xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4LL+CBYRDDAU GWASANAETHAU CYHOEDDUS

PENNOD 2LL+CGWELLA LLESIANT LLEOL

Cynlluniau llesiant lleolLL+C

Yn ddilys o 01/04/2016

41Paratoi cynlluniau llesiant lleol: gwybodaeth am weithgarwch eraillLL+C

(1)Wrth baratoi ei gynllun llesiant lleol (a chyn ymgynghori o dan adran 43), caiff bwrdd gwasanaethau cyhoeddus ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson a grybwyllir yn is-adran (2) i ddarparu gwybodaeth i’r bwrdd ynghylch unrhyw weithred y mae’n ei chyflawni a allai gyfrannu o fewn ardal y bwrdd at gyrraedd y nodau llesiant.

(2)Y personau yw—

(a)y personau a wahoddir i gyfranogi yng ngweithgarwch y bwrdd, heblaw am Weinidogion Cymru (gweler adran 30);

(b)partneriaid eraill y bwrdd (gweler adran 32).

(3)Ond nid yw’n ofynnol i berson a grybwyllir yn is-adran (2) ddarparu gwybodaeth i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus—

(a)os yw’r person yn ystyried y byddai gwneud hynny—

(i)yn anghydnaws â‘i ddyletswyddau, neu

(ii)fel arall yn cael effaith andwyol ar arfer ei swyddogaethau, neu

(b)os yw’r person wedi ei wahardd rhag ei darparu yn rhinwedd deddfiad neu unrhyw reol gyfreithiol arall.

(4)Pan fo person a grybwyllir yn is-adran (2) yn penderfynu, drwy ddibynnu ar is-adran (3)(a), nad yw’n ofynnol iddo ddarparu gwybodaeth i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus, rhaid iddo roi resymau ysgrifenedig dros y penderfyniad i’r bwrdd.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 41 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)