xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4LL+CDIWALLU ANGHENION

Diwallu anghenion gofalwr am gymorthLL+C

40Dyletswydd i ddiwallu anghenion gofalwr sy’n oedolyn am gymorthLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol ddiwallu anghenion gofalwr sy’n oedolyn am gymorth os caiff ei fodloni bod amodau 1, 2 a 3, ac unrhyw amodau a bennir mewn rheoliadau, wedi eu cyflawni.

(2)Amod 1 yw bod y person y gofelir amdano gan y gofalwr—

(a)yn oedolyn—

(i)sy’n preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod lleol, neu

(ii)nad oes ganddo breswylfa sefydlog ac sydd o fewn ardal yr awdurdod, neu

(b)yn blentyn anabl sydd o fewn ardal yr awdurdod.

(3)[F1Amod 2 yw bod anghenion y gofalwr yn bodloni’r meini prawf cymhwystra.]

[F1Amod 2 yw bod yr awdurdod lleol yn barnu ei bod yn angenrheidiol diwallu'r anghenion er mwyn amddiffyn yr oedolyn rhag cael ei gam-drin neu ei esgeuluso neu rhag risg o gael ei gam-drin neu ei esgeuluso.]

(4)Amod 3—

(a)i’r graddau y mae diwallu anghenion y gofalwr yn golygu darparu cymorth i’r gofalwr—

(i)yw nad oes ffi yn cael ei chodi o dan adran 59 am ddiwallu’r anghenion hynny, neu

(ii)i’r graddau y mae ffi yn cael ei chodi, yw bod adran 41(1) neu (2) yn gymwys;

(b)i’r graddau y mae diwallu anghenion y gofalwr yn golygu darparu gofal a chymorth i oedolyn y mae’r gofalwr yn gofalu amdano—

(i)yw nad oes ffi yn cael ei chodi o dan adran 59 am ddiwallu’r anghenion hynny a bod adran 41(7), (8) neu (9) yn gymwys, neu

(ii)i’r graddau y mae ffi yn cael ei chodi, yw bod adran 41(3) neu (4) yn gymwys;

(c)i’r graddau y mae diwallu anghenion y gofalwr yn golygu darparu gofal a chymorth i blentyn anabl sy’n 16 neu’n 17 oed y mae’r gofalwr yn gofalu amdano—

(i)yw nad oes ffi yn cael ei chodi o dan adran 59 am ddiwallu’r anghenion hynny a bod adran 41(7), (8) neu (10) yn gymwys, neu

(ii)i’r graddau y mae ffi yn cael ei chodi, yw bod adran 41(5) neu (6) yn gymwys;

(d)i’r graddau y mae diwallu anghenion y gofalwr yn golygu darparu gofal a chymorth i blentyn anabl o dan 16 oed y mae’r gofalwr yn gofalu amdano—

(i)yw nad oes ffi yn cael ei chodi o dan adran 59 am ddiwallu’r anghenion hynny a bod adran 41(12) neu (13) yn gymwys, neu

(ii)i’r graddau y mae ffi yn cael ei chodi, yw bod adran 41(5) neu (6) yn gymwys.

Diwygiadau Testunol

F1 A. 40(3) wedi ei amnewid (dd.) (1.4.2020) yn rhinwedd Coronavirus Act 2020 (c. 7), a. 87(2), Atod. 12 para. 27(b) (ynghyd ag aau. 88-90, Atod. 12 parau. 30, 34); O.S. 2020/366, rhl. 3 (ddarpariaethau sy'n effeithio'n gynharach wedi'i atal (22.3.2021) gan (O.S. 2021/316), rhlau. 1(2), 2(a) ac yn dod i ben (1.8.2021) yn rhinwedd Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Dod i Ben yn Gynnar: Gofal a Chymorth gan Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/850), rhlau. 1(2), 2(a))

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C1A. 40 cyfyngedig (dd.) (1.4.2020) gan Coronavirus Act 2020 (c. 7), a. 87(2), Atod. 12 para. 28 (ynghyd ag aau. 88-90, Atod. 12 parau. 30, 34); O.S. 2020/366, rhl. 3 (ddarpariaethau sy'n effeithio'n gynharach wedi'i atal (22.3.2021) gan (O.S. 2021/316), rhlau. 1(2), 2(a) ac yn dod i ben (1.8.2021) yn rhinwedd Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Dod i Ben yn Gynnar: Gofal a Chymorth gan Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/850), rhlau. 1(2), 2(a))

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 40 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I2A. 40 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)