Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

26Panel cynghoriLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Sefydlir panel o gynghorwyr (y “panel cynghori”) at y diben o ddarparu cyngor i’r Comisiynydd ynghylch arfer swyddogaethau’r Comisiynydd.

(2)Dyma aelodau’r panel cynghori—

(a)Comisiynydd Plant Cymru;

(b)Comisiynydd y Gymraeg;

(c)Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru;

(d)yr aelod staff o fewn Llywodraeth Cymru a ddynodwyd yn Brif Swyddog Meddygol Cymru gan Weinidogion Cymru;

(e)cadeirydd Corff Adnoddau Naturiol Cymru neu aelod anweithredol arall o’r corff hwnnw a ddetholir gan y cadeirydd;

(f)swyddog o’r corff sy’n cynrychioli undebau llafur yng Nghymru a elwir yn Wales TUC Cymru a enwebir gan y corff hwnnw;

(g)cadeirydd, cyfarwyddwr neu swyddog tebyg y caiff Gweinidogion Cymru ei benodi mewn corff sy’n cynrychioli personau sy’n cynnal busnes yng Nghymru;

(h)y cyfryw berson arall ag y caiff Gweinidogion Cymru ei benodi.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 26 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I2A. 26 mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(h)