Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 25/02/2015. Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) part yn cynnwys darpariaethau nad ydynt yn ddilys ar gyfer y pwynt mewn amser hwn.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Tai (Cymru) 2014, RHAN 4.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
(1)Caiff Gweinidogion Cymru osod safonau i’w bodloni gan awdurdodau tai lleol mewn cysylltiad ag—
(a)ansawdd y llety a ddarperir gan awdurdodau tai lleol ar gyfer tai;
(b)rhent ar gyfer y cyfryw lety;
(c)ffioedd gwasanaeth ar gyfer y cyfryw lety.
(2)Caiff safonau a osodir o dan is-adran (1) ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau tai lleol gydymffurfio â rheolau a bennir yn y safonau.
(3)Caiff rheolau am rent neu ffioedd gwasanaeth gynnwys, ymhlith pethau eraill, ddarpariaeth ar gyfer lefelau isaf neu lefelau uchaf—
(a)rhent neu ffioedd gwasanaeth,
(b)cynnydd neu ostyngiad mewn rhent neu ffioedd gwasanaeth.
(4)Caiff Gweinidogion Cymru—
(a)adolygu’r safonau drwy ddyroddi safonau pellach o dan yr adran hon;
(b)tynnu’r safonau yn ôl drwy ddyroddi safonau pellach o dan yr adran hon neu drwy hysbysiad.
(5)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi safonau neu hysbysiadau o dan yr adran hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 111 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
I2A. 111 mewn grym ar 1.12.2014 gan O.S. 2014/3127, ergl. 2(a), Atod. Rhn. 1
(1)Caiff Gweinidogion Cymru rhoi canllawiau—
(a)sy’n berthnasol i fater yr eir i’r afael ag ef mewn safon o dan adran 111, a
(b)yn ymhelaethu ar y safon.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru roi sylw i’r canllawiau wrth ystyried a yw safonau wedi cael eu bodloni.
(3)Caiff Gweinidogion Cymru—
(a)adolygu’r canllawiau drwy roi canllawiau pellach o dan yr adran hon;
(b)tynnu’r canllawiau’n ôl drwy roi canllawiau pellach o dan yr adran hon neu drwy hysbysiad.
(4)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi unrhyw ganllawiau neu hysbysiad o dan yr adran hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 112 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
I4A. 112 mewn grym ar 1.12.2014 gan O.S. 2014/3127, ergl. 2(a), Atod. Rhn. 1
Cyn gosod, adolygu neu dynnu’n ôl safonau o dan adran 111 neu ddyroddi, adolygu neu dynnu’n ôl ganllawiau o dan adran 112, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag—
(a)un neu ragor o gyrff yr ymddengys iddynt eu bod yn cynrychioli buddiannau awdurdodau tai lleol,
(b)un neu ragor o gyrff yr ymddengys iddynt eu bod yn cynrychioli buddiannau tenantiaid, ac
(c)unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 113 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
I6A. 113 mewn grym ar 1.12.2014 gan O.S. 2014/3127, ergl. 2(a), Atod. Rhn. 1
Rhaid i awdurdod tai lleol ddarparu i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth sy’n ofynnol ganddynt mewn perthynas â chydymffurfiad yr awdurdod â safonau a osodir o dan adran 111.
Gwybodaeth Cychwyn
I7A. 114 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
I8A. 114 mewn grym ar 1.12.2014 gan O.S. 2014/3127, ergl. 2(a), Atod. Rhn. 1
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan ymddengys i Weinidogion Cymru y gallai awdurdod tai lleol fod yn methu â chynnal a chadw neu atgyweirio unrhyw fangre yn unol â safonau a osodir o dan adran 111 neu ganllawiau a ddyroddir o dan adran 112.
(2)Caiff person a awdurdodir gan Weinidogion Cymru ar unrhyw adeg resymol, gan roi dim llai na 28 o ddiwrnodau o rybudd o’i fwriad i’r awdurdod tai lleol dan sylw, fynd i unrhyw fangre o’r fath at ddiben arolygu ac archwilio.
(3)Pan roddir y cyfryw rybudd i awdurdod tai lleol, rhaid i’r awdurdod roi dim llai na saith niwrnod o rybudd o’r arolwg a’r archwiliad arfaethedig i feddiannwr neu feddianwyr y fangre.
(4)Rhaid i awdurdodiad at ddibenion yr adran hon fod yn ysgrifenedig gan ddatgan y diben neu’r dibenion penodol dros awdurdodi mynediad a rhaid, os yw hynny’n ofynnol, ei ddangos ar gyfer ei archwilio gan y meddiannwr neu unrhyw un sy’n gweithredu ar ei ran.
