xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 11LL+CAMRYWIOL A CHYFFREDINOL

AmrywiolLL+C

189Methiant darparwr: dyletswydd dros dro ar awdurdod lleolLL+C

[F1(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo darparwr gwasanaeth yn methu â darparu gwasanaeth rheoleiddiedig oherwydd methiant busnes.]

(2)Rhaid i awdurdod lleol am ba hyd bynnag ag y mae’n ei ystyried yn angenrheidiol (ac i’r graddau nad yw eisoes yn ofynnol iddo wneud hynny) ddiwallu—

(a)yr anghenion hynny sydd gan oedolyn am ofal a chymorth, a

(b)yr anghenion hynny sydd gan ofalwr perthnasol am gymorth,

a oedd, yn union cyn i’r [F2darparwr gwasanaeth fethu â darparu’r gwasanaeth rheoleiddiedig, yn cael eu diwallu yn ardal yr awdurdod gan y darparwr gwasanaeth] (ond mae hyn yn ddarostyngedig i adran 190).

(3)Mae’n ofynnol i awdurdod lleol ddiwallu anghenion o dan is-adran (2) ni waeth—

(a)p’un a yw’r person perthnasol yn preswylio fel arfer yn ei ardal ai peidio;

(b)p’un a yw’r awdurdod wedi cynnal asesiad o anghenion neu asesiad ariannol ai peidio;

(c)p’un a fyddai dyletswydd fel arall ar yr awdurdod i ddiwallu’r anghenion hynny o dan y Ddeddf hon ai peidio.

(4)Caniateir i awdurdod lleol osod ffi am ddiwallu anghenion o dan is-adran (2) (ac eithrio i’r graddau y mae’r anghenion hynny yn cael eu diwallu drwy ddarparu gwybodaeth neu gyngor).

(5)Caniateir i ffi o dan is-adran (4)—

(a)cael ei gosod dim ond mewn cysylltiad ag anghenion nad oeddent, yn union cyn i’r [F3darparwr gwasanaeth fethu â darparu’r gwasanaeth rheoleiddiedig], yn cael eu diwallu—

(i)o dan drefniadau a wnaed gan awdurdod lleol wrth gyflawni ei ddyletswydd o dan adran 35 neu 40, neu wrth arfer ei bŵer o dan adran 36 neu 45, neu

(ii)drwy ddarparu llety neu wasanaethau y talwyd ei gost neu eu cost yn llwyr neu’n rhannol drwy daliadau uniongyrchol a wnaed yn rhinwedd adran 50 neu 52;

(b)cynnwys dim ond y gost y mae’r awdurdod lleol yn ei thynnu wrth ddiwallu’r anghenion hynny.

(6)Mae adrannau 60 i 67, 70, 71 a 73 yn gymwys i osod ffi o dan is-adran (4) yn yr un modd ag y maent yn gymwys i osod ffi o dan adran 59, ac yn unol â hynny mae pŵer awdurdod lleol i osod ffi o dan yr is-adran honno yn ddarostyngedig—

(a)i’r ddarpariaeth a wneir mewn rheoliadau o dan adran 61 neu 62 (os oes darpariaeth), a

(b)i ddyletswyddau’r awdurdod o dan adrannau 63, 66 ac 67 (os ydynt yn gymwys).

(7)Os nad yw’r person perthnasol yn preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod lleol y mae’n ofynnol iddo ddiwallu anghenion o dan is-adran (2)—

(a)rhaid i’r awdurdod, wrth ddiwallu anghenion o dan yr is-adran honno a oedd yn cael eu diwallu o dan drefniadau a wnaed gan awdurdod lleol arall wrth gyflawni ei ddyletswydd o dan adran 35 neu 40 neu wrth arfer ei bŵer o dan adran 36 neu 45, gydweithredu â’r awdurdod hwnnw;

(b)rhaid i’r awdurdod, wrth ddiwallu anghenion o dan yr is-adran honno a oedd yn cael eu diwallu o dan drefniadau y talwyd eu cost yn llwyr neu’n rhannol gan awdurdod lleol arall drwy daliadau uniongyrchol a wnaed yn rhinwedd adran 50 neu 52, gydweithredu â’r awdurdod hwnnw;

(c)caniateir i’r awdurdod adennill oddi wrth yr awdurdod lleol arall a grybwyllir ym mharagraff (a) neu (b) y gost y mae’n ei thynnu wrth ddiwallu’r anghenion hynny sydd gan yr oedolyn neu’r anghenion hynny sydd gan y gofalwr perthnasol y cyfeirir atynt yn y paragraff o dan sylw.

(8)Mae unrhyw anghydfod rhwng awdurdodau lleol ynghylch cymhwyso’r adran hon i’w ddyfarnu o dan adran 195 fel pe bai’n anghydfod o’r math a grybwyllir yn is-adran (1) o’r adran honno.

(9)Yn yr adran hon a (lle y bo’n berthnasol) yn adran 190 a 191—

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 189 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I2A. 189 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)