xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Pan fo awdurdod trwyddedu yn fodlon bod y ceisydd yn cwrdd â’r gofynion a nodir yn adran 19, rhaid iddo roi trwydded i’r ceisydd.
(2)Ar ôl rhoi’r drwydded rhaid i’r awdurdod trwyddedu—
(a)neilltuo rhif trwydded i ddeiliad y drwydded;
(b)cofnodi rhif y drwydded yn y drwydded;
(c)cofnodi’r dyddiad y rhoddwyd y drwydded yn y drwydded;
(d)rhoi’r drwydded i ddeiliad y drwydded.
(3)Pan fo awdurdod trwyddedu yn gwrthod cais, rhaid iddo hysbysu’r ceisydd—
(a)bod y cais wedi ei wrthod a’r rhesymau pam y’i gwrthodwyd;
(b)am hawl y ceisydd i apelio (gweler adran 27).
(4)Rhaid i’r awdurdod trwyddedu benderfynu ar gais o fewn cyfnod rhagnodedig.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
I2A. 21 mewn grym ar 1.12.2014 at ddibenion penodedig gan O.S. 2014/3127, ergl. 2(b), Atod. Rhn. 2
I3A. 21 mewn grym ar 23.11.2015 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/1826, ergl. 2(k)