xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn ddiwygio’r diffiniad o Sipsiwn a Theithwyr yn adran 108 drwy—
(a)ychwanegu disgrifiad o bersonau;
(b)addasu disgrifiad o bersonau;
(c)dileu disgrifiad o bersonau.
(2)Caiff gorchymyn o dan yr adran hon hefyd wneud ba bynnag ddiwygiadau i Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 ag y bydd Gweinidogion Cymru yn eu hystyried yn angenrheidiol neu’n briodol o ganlyniad i newid i’r diffiniad a grybwyllir yn is-adran (1).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 109 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
I2A. 109 mewn grym ar 25.2.2015 gan O.S. 2015/380, ergl. 2(g)