Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

PENNOD 3LL+CAMRYWIOL

47Uno [F1a daduno] byrddau gwasanaethau cyhoeddusLL+C

(1)Caiff dau neu ragor o fyrddau gwasanaethau cyhoeddus gytuno i uno os ystyrir y byddai’n eu cynorthwyo i gyfrannu at gyrraedd y nodau llesiant.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo dau neu ragor o fyrddau gwasanaethau cyhoeddus i uno os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried y byddai’n cynorthwyo’r byrddau i gyfrannu at gyrraedd y nodau llesiant.

F2(3). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(4)Os yw dau neu ragor o fyrddau yn uno—

(a)rhaid i gyfeiriadau yn y Rhan hon (ac eithrio yn yr adran hon) at fwrdd gwasanaethau cyhoeddus gael eu dehongli fel cyfeiriadau at y bwrdd unedig, a

(b)rhaid i gyfeiriadau yn y Rhan hon at ardal awdurdod lleol gael eu dehongli fel cyfeiriadau at ardaloedd cyfunedig yr awdurdodau lleol sy’n aelodau o’r bwrdd unedig.

[F3(5)Rhaid i fwrdd unedig, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl iddo gael ei sefydlu, adolygu—

(a)y cynlluniau llesiant lleol a oedd yn weithredol ar gyfer ei ardal yn union cyn iddo gael ei sefydlu, a

(b)yr amcanion lleol a nodir yn y cynlluniau hynny.

(6)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl adolygiad o dan is-adran (5), rhaid i’r bwrdd baratoi a chyhoeddi ar gyfer ei ardal gynllun llesiant lleol a gaiff fabwysiadu’r cynlluniau a’r amcanion a grybwyllir yn is-adran (5)(a) a (b)—

(a)i’r graddau y bo’r bwrdd yn ystyried bod hynny’n briodol, a

(b)yn ddarostyngedig i’r diwygiadau a’r newidiadau hynny y mae’r bwrdd yn ystyried eu bod yn briodol.

(7)Caiff bwrdd unedig, os yw’n ystyried y byddai hynny’n cynorthwyo i gyfrannu at gyrraedd y nodau llesiant—

(a)daduno, neu

(b)daduno yn rhannol (os gwnaeth tri bwrdd neu ragor uno i greu’r bwrdd unedig).

(8)Caiff Gweinidogion Cymru, os ydynt yn ystyried y byddai hynny’n cynorthwyo i gyfrannu at gyrraedd y nodau llesiant, gyfarwyddo bwrdd unedig—

(a)i ddaduno, neu

(b)i ddaduno yn rhannol (os gwnaeth tri bwrdd neu ragor uno i greu’r bwrdd unedig).

(9)At ddibenion is-adrannau (7) ac (8), mae bwrdd unedig—

(a)yn daduno os yw’n peidio â bodoli a bod bwrdd gwasanaethau cyhoeddus ar wahân yn cael ei sefydlu ar gyfer ardal pob awdurdod lleol a oedd yn aelod o’r bwrdd unedig;

(b)yn daduno yn rhannol—

(i)os yw’n parhau i fodoli fel y bwrdd gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer ardaloedd dau awdurdod lleol neu ragor, a

(ii)os sefydlir bwrdd gwasanaethau cyhoeddus ar wahân ar gyfer ardal pob awdurdod lleol sydd wedi peidio â bod yn aelod o’r bwrdd unedig.

(10)Rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus a sefydlir ar ôl daduno neu ddaduno yn rhannol, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl iddo gael ei sefydlu, adolygu—

(a)y cynllun llesiant lleol a oedd yn weithredol ar gyfer ei ardal yn union cyn iddo gael ei sefydlu, a

(b)yr amcanion lleol a nodir yn y cynllun hwnnw.

(11)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl adolygiad o dan is-adran (10), rhaid i’r bwrdd baratoi a chyhoeddi ar gyfer ei ardal gynllun llesiant lleol a gaiff fabwysiadu’r cynllun a’r amcanion a grybwyllir yn is-adran (10)(a) a (b)—

(a)i’r graddau y bo’r bwrdd yn ystyried bod hynny’n briodol, a

(b)yn ddarostyngedig i’r diwygiadau a’r newidiadau hynny y mae’r bwrdd yn ystyried eu bod yn briodol.

(12)Cyn cyhoeddi cynllun o dan is-adran (6) neu (11), rhaid i fwrdd ymgynghori ag—

(a)y Comisiynydd;

(b)Gweinidogion Cymru;

(c)unrhyw bersonau eraill y mae’r bwrdd yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.

(13)Rhaid i fwrdd anfon copi o gynllun llesiant lleol a gyhoeddir o dan is-adran (6) neu (11) at y personau a grybwyllir yn adran 44(6).]

Diwygiadau Testunol

F1Geiriau yn a. 47 pennawd wedi eu hamnewid (20.3.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(3)(q), Atod. 14 para. 1(5)

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 47 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I2A. 47 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3

48Cydlafurio rhwng byrddau gwasanaethau cyhoeddusLL+C

(1)Caiff dau neu ragor o fyrddau gwasanaethau cyhoeddus gytuno i gydlafurio os ystyrir y byddai’n eu cynorthwyo i gyfrannu at gyrraedd y nodau llesiant.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo dau neu ragor o fyrddau gwasanaethau cyhoeddus i gydlafurio ym mha ffodd bynnag y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried y byddai’n cynorthwyo’r byrddau i gyfrannu at gyrraedd y nodau llesiant.

(3)At ddibenion yr adran hon, mae bwrdd yn cydlafurio os yw’n—

(a)cydweithredu â bwrdd arall,

(b)hwyluso gweithgareddau bwrdd arall,

(c)cydgysylltu ei weithgareddau â bwrdd arall,

(d)arfer swyddogaethau bwrdd arall ar ei ran, neu

(e)darparu staff, nwyddau, gwasanaethau neu lety i fwrdd arall.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 48 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I4A. 48 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3

49Cyfarwyddydau i uno [F4, i ddaduno] neu i gydlafurioLL+C

(1)Cyn rhoi cyfarwyddyd o dan adran 47(2) neu [F5(8) neu adran] 48(2) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â phob aelod o’r bwrdd [F6neu’r byrddau] gwasanaethau cyhoeddus y maent yn bwriadu eu cyfarwyddo.

(2)Wrth roi cyfarwyddyd o’r fath, rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi datganiad sy’n cynnwys eu rhesymau dros wneud hynny.

[F7(3)Caiff Gweinidogion Cymru amrywio neu ddirymu cyfarwyddyd o’r fath.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 49 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I6A. 49 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3

50Dangosyddion perfformiad a safonauLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, bennu dangosyddion a safonau ar gyfer mesur perfformiad byrddau gwasanaethau cyhoeddus o ran arfer ei swyddogaethau.

(2)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (1), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—

(a)aelodau y byrddau neu bersonau sy’n ymddangos i Weinidogion Cymru fel pe baent yn cynrychioli’r aelodau hynny;

(b)unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn eu hystyried yn briodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 50 mewn grym ar 30.4.2015 at ddibenion penodedig, gweler a. 56(1)(b)

I8A. 50 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3

51CanllawiauLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus ynghylch arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon.

(2)Wrth arfer swyddogaeth o dan y Rhan hon, rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus ystyried canllawiau o’r fath.

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 51 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I10A. 51 mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(m)