(5)Rhaid i Weinidogion Cymru roi copi o unrhyw arolwg a gynhelir wrth arfer y pwerau a roddir gan yr adran hon i’r awdurdod tai lleol dan sylw.
(6)Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod tai lleol dan sylw dalu y cyfryw swm y bydd Gweinidogion Cymru yn ei benderfynu tuag at gostau cynnal unrhyw arolwg o dan yr adran hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I9A. 115 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
I10A. 115 mewn grym ar 1.12.2014 gan O.S. 2014/3127, ergl. 2(a), Atod. Rhn. 1
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu—
(a)pa un a i arfer pŵer ymyrryd,
(b)pa bŵer ymyrryd i’w arfer, neu
(c)sut i arfer pŵer ymyrryd.
(2)Rhaid i Weinidogion Cymru ystyried—
(a)a yw methiant neu fethiant tebygol i fodloni’r safon yn ddigwyddiad rheolaidd neu’n ddigwyddiad unigol, neu’n debygol o fod yn ddigwyddiad rheolaidd neu’n ddigwyddiad unigol;
(b)pa mor gyflym y mae angen mynd i’r afael â’r methiant, neu’r methiant tebygol i fodloni’r safonau.
(3)Yn is-adran (1), ystyr “pŵer ymyrryd” yw pŵer sy’n arferadwy o dan adrannau 117 i 127.
Gwybodaeth Cychwyn
I11A. 116 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
I12A. 116 mewn grym ar 1.12.2014 gan O.S. 2014/3127, ergl. 2(a), Atod. Rhn. 1
At ddibenion y Rhan hon, y sail ar gyfer ymyrryd yw bod awdurdod tai lleol wedi methu, neu’n debygol o fethu â bodloni safon a osodir o dan adran 111 sy’n ymwneud ag ansawdd llety.
Gwybodaeth Cychwyn
I13A. 117 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
I14A. 117 mewn grym ar 1.12.2014 gan O.S. 2014/3127, ergl. 2(a), Atod. Rhn. 1
(1)Caiff Gweinidogion Cymru roi hysbysiad rhybuddio i awdurdod tai lleol os ydynt wedi eu bodloni bod y sail ar gyfer ymyrryd yn bodoli mewn perthynas â’r awdurdod.
(2)Rhaid i Weinidogion Cymru bennu pob un o’r canlynol yn yr hysbysiad rhybuddio—
(a)y rhesymau pam eu bod wedi eu bodloni bod y sail yn bodoli;
(b)y camau sy’n ofynnol i’r awdurdod eu cymryd er mwyn ymdrin â’r sail ar gyfer ymyrryd;
(c)y cyfnod pan fo angen i’r awdurdod gymryd y camau (“y cyfnod cydymffurfio”);
(d)y camau y maent yn bwriadu eu cymryd os yw’r awdurdod yn methu â chymryd y camau gofynnol.
Gwybodaeth Cychwyn
I15A. 118 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
I16A. 118 mewn grym ar 1.12.2014 gan O.S. 2014/3127, ergl. 2(a), Atod. Rhn. 1
(1)Mae gan Weinidogion Cymru y pŵer i ymyrryd o dan y Rhan hon os yw—
(a)Gweinidogion Cymru wedi rhoi hysbysiad rhybuddio, a
(b)bod yr awdurdod tai lleol wedi methu â chydymffurfio, neu sicrhau cydymffurfiaeth, â’r hysbysiad er boddhad Gweinidogion Cymru o fewn y cyfnod cydymffurfio.
(2)Pan fo gan Weinidogion Cymru y pŵer i ymyrryd, rhaid iddynt adolygu’r amgylchiadau sy’n arwain at y pŵer.
(3)Os daw Gweinidogion Cymru i’r casgliad yr ymdriniwyd â’r sail ar gyfer ymyrryd er boddhad iddynt neu na fyddai arfer eu pwerau o dan y Rhan hon yn briodol am unrhyw reswm arall, rhaid iddynt hysbysu’r awdurdod tai lleol am eu casgliad yn ysgrifenedig.
(4)Mae pŵer Gweinidogion Cymru i ymyrryd yn parhau mewn effaith hyd nes iddynt roi hysbysiad o dan is-adran (3).
(5)Pan fo gan Weinidogion Cymru y pŵer i ymyrryd, nid ydynt wedi eu cyfyngu i gymryd y camau y dywedasant eu bod yn bwriadu eu cymryd mewn hysbysiad rhybuddio.
Gwybodaeth Cychwyn
I17A. 119 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
I18A. 119 mewn grym ar 1.12.2014 gan O.S. 2014/3127, ergl. 2(a), Atod. Rhn. 1
(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru y pŵer i ymyrryd.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo’r awdurdod tai lleol i ymrwymo i gontract neu drefniant eraill â pherson penodedig, neu berson sy’n dod o fewn dosbarth penodedig, ar gyfer darparu gwasanaethau penodedig o natur gynghorol i’r awdurdod.
