Deddf Tai (Cymru) 2014

50Dyletswydd i gynnal adolygiad digartrefedd a llunio strategaeth ddigartrefeddLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Rhaid i awdurdod tai lleol (yn gyfnodol, fel sy’n ofynnol gan yr adran hon)—

(a)cynnal adolygiad digartrefedd ar gyfer ei ardal, a

(b)llunio a mabwysiadu strategaeth ddigartrefedd yn seiliedig ar ganlyniadau’r adolygiad hwnnw.

(2)Rhaid i’r awdurdod fabwysiadu strategaeth ddigartrefedd yn 2018 a strategaeth ddigartrefedd newydd ym mhob pedwaredd flwyddyn ar ôl 2018.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio is-adran (2) drwy orchymyn.

(4)Rhaid i gyngor sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru gymryd ei strategaeth ddigartrefedd i ystyriaeth wrth arfer ei swyddogaethau (gan gynnwys swyddogaethau sy’n arferadwy heblaw fel awdurdod tai lleol).

(5)Nid oes unrhyw beth yn is-adran (4) yn effeithio ar unrhyw ddyletswydd neu ofyniad sy’n codi ar wahân i’r adran hon.

(6)Yn y Bennod hon mae i “digartref” yr ystyr a roddir gan adran 55 ac mae “digartrefedd” i’w ddehongli yn unol â hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 50 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)

I2A. 50 mewn grym ar 1.12.2014 at ddibenion penodedig gan O.S. 2014/3127, ergl. 2(b), Atod. Rhn. 2

I3A. 50 mewn grym ar 27.4.2015 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/1272, ergl. 2, Atod. para. 1