Deddf Tai (Cymru) 2014

Yn ddilys o 27/04/2015

53Trosolwg o’r Bennod honLL+C
This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Mae’r Bennod hon yn rhoi dyletswyddau ar awdurdodau tai lleol i gynorthwyo pobl sy’n ddigartref neu o dan fygythiad o ddigartrefedd ac yn gwneud darpariaeth cysylltiedig.

(2)Mae adrannau 55 i 59 yn diffinio ac yn egluro fel arall ystyr rhai termau allweddol (ceir darpariaeth bellach ynghylch dehongli a mynegai o’r termau a ddiffinnir yn y Bennod hon yn adran 99).

(3)Mae adran 60 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau tai lleol sicrhau y darperir gwasanaeth sy’n darparu gwybodaeth a chyngor sy’n gysylltiedig â digartrefedd i bobl ynghyd â chynhorthwy i gael gafael ar gymorth o dan y Bennod hon.

(4)Mae adran 61 yn cyflwyno Atodlen 2 sy’n gwneud darpariaeth ynghylch cymhwyster i gael cymorth o dan y Bennod hon.

(5)Mae adran 62 yn gosod dyletswydd ar awdurdod tai lleol i asesu achosion pobl (“ceiswyr”) sy’n gwneud cais i’r awdurdod am lety, neu am gymorth i gadw neu gael gafael ar lety, pan fo’n ymddangos i’r awdurdod eu bod yn ddigartref neu o dan fygythiad o ddigartrefedd.

(6)Mae adran 63 yn darparu ar gyfer rhoi hysbysiad i geiswyr ynghylch canlyniad yr asesiad.

(7)Mae adran 64 yn rhoi enghreifftiau o’r mathau o ffyrdd y caniateir arfer y dyletswyddau dilynol i sicrhau neu gynorthwyo i sicrhau bod llety ar gael a beth y caniateir ei wneud er mwyn eu harfer; ac mae adran 65 yn egluro beth y mae “cynorthwyo i sicrhau” yn ei olygu.

(8)Mae adrannau 66 i 79 yn nodi’r prif ddyletswyddau sydd ar awdurdodau tai lleol i gynorthwyo ceiswyr, yr amgylchiadau pan fo’r dyletswyddau hynny’n dod i ben a darpariaeth gysylltiedig; y prif ddyletswyddau yw—

(a)dyletswydd i gynorthwyo i atal ceiswyr sydd o dan fygythiad o ddigartrefedd rhag dod yn ddigartref (adran 66);

(b)dyletswydd i sicrhau llety interim ar gyfer ceiswyr mewn angen blaenoriaethol (adran 68) (mae adran 70 yn darparu ar gyfer pwy sydd i gael angen blaenoriaethol am lety at ddibenion y Bennod);

(c)dyletswydd i gynorthwyo i sicrhau bod llety addas ar gael i geiswyr digartref ei feddiannu (adran 73);

(d)dyletswydd i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr mewn angen blaenoriaethol pan fydd y ddyletswydd yn adran 73 yn dod i ben (adran 75).

(9)Mae adran 78 yn darparu ar gyfer yr amgylchiadau hynny pan gaiff awdurdodau tai lleol roi sylw i ba un a ddaeth ceisydd yn ddigartref yn fwriadol ai peidio wrth benderfynu a yw dyletswydd i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr mewn angen blaenoriaethol yn gymwys; mae adran 77 yn darparu ar gyfer ystyr bod yn ddigartref yn fwriadol.

(10)Mae adrannau 80 i 82 yn darparu y caiff awdurdodau tai lleol ddod â’u dyletswydd i geisydd i ben drwy gyfeirio eu hachosion at at awdurdodau eraill yng Nghymru neu Loegr, pan fo gan y ceiswyr gysylltiad lleol ag ardaloedd yr awdurdodau eraill hynny; mae adran 81 yn diffinio ystyr “cysylltiad lleol” at ddibenion y Bennod hon.

(11)Mae adrannau 85 i 89 yn darparu ar gyfer adolygiadau ac apelau.

(12)Mae adrannau 90 i 99 yn gwneud darpariaeth atodol a chyffredinol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 53 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)