(3)Caiff y cyfarwyddyd ei gwneud yn ofynnol i’r contract neu drefniant arall gynnwys telerau ac amodau penodedig.
(4)Yn yr adran hon ac adran 121 ystyr “penodedig” yw penodedig mewn cyfarwyddyd.
Gwybodaeth Cychwyn
I19A. 120 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
I20A. 120 mewn grym ar 1.12.2014 gan O.S. 2014/3127, ergl. 2(a), Atod. Rhn. 1
(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru y pŵer i ymyrryd.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru roi’r cyfryw gyfarwyddiadau i’r awdurdod tai lleol neu unrhyw un o’i swyddogion fel y credant sy’n briodol er mwyn sicrhau y caiff y swyddogaethau y mae’r sail ar gyfer ymyrryd yn berthnasol iddynt eu cyflawni ar ran yr awdurdod gan berson a bennir yn y cyfarwyddyd.
(3)Caiff cyfarwyddyd o dan is-adran (2) ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gontract neu drefniant arall a wneir gan yr awdurdod â’r person penodedig gynnwys telerau ac amodau a bennir yn y cyfarwyddyd.
Gwybodaeth Cychwyn
I21A. 121 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
I22A. 121 mewn grym ar 1.12.2014 gan O.S. 2014/3127, ergl. 2(a), Atod. Rhn. 1
(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru y pŵer i ymyrryd.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo bod y swyddogaethau y mae’r sail ar gyfer ymyrryd yn berthnasol iddynt i’w harfer gan Weinidogion Cymru neu berson a enwebir ganddynt.
(3)Os caiff cyfarwyddyd ei wneud o dan is-adran (2), rhaid i’r awdurdod tai lleol gydymffurfio ag arweiniad Gweinidogion Cymru neu eu henwebai mewn perthynas ag arfer y swyddogaethau.
Gwybodaeth Cychwyn
I23A. 122 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
I24A. 122 mewn grym ar 1.12.2014 gan O.S. 2014/3127, ergl. 2(a), Atod. Rhn. 1
(1)Os y cred Gweinidogion Cymru ei fod yn hwylus, caiff cyfarwyddyd o dan adran 121 neu 122 fod yn berthnasol i gyflawni swyddogaethau yr awdurdod tai lleol yn ogystal â’r swyddogaethau y mae’r sail ar gyfer ymyrryd yn berthnasol iddynt.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru roi sylw (ymhlith pethau eraill) i ystyriaethau ariannol wrth benderfynu a yw’n hwylus y dylai cyfarwyddyd fod yn berthnasol i swyddogaethau’r awdurdod tai lleol heblaw swyddogaethau sy’n ymwneud â’r sail ar gyfer ymyrryd.
Gwybodaeth Cychwyn
I25A. 123 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
I26A. 123 mewn grym ar 1.12.2014 gan O.S. 2014/3127, ergl. 2(a), Atod. Rhn. 1
(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru y pŵer i ymyrryd.
(2)Os yw Gweinidogion Cymru yn credu ei bod yn briodol er mwyn ymdrin â’r sail ar gyfer ymyrryd, caiff Gweinidogion Cymru—
(a)rhoi cyfarwyddiadau i’r awdurdod tai lleol neu unrhyw un o’i swyddogion, neu
(b)cymryd unrhyw gamau eraill.
Gwybodaeth Cychwyn
I27A. 124 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
I28A. 124 mewn grym ar 1.12.2014 gan O.S. 2014/3127, ergl. 2(a), Atod. Rhn. 1
(1)Rhaid i awdurdod tai lleol, neu swyddog awdurdod, sy’n ddarostyngedig i gyfarwyddyd neu arweiniad o dan y Rhan hon gydymffurfio ag ef.
(2)Mae hyn yn cynnwys cyfarwyddyd neu arweiniad i arfer pŵer neu ddyletswydd sy’n amodol ar farn yr awdurdod neu un neu ragor o swyddogion yr awdurdod.
(3)Mae’r canlynol yn berthnasol i gyfarwyddyd o dan y Rhan hon—
(a)rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;
(b)caniateir ei amrywio neu ei ddirymu gan gyfarwyddyd diweddarach;
(c)gellir ei orfodi gan orchymyn gorfodi ar gais gan Weinidogion Cymru, neu ar eu rhan.
Gwybodaeth Cychwyn
I29A. 125 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
I30A. 125 mewn grym ar 1.12.2014 gan O.S. 2014/3127, ergl. 2(a), Atod. Rhn. 1
(1)Rhaid i awdurdod tai lleol roi i Weinidogion Cymru ac unrhyw berson a grybwyllir yn is-adran (2) gymaint o gymorth mewn cysylltiad ag arfer swyddogaethau o dan neu yn rhinwedd y Rhan hon ag y gallant yn rhesymol ei roi.
