Deddf Tai (Cymru) 2014

113Ymgynghori ar safonau a chanllawiauLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

Cyn gosod, adolygu neu dynnu’n ôl safonau o dan adran 111 neu ddyroddi, adolygu neu dynnu’n ôl ganllawiau o dan adran 112, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag—

(a)un neu ragor o gyrff yr ymddengys iddynt eu bod yn cynrychioli buddiannau awdurdodau tai lleol,

(b)un neu ragor o gyrff yr ymddengys iddynt eu bod yn cynrychioli buddiannau tenantiaid, ac

(c)unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 113 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)

I2A. 113 mewn grym ar 1.12.2014 gan O.S. 2014/3127, ergl. 2(a), Atod. Rhn. 1