Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015

18Addysg o ansawdd annigonol: cyffredinolLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Mae adrannau 19 ac 20 yn gymwys os, o ganlyniad i arfer ei swyddogaethau o dan adran 17, mae CCAUC wedi ei fodloni—

(a)bod ansawdd yr addysg a ddarperir gan neu ar ran sefydliad rheoleiddiedig, neu

(b)bod ansawdd cwrs addysg penodol a ddarperir felly,

yn annigonol neu’n debygol o ddod yn annigonol.

(2)At ddibenion y Ddeddf hon, mae ansawdd yr addysg neu gwrs addysg yn annigonol os nad yw’n ddigonol i ddiwallu anghenion rhesymol y rhai hynny sy’n cael yr addysg neu sy’n ymgymryd â’r cwrs.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I2A. 18 mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(h)