(2)Y personau yw—
(a)unrhyw berson a awdurdodir at ddibenion yr adran hon gan Weinidogion Cymru;
(b)unrhyw berson sy’n gweithredu o dan gyfarwyddiadau o dan y Rhan hon;
(c)unrhyw berson sy’n cynorthwyo—
(i)Gweinidogion Cymru, neu
(ii)person a grybwyllir ym mharagraff (a) neu (b).
Gwybodaeth Cychwyn
I31A. 126 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
I32A. 126 mewn grym ar 1.12.2014 gan O.S. 2014/3127, ergl. 2(a), Atod. Rhn. 1
(1)Mae gan berson sy’n dod o fewn is-adran (2) ar bob adeg resymol—
(a)hawl mynediad i fangre yr awdurdod tai lleol (heblaw annedd) dan sylw;
(b)hawl i archwilio, a chymryd copïau o unrhyw gofnodion neu ddogfennau eraill a gedwir gan yr awdurdod, ac unrhyw ddogfennau eraill sy’n cynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â’r awdurdod, y mae’r person yn eu ystyried yn berthnasol i arfer ei swyddogaethau o dan neu yn rhinwedd y Rhan hon.
(2)Mae’r personau canlynol yn dod o fewn yr is-adran hon—
(a)person a bennir mewn cyfarwyddyd o dan adran 120 neu, pan fo’r cyfarwyddyd yn pennu dosbarth o bersonau, y person y mae’r awdurdod tai lleol yn ymrwymo i gontract neu drefniant eraill ag ef sy’n ofynnol yn ôl y cyfarwyddyd;
(b)person a bennir mewn cyfarwyddyd o dan adran 121;
(c)Gweinidogion Cymru yn unol â chyfarwyddyd o dan adran 122;
(d)person a enwebir gan gyfarwyddyd o dan adran 122.
(3)Wrth arfer yr hawl o dan is-adran (1)(b) i arolygu cofnodion neu ddogfennau eraill—
(a)mae hawl gan berson (“P”) i gael mynediad at unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw offer neu ddeunydd cysylltiedig sy’n cael neu wedi cael eu defnyddio mewn cysylltiad â’r cofnodion neu ddogfennau eraill dan sylw, ac arolygu a gwirio eu gweithrediad, a
(b)caiff P ei gwneud yn ofynnol i’r personau canlynol ddarparu unrhyw gymorth sy’n rhesymol ofynnol gan P (gan gynnwys, ymhlith pethau eraill, sicrhau bod gwybodaeth ar gael i edrych arno neu ei gopïo ar ffurf ddarllenadwy)—
(i)y person y mae’r cyfrifiadur yn cael neu wedi cael ei ddefnyddio ganddo neu ar ei ran;
(ii)unrhyw berson sy’n gyfrifol am weithredu’r cyfrifiadur, yr offer neu’r deunydd, neu’n ymwneud mewn modd arall â’u gweithredu.
(4)Mae unrhyw gyfeiriad yn yr adran hon at berson sy’n dod o fewn is-adran (2) yn cynnwys cyfeiriad at unrhyw berson sy’n cynorthwyo’r person hwnnw.
(5)Yn yr adran hon mae “dogfen” a “chofnodion” ill dau yn cynnwys gwybodaeth a gofnodir ar unrhyw ffurf.
Gwybodaeth Cychwyn
I33A. 127 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
I34A. 127 mewn grym ar 1.12.2014 gan O.S. 2014/3127, ergl. 2(a), Atod. Rhn. 1
Yn adran 25 o Ddeddf Landlord a Thenant 1985, ar ôl is-adran (2) mewnosoder—
“(3)Subsection (1) does not apply where the person is—
(a)a local authority for an area in Wales, or
(b)a registered social landlord.”
Gwybodaeth Cychwyn
I35A. 128 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
I36A. 128 mewn grym ar 1.12.2014 gan O.S. 2014/3127, ergl. 2(a), Atod. Rhn. 1
Yn ddilys o 23/11/2016
Yn adran 26(1) o Ddeddf Landlord a Thenant 1985, ar ôl “a local authority” mewnosoder “for an area in England”.
Gwybodaeth Cychwyn
I37A. 129 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
Mae Rhan 3 o Atodlen 3 yn gwneud diwygiadau canlyniadol mewn perthynas â’r Rhan hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I38A. 130 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
I39A. 130 mewn grym ar 1.12.2014 gan O.S. 2014/3127, ergl. 2(a), Atod. Rhn. 1
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Pwynt Penodol mewn Amser: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the National Assembly for Wales.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys