau nad yw eisoes yn ofynnol iddo wneud hynny) ddiwallu—
(a)yr anghenion hynny sydd gan oedolyn am ofal a chymorth, a
(b)yr anghenion hynny sydd gan ofalwr perthnasol am gymorth,
a oedd, yn union cyn i’r [F2darparwr gwasanaeth fethu â darparu’r gwasanaeth rheoleiddiedig, yn cael eu diwallu yn ardal yr awdurdod gan y darparwr gwasanaeth] (ond mae hyn yn ddarostyngedig i adran 190).
(3)Mae’n ofynnol i awdurdod lleol ddiwallu anghenion o dan is-adran (2) ni waeth—
(a)p’un a yw’r person perthnasol yn preswylio fel arfer yn ei ardal ai peidio;
(b)p’un a yw’r awdurdod wedi cynnal asesiad o anghenion neu asesiad ariannol ai peidio;
(c)p’un a fyddai dyletswydd fel arall ar yr awdurdod i ddiwallu’r anghenion hynny o dan y Ddeddf hon ai peidio.
(4)Caniateir i awdurdod lleol osod ffi am ddiwallu anghenion o dan is-adran (2) (ac eithrio i’r graddau y mae’r anghenion hynny yn cael eu diwallu drwy ddarparu gwybodaeth neu gyngor).
(5)Caniateir i ffi o dan is-adran (4)—
(a)cael ei gosod dim ond mewn cysylltiad ag anghenion nad oeddent, yn union cyn i’r [F3darparwr gwasanaeth fethu â darparu’r gwasanaeth rheoleiddiedig], yn cael eu diwallu—
(i)o dan drefniadau a wnaed gan awdurdod lleol wrth gyflawni ei ddyletswydd o dan adran 35 neu 40, neu wrth arfer ei bŵer o dan adran 36 neu 45, neu
(ii)drwy ddarparu llety neu wasanaethau y talwyd ei gost neu eu cost yn llwyr neu’n rhannol drwy daliadau uniongyrchol a wnaed yn rhinwedd adran 50 neu 52;
(b)cynnwys dim ond y gost y mae’r awdurdod lleol yn ei thynnu wrth ddiwallu’r anghenion hynny.
(6)Mae adrannau 60 i 67, 70, 71 a 73 yn gymwys i osod ffi o dan is-adran (4) yn yr un modd ag y maent yn gymwys i osod ffi o dan adran 59, ac yn unol â hynny mae pŵer awdurdod lleol i osod ffi o dan yr is-adran honno yn ddarostyngedig—
(a)i’r ddarpariaeth a wneir mewn rheoliadau o dan adran 61 neu 62 (os oes darpariaeth), a
(b)i ddyletswyddau’r awdurdod o dan adrannau 63, 66 ac 67 (os ydynt yn gymwys).
(7)Os nad yw’r person perthnasol yn preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod lleol y mae’n ofynnol iddo ddiwallu anghenion o dan is-adran (2)—
(a)rhaid i’r awdurdod, wrth ddiwallu anghenion o dan yr is-adran honno a oedd yn cael eu diwallu o dan drefniadau a wnaed gan awdurdod lleol arall wrth gyflawni ei ddyletswydd o dan adran 35 neu 40 neu wrth arfer ei bŵer o dan adran 36 neu 45, gydweithredu â’r awdurdod hwnnw;
(b)rhaid i’r awdurdod, wrth ddiwallu anghenion o dan yr is-adran honno a oedd yn cael eu diwallu o dan drefniadau y talwyd eu cost yn llwyr neu’n rhannol gan awdurdod lleol arall drwy daliadau uniongyrchol a wnaed yn rhinwedd adran 50 neu 52, gydweithredu â’r awdurdod hwnnw;
(c)caniateir i’r awdurdod adennill oddi wrth yr awdurdod lleol arall a grybwyllir ym mharagraff (a) neu (b) y gost y mae’n ei thynnu wrth ddiwallu’r anghenion hynny sydd gan yr oedolyn neu’r anghenion hynny sydd gan y gofalwr perthnasol y cyfeirir atynt yn y paragraff o dan sylw.
(8)Mae unrhyw anghydfod rhwng awdurdodau lleol ynghylch cymhwyso’r adran hon i’w ddyfarnu o dan adran 195 fel pe bai’n anghydfod o’r math a grybwyllir yn is-adran (1) o’r adran honno.
(9)Yn yr adran hon a (lle y bo’n berthnasol) yn adran 190 a 191—
[F4“mae i “darparwr gwasanaeth” (“service provider”) yr un ystyr ag yn Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;”]
ystyr “gofalwr perthnasol” (“relevant carer”) yw gofalwr—
(a)sy’n oedolyn, a
(b)sy’n darparu neu sy’n bwriadu darparu gofal i oedolyn arall;
[F5“mae i “gwasanaeth rheoleiddiedig” (“regulated service”) yr un ystyr ag yn Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;”]
F6...
ystyr “person perthnasol” (“relevant person”) yw—
(a)mewn achos sy’n ymwneud ag anghenion oedolyn am ofal a chymorth, yr oedolyn hwnnw;
(b)mewn achos sy’n ymwneud ag anghenion gofalwr perthnasol am gymorth, yr oedolyn y mae angen gofal arno.
Diwygiadau Testunol
F1A. 189(1) wedi ei amnewid (2.4.2018) gan Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (anaw 2), a. 188(1), Atod. 3 para. 33(a); O.S. 2017/1326, ergl. 2(3)(h), Atod. (ynghyd ag erglau. 6, 8)
F2Geiriau yn a. 189(2) wedi eu hamnewid (2.4.2018) gan Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (anaw 2), a. 188(1), Atod. 3 para. 33(b); O.S. 2017/1326, ergl. 2(3)(h), Atod. (ynghyd ag erglau. 6, 8)
F3Geiriau yn a. 189(5)(a) wedi eu hamnewid (2.4.2018) gan Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (anaw 2), a. 188(1), Atod. 3 para. 33(c); O.S. 2017/1326, ergl. 2(3)(h), Atod. (ynghyd ag erglau. 6, 8)
F4Geiriau yn a. 189(9) wedi eu mewnosod (2.4.2018) gan Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (anaw 2), a. 188(1), Atod. 3 para. 33(d)(i); O.S. 2017/1326, ergl. 2(3)(h), Atod. (ynghyd ag erglau. 6, 8)
F5Geiriau yn a. 189(9) wedi eu mewnosod (2.4.2018) gan Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (anaw 2), a. 188(1), Atod. 3 para. 33(d)(ii); O.S. 2017/1326, ergl. 2(3)(h), Atod. (ynghyd ag erglau. 6, 8)
F6Geiriau yn a. 189(9) wedi eu diddymu (2.4.2018) gan Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (anaw 2), a. 188(1), Atod. 3 para. 33(d)(iii); O.S. 2017/1326, ergl. 2(3)(h), Atod. (ynghyd ag erglau. 6, 8)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 189 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)