39Cynlluniau llesiant lleol
(1)Rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus baratoi a chyhoeddi cynllun (“cynllun llesiant lleol”) sy’n nodi ei amcanion lleol a’r camau y mae’n bwriadu eu cymryd i’w cyflawni.
(2)Caiff y cynllun gynnwys amcanion—
(a)sydd hefyd yn amcanion llesiant a gyhoeddwyd o dan Ran 2 gan aelod o’r bwrdd;
(b)sydd i’w cyflawni drwy gymryd camau—
(i)gan un neu ragor o aelodau o’r bwrdd, cyfranogwyr gwadd neu bartneriaid eraill sy’n gweithredu’n unigol, neu
(ii)unrhyw gyfuniad o aelodau, cyfranogwyr gwadd neu bartneriaid eraill sy’n gweithredu ar y cyd.
(3)Ond ni chaniateir i gynllun gynnwys amcan sydd i’w gyflawni drwy gamau sydd i’w cymryd gan gyfranogwr gwadd neu bartner arall (pa un ai yn unigol neu ar y cyd mewn unrhyw gyfuniad o aelodau, cyfranogwyr gwadd neu bartneriaid eraill) ond os yw’r bwrdd wedi cael cydsyniad y cyfranogwr gwadd neu’r partner arall hwnnw, yn ôl y digwydd.
(4)Wrth osod ei amcanion llesiant rhaid i fwrdd ystyried adroddiad y Comisiynydd o dan adran 23.
(5)Rhaid i gynllun llesiant lleol gynnwys datganiad—
(a)sy’n egluro pam y mae’r bwrdd yn ystyried y bydd cyflawni’r amcanion lleol yn cyfrannu o fewn yr ardal at gyrraedd y nodau llesiant;
(b)sy’n egluro sut y mae’r amcanion ac unrhyw gamau arfaethedig wedi eu gosod mewn cysylltiad ag unrhyw faterion a grybwyllir yn yr asesiad diweddaraf o lesiant a gyhoeddwyd o dan adran 37;
(c)sy’n pennu’r cyfnodau amser y mae’r bwrdd yn disgwyl cyflawni’r amcanion o fewn iddynt;
(d)sy’n egluro sut y mae unrhyw gamau arfaethedig i’w cymryd yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy;
(e)os yw’r cynllun yn cynnwys amcanion y cyfeirir atynt yn is-adran (2)(b), sy’n pennu’r camau arfaethedig i’w cymryd er mwyn cyflawni’r amcanion hynny ac, yn achos camau i’w cymryd gan gyfuniad o aelodau’r bwrdd, cyfranogwyr gwadd neu bartneriaid eraill, y personau sydd yn y cyfuniad;
(f)os nad y cynllun cyntaf i’r bwrdd ei gyhoeddi yw’r cynllun, sy’n pennu’r camau a gymerwyd i gyflawni’r amcanion a nodir yng nghynllun blaenorol y bwrdd a phennu i ba raddau y mae’r amcanion hynny wedi eu cyflawni;
(g)sy’n darparu unrhyw wybodaeth arall y mae’r bwrdd yn ei hystyried yn briodol.
(6)Rhaid i bob bwrdd gyhoeddi ei gynllun llesiant lleol heb fod yn hwyrach nag un flwyddyn ar ôl y dyddiad y cynhelir yr etholiad arferol nesaf o dan adran 26 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p.70) ar ôl cychwyn yr adran hon.
(7)Yn dilyn hynny, rhaid i bob bwrdd gyhoeddi cynllun llesiant lleol ymhen dim mwy na blwyddyn ar ôl y dyddiad y cynhelir bob etholiad arferol wedi hynny o dan yr adran honno.
(8)Rhaid i bob bwrdd anfon copi o’i gynllun at—
(a)Gweinidogion Cymru;
(b)y Comisiynydd;
(c)Archwilydd Cyffredinol Cymru;
(d)pwyllgor trosolwg a chraffu’r awdurdod lleol.