xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 6LL+CPLANT SY’N DERBYN GOFAL A PHLANT SY’N CAEL EU LLETYA

Rheoliadau ynghylch plant sy’n derbyn gofalLL+C

89Rheoliadau ynghylch lleoliadau o’r math a grybwyllir yn adran 81(6)(d)LL+C

(1)Caiff rheoliadau o dan adran 87, er enghraifft, wneud darpariaeth ynghylch lleoliadau o’r math a grybwyllwyd yn adran 81(6)(d).

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1), er enghraifft, wneud darpariaeth ynghylch—

(a)y personau sydd i’w hysbysu am unrhyw drefniadau arfaethedig;

(b)y cyfleoedd y mae personau o’r fath i’w cael er mwyn cyflwyno sylwadau mewn perthynas â’r trefniadau arfaethedig;

(c)y personau sydd i’w hysbysu am unrhyw newidiadau arfaethedig yn y trefniadau;

(d)y cofnodion sydd i’w cadw gan awdurdodau lleol;

(e)goruchwyliaeth gan awdurdodau lleol ar unrhyw drefniadau a wneir.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 89 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I2A. 89 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)