Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

6Ystyr “corff cyhoeddus”LL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)At ddibenion y Rhan hon a Rhan 3 o’r Ddeddf hon, mae pob un o’r personau canlynol yn “gorff cyhoeddus”—

(a)Gweinidogion Cymru;

(b)awdurdod lleol;

[F1(ba)cyd-bwyllgor corfforedig;]

(c)Bwrdd Iechyd Lleol;

(d)yr Ymddiriedolaethau GIG a ganlyn—

(i)Iechyd Cyhoeddus Cymru;

(ii)Felindre;

(e)awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;

(f)awdurdod tân ac achub yng Nghymru;

(g)Corff Adnoddau Naturiol Cymru;

(h)Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru;

(i)Cyngor Celfyddydau Cymru;

(j)Cyngor Chwaraeon Cymru;

(k)Llyfrgell Genedlaethol Cymru;

(l)Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

(2)Mae adran 52 yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddiwygio ystyr “corff cyhoeddus”.

(3)Mae Pennod 1 o Ran 4 yn darparu bod personau sydd wedi eu rhestru fel cyrff cyhoeddus yn is-adran (1) (yn ogystal â phersonau penodol eraill sy’n arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus) naill ai yn aelodau o fyrddau gwasanaethau cyhoeddus a sefydlir o dan y Rhan honno, neu’n gyfranogwyr gwadd neu’n bartneriaid eraill i fyrddau.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)

I2A. 6 mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(b)