Deddf Tai (Cymru) 2014

39Gwybodaeth anwir neu gamarweiniolLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Mae person—

(a)sy’n cyflenwi unrhyw wybodaeth sy’n anwir neu’n gamarweiniol i awdurdod trwyddedu mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau o dan y Rhan hon, a

(b)sy’n gwybod bod yr wybodaeth yn anwir neu’n gamarweiniol neu sy’n ddi-hid ynghylch pa un a yw’n anwir neu’n gamarweiniol,

yn cyflawni trosedd.

(2)Mae person—

(a)sy’n cyflenwi gwybodaeth sy’n anwir neu’n gamarweiniol i berson arall,

(b)sy’n gwybod ei bod yn anwir neu’n gamarweiniol neu sy’n ddi-hid ynghylch pa un a yw’n anwir neu’n gamarweiniol, ac

(c)sy’n gwybod bod yr wybodaeth i’w defnyddio at ddibenion cyflenwi gwybodaeth i awdurdod trwyddedu mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau o dan y Rhan hon,

yn cyflawni trosedd.

(3)Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan is-adran (1) neu (2) yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy.

(4)Yn yr adran hon, ystyr “yn anwir neu’n gamarweiniol” yw yn anwir neu’n gamarweiniol mewn unrhyw fater perthnasol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 39 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)

I2A. 39 mewn grym ar 23.11.2015 gan O.S. 2015/1826, ergl. 2(u)