xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Cyn gynted â phosibl ar ôl diwedd pob cyfnod adrodd, rhaid i CCAUC gyflwyno adroddiad i Weinidogion Cymru ar sut, yn ystod y cyfnod, y mae CCAUC wedi arfer ei swyddogaethau yn rhinwedd y Ddeddf hon.
(2)Cyn gynted â phosibl ar ôl cael adroddiad o dan is-adran (1), rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o’r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
(3)Rhaid i’r adroddiad gydymffurfio ag unrhyw ofynion y caiff Gweinidogion Cymru eu pennu drwy gyfarwyddyd i CCAUC.
(4)Caiff y gofynion hynny gynnwys gofynion o ran ffurf a chynnwys yr adroddiad.
(5)At ddibenion yr adran hon y cyfnod adrodd cyntaf yw’r cyfnod—
(a)sy’n dechrau ar y diwrnod y daw’r adran hon i rym, a
(b)sy’n dod i ben ar ba ddiwrnod bynnag yw’r cynharach o flwyddyn ar ôl y diwrnod hwnnw, a diwrnod a bennir gan CCAUC mewn hysbysiad a roddir i Weinidogion Cymru.
(6)Y cyfnodau adrodd dilynol yw pob cyfnod olynol o 12 mis.
(7)Caiff Gweinidogion Cymru drwy gyfarwyddyd bennu gofynion y mae hysbysiad a roddir fel y’i disgrifir yn is-adran (5) i gydymffurfio â hwy (gan gynnwys o ran ffurf a chynnwys, a’r adeg y mae i’w roi); ac nid yw’r hysbysiad i’w drin fel pe bai wedi ei roi at ddibenion is-adran (5) oni bai ei fod yn cydymffurfio â’r gofynion hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 50 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)
I2A. 50 mewn grym ar 1.8.2017 gan O.S. 2017/239, ergl. 2
(1)Rhaid i CCAUC, os y’i cyfarwyddir i wneud hynny gan Weinidogion Cymru, adrodd i Weinidogion Cymru ar unrhyw un neu ragor o’r canlynol—
(a)cydymffurfedd ag adran 10(1) gan sefydliadau o fewn adran 10(2) yn gyffredinol neu gan sefydliad penodol;
(b)cydymffurfedd â gofynion cyffredinol cynlluniau a gymeradwywyd yn gyffredinol, neu â gofynion cyffredinol cynllun penodol a gymeradwywyd;
(c)effeithiolrwydd cynlluniau a gymeradwywyd yn gyffredinol, neu effeithiolrwydd cynllun penodol a gymeradwywyd, wrth hybu cyfle cyfartal a hybu addysg uwch;
(d)unrhyw faterion eraill a bennir yn y cyfarwyddyd sy’n ymwneud â hybu cyfle cyfartal neu hybu addysg uwch;
(e)ansawdd yr addysg a ddarperir gan neu ar ran sefydliadau rheoleiddiedig yn gyffredinol, neu ansawdd yr addysg a ddarperir gan neu ar ran sefydliad rheoleiddiedig penodol;
(f)cydymffurfedd gan sefydliadau rheoleiddiedig yn gyffredinol, neu gan sefydliad rheoleiddiedig penodol, â gofynion y Cod.
(2)Caiff cyfarwyddyd o dan is-adran (1) bennu—
(a)ffurf a chynnwys adroddiad a wneir at ddibenion yr adran hon;
(b)pryd y mae’r adroddiad i’w wneud.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 51 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)
I4A. 51(1)(a)(e)(2) mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(m)
I5A. 51(1)(b)-(d)(f) mewn grym ar 1.8.2017 gan O.S. 2017/239, ergl. 2