Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

34Sut i ddiwallu anghenionLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Mae’r canlynol yn enghreifftiau o’r ffyrdd y caiff awdurdod lleol ddiwallu anghenion o dan adrannau 35 i 45—

(a)drwy drefnu bod person heblaw’r awdurdod yn darparu rhywbeth;

(b)drwy ddarparu rhywbeth ei hun;

(c)drwy ddarparu rhywbeth, neu drwy drefnu i rywbeth gael ei ddarparu, i berson ac eithrio’r person ag anghenion am ofal a chymorth (neu gymorth yn achos gofalwr).

(2)Mae’r canlynol yn enghreifftiau o’r hyn y gellir ei ddarparu neu ei drefnu i ddiwallu anghenion o dan adrannau 35 i 45—

(a)llety mewn cartref gofal, cartref plant neu fangre o ryw fath arall;

(b)gofal a chymorth gartref neu yn y gymuned;

(c)gwasanaethau, nwyddau a chyfleusterau;

(d)gwybodaeth a chyngor;

(e)cwnsela ac eiriolaeth;

(f)gwaith cymdeithasol;

(g)taliadau (gan gynnwys taliadau uniongyrchol);

(h)cymhorthion ac addasiadau;

(i)therapi galwedigaethol.

(3)Pan fo awdurdod lleol yn diwallu anghenion person o dan adrannau 35 i 45 drwy ddarparu neu drefnu gofal a chymorth yng nghartref y person, rhaid i’r awdurdod lleol fodloni ei hun bod unrhyw ymweliadau â chartref y person at y diben hwnnw yn ddigon hir i roi i’r person y gofal a’r cymorth sydd ei angen i ddiwallu’r anghenion dan sylw.

(4)Rhaid i gôd a ddyroddir o dan adran 145 gynnwys canllawiau ynghylch hyd ymweliadau â chartref person at y diben o roi gofal a chymorth.

(5)Gweler adrannau 47 (eithriad ar gyfer darparu gwasanaethau iechyd), 48 (eithriad ar gyfer darparu tai etc) a 49 (cyfyngiadau ar ddarparu taliadau) ar gyfer cyfyngiadau ar yr hyn y caniateir ei ddarparu neu ei drefnu i ddiwallu anghenion am ofal a chymorth a’r ffordd y caniateir ei ddarparu neu ei drefnu.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C1A. 34 cymhwyswyd (1.4.2015 at ddibenion penodedig, 6.4.2016 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) gan Care Act 2014 (c. 23), aau. 52(3), 127(1); O.S. 2015/993, ergl. 2(p) (ynghyd â darpariaethau trosiannol ynO.S. 2015/995); O.S. 2016/464, ergl. 2(b)

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 34 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I2A. 34